Holl Newyddion A–Y

Ail brosiect o fewn Hwb y Sefydliad Wellcome yn canolbwyntio ar Ddementia

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2016

Anti Glenda a'i ffrindiau Dementia - Eisteddfod Genedlaethol Mawrth 8 Awst

Mae adnodd aml-gyfrwng a grëwyd gan ddisgyblion Ysgol Pentreuchaf i godi ymwybyddiaeth o ddementia, wedi ei ddangos am y tro cyntaf mewn cyfarfod i drafod project arloesol, Project Anti Glenda, ym Mhabell Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod bore 'ma (ddydd Mawrth 8 Awst). Mae dementia yn broblem iechyd cyhoeddus o bwys yng Nghymru ac mae'r ymchwil a'r dysgu ym Mhrifysgol Bangor wedi ei anelu at wella’r gefnogaeth i’r rhai hynny sy'n byw gyda'r cyflwr. Amcangyfrifir bod rhwng 40,000 a 50,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia. Gall y symptomau amrywio yn ôl y math o ddementia ond gall y cyflwr effeithio ar dasgau bob dydd, cyfathrebu, y synhwyrau a'r cof.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2017

Archwiliad cyntaf o wytnwch iechyd meddwl ac unigrwydd pobl hŷn â nam gwybyddol yng Nghymru

Mae unigrwydd a phroblemau iechyd meddwl yn fwy cyffredin ymhlith pobl hŷn sydd â dementia neu sy'n cael anawsterau gyda'r cof, meddwl a dysgu. Ond ni fydd pob unigolyn yn cael ei effeithio yn yr un modd. Mae gwyddonwyr wedi nodi grŵp o bobl sy'n ymddangos yn hynod o wydn yn yr ystyr nad ydynt yn nodi eu bod yn profi anawsterau iechyd meddwl er gwaethaf dementia neu nam gwybyddol. Fe wnaeth astudiaeth ddiweddar, a gyhoeddwyd yn yr International Journal of Geriatric Psychiatry, ganfod bod yr unigolion hyn sydd â gwytnwch iechyd meddwl hefyd yn llai tebygol o brofi unigrwydd.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2021

Archwiliad cyntaf o wytnwch iechyd meddwl ac unigrwydd pobl hŷn â nam gwybyddol yng nghymru

Mae unigrwydd a phroblemau iechyd meddwl yn fwy cyffredin ymhlith pobl hŷn sydd â dementia neu sy'n cael anawsterau gyda'r cof, meddwl a dysgu. Ond ni fydd pob unigolyn yn cael ei effeithio yn yr un modd.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Ebrill 2021

Arddangos celf boblogaidd yn seiliedig ar ddementia yn y Rhyl

Daw gweithgareddau Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia Prifysgol Bangor i ben gyda gosodiad doniol o gelf sy'n dod yn fyw wrth iddi nosi yn y Taste Academy yn y Rhyl.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Mai 2016

Arian i ddatblygu mwy o ymchwilwyr ym maes dementia

Mae oddeutu 45,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru, ac amcangyfrifir bod yr afiechyd yn costio £1.4 biliwn y flwyddyn. Y ganran uchaf o’r gost yw’r gofal di-dâl a ddarperir gan deuluoedd a chyfeillion. Nid yw gwasanaethau dementia ar gael i bawb yn yr un modd, ac mae cael mynediad at y gwasanaethau drwy sectorau iechyd a gofal yn anodd i rai. Mae cludiant cyhoeddus yn wael a’r risg y bydd gofalwyr yn teimlo’n ynysig a heb gefnogaeth hefyd yn heriau arbennig mewn ardaloedd gwledig. Mae ymchwilwyr yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor wedi cael dros hanner miliwn o bunnoedd mewn cyllid i gynnal dwy Gymrodoriaeth Ymchwil mewn Ymchwil ym maes Dementia gan Lywodraeth Cymru. Bwriad y Cymrodoriaethau hyn, a ariennir drwy Y mchwil Iechyd a Gofal Cymru , yw cynyddu’r gallu mewn ymchwil gofal ac iechyd drwy gefnogi unigolion i ddod yn ymchwilwyr annibynnol a chynnal projectau ymchwil o ansawdd uchel.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2017

Astudiaeth i archwilio opsiynau amgen i ganolfannau dydd ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia

Mae Dr Gill Toms, Dr Diane Seddon, yr Athro Rhiannon Tudor-Edwards a Dr Carys Jones o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor, a'u partneriaid Person Shaped Support (UK) Ltd. a Shared Lives Plus, wedi sicrhau cyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer astudiaeth ddwy flynedd i archwilio i opsiynau amgen i gefnogaeth canolfannau dydd ar gyfer pobl yng Ngogledd Cymru sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2020

Athro ymysg 28 o wyddonwyr cymdeithas blaenllaw i dderbyn teitl Academydd

Mae Bob Woods, Athro Seicoleg Glinigol Pobl Hŷn ym Mhrifysgol Bangor, yn un o 28 o wyddonwyr cymdeithas blaenllaw i dderbyn teitl Academydd o fewn yr Academi Gwyddorau Cymdeithas.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Mawrth 2014

CDGD Cymru yn cyfrannu at ddatblygu ‘Promoting psychological wellbeing for people with dementia and their carers:

DSDC Cymru yn cyfrannu at ddatblygu ‘Promoting psychological wellbeing for people with dementia and their carers: An enhanced practice resource’ gan Education for NHS Scotland.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2013

CDGD yn aelod o GARN

Mae DSDC Cymru yn falch o gael ei dderbyn yn aelod o'r "International Association of Gerontology and Geriatrics Global Ageing Research Network" (GARN).

Dyddiad cyhoeddi: 8 Gorffennaf 2013

Canfod ffyrdd newydd o fyw gyda dementia

As the Welsh Government seeks views on its recently launched dementia strategy, Bangor University is bringing together people living with dementia, and organisations who are also working on dementia related support and research projects to share best practice in north Wales. Living with dementia in North Wales – we’re in it together , a Conference at the University on 27 January, will hear the experiences of people living with dementia, as well as those of a number of organisations providing dementia supportive programmes and conducting dementia-related research.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Ionawr 2017

Cerddoriaeth i gysuro siaradwyr Cymraeg sy'n byw gyda dementia

Erbyn hyn, gall siaradwyr Cymraeg sy'n byw gyda dementia fwynhau caneuon o'u gorffennol yn Gymraeg diolch i fenter gan Brifysgol Bangor a Merched y Wawr cefnogwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu staff gofal Cymru i wella bywydau preswylwyr Cymraeg. Yn ôl pob sôn, mae hynny'n helpu i'w cysuro, eu hysgogi a dwyn i gof atgofion maen nhw wedi'u hanghofio. Fel rhan o’r fenter bydd CD a rhestr chwarae newydd o gerddoriaeth sydd wedi'i churadu'n arbennig yn cael ei dosbarthu i gartrefi gofal ar draws Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2019

Chwech o Brifysgol Bangor yn cael eu penodi’n Uwch Arweinwyr Ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Mae chwe ymchwilydd ym maes iechyd a gofal cymunedol ym Mhrifysgol Bangor wedi'u penodi’n Uwch Arweinwyr Ymchwil- Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2016

Combining daycare for children and elders benefits all generations

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Catrin Hedd Jones o’r Ysgol Gwyddorau Iechyd sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddio l.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Ionawr 2017

Creu cymunedau sy’n gefnogol i bobol â dementia yng Ngogledd Cymru

Gwahoddir pobl sy’n byw â dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr i ymuno mewn rhwydwaith ar draws gogledd Cymru gyda gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio i gefnogi pobl â dementia yn y gwasanaeth iechyd, y sector fasnach a’r trydydd sector ynghyd ag arbenigwyr sydd yn ymchwilio i’r cyflwr. Bwriad y rhwydwaith newydd yw darparu cefnogaeth, gwybodaeth a chyfle i rannu gwybodaeth a phrofiad a chyfle i bobl gefnogi ei gilydd. Sefydlwyd y rhwydwaith gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor, lle mae’r Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia (DSDC) yn arwain y ffordd wrth ddarparu ymchwil a chyngor ymarferol am ffyrdd newydd o gefnogi pobl sydd yn byw â dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr, er mwyn cyfoethogi eu bywydau.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2016

Cymdeithas Alzheimer yn ymrwymo bron i £2filiwn i chwyldroi ymchwil i ofal dementia

Mae Cymdeithas Alzheimer wedi cyhoeddi ar 20fed Mehefin ei bod wedi ymrwymo bron i £2filiwn i grŵp o brifysgolion a sefydliadau yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Prifysgol Bangor, fel rhan o'i buddsoddiad unigol mwyaf erioed mewn ymchwil gofal dementia. Arweinir y cynllun gan Brifysgol Caerwysg.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mehefin 2017

Cymorth amhrisiadwy i fobl sydd yn byw efo dementia gan wirfoddolwyr Cruse

Mae ymchwilwyr yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor yn gwerthuso gwasanaeth newydd i ddarparu cymorth emosiynol ar ôl diagnosis o dementia. Datblygwyd yr gwasanaeth gan Maxine Norrish yn Cruse Cymru, pobl sydd yn byw efo dementia mewn partneriaeth â Chymdeithas Alzheimer Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2021

Cymry’n cymryd rhan mewn ymchwil i ddementia

Yn ôl canlyniadau astudiaeth ymchwil ar raddfa fawr a adroddodd yn gynharach eleni, bu lleihad yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf yn nifer y rhai sydd â dementia. Yn ôl y ffigurau yng nghyswllt Lloegr a nodwyd yn adroddiad yr Astudiaeth ar Weithrediad Gwybyddol a Heneiddio, ceir awgrym, o’u cymhwyso at y DU yn ei chrynswth, fod 214,000 yn llai o achosion o ddementia nag a ddaroganwyd. Byddai hyn hefyd yn awgrymu mai rhyw 670,000 o bobl sydd ar hyn o bryd yn byw yn y DU gyda dementia, yn hytrach na’r amcangyfrif o 800,000-900,000. I helpu i ddeall y sefyllfa yng Nghymru, mae Prifysgol Bangor yn arwain y fersiwn Cymreig o’r ymchwil hon. Mae’r ymchwilwyr yn bwriadu cyhoeddi ystadegau penodol yr haf nesaf ar y niferoedd sydd â dementia yng Nghymru.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Tachwedd 2013

Cystadleuaeth Cartrefi Gofal Gogledd Cymru i: Gyfoethogi Gofal i gefnogi pobl gyda Dementia trwy Amgylcheddau Gwell:

Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2014

Dementia: gall y label "salwch" wneud i bobl fod yn isel eu hysbryd

Bu pobl yng ngogledd Cymru yn cymryd rhan mewn ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar ac sy'n dangos bod pobl sy'n ystyried symptomau dementia fel salwch yn teimlo'n fwy negyddol na'r rhai sy'n ei weld fel rhan annatod o fynd yn hŷn.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2016

Dewch i ddathlu’r Nadolig gyda ni

Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2024

Digwyddiad Dathlu Sgyrsiau Creadigol

Bangor University, in partnership with Flintshire Social Services, and the renowned author John Killick has recently celebrated their latest project in supporting people with dementia - Creative Conversations.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2018

Digwyddiad Dathlu Sgyrsiau Creadigol

Yn ddiweddar, bu Prifysgol Bangor, mewn partneriaeth â Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, a'r awdur enwog John Killick, yn dathlu eu project diweddaraf yn cefnogi pobl sydd â dementia - Sgyrsiau Creadigol. Arweiniwyd y project gan Dr Kat Algar-Skaife o'r Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia ( DSDC ) Cymru, yng Ngholeg Gwyddorau Dynol Prifysgol Bangor a chafodd ei ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Llywodraeth Cymru

Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2018

Dim ond awr o ryngweithio cymdeithasol bob wythnos yn gwella gofal dementia

Mae cael dim ond awr yr wythnos yn ychwanegol o ryngweithio cymdeithasol i bobl gyda dementia sy'n byw mewn cartrefi gofal yn gwella ansawdd bywyd, pan gyfunir hynny â gofal personol. Cyfrannodd Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor at arbrawf ar lefel eang a arweiniwyd gan Brifysgol Exeter, King’s College, Llundain a'r Oxford Health NHS Foundation Trust. Daeth i'r amlwg bod y dull gweithredu hwn hefyd yn arbed arian.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2018

Disgyblion ysgol yn ymgolli mewn celf mewn project Dementia a’r Dychymyg

Mae plant ysgol o Sir Ddinbych wedi gweithio ochr yn ochr â grŵp celf ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia i greu darn o gelf ar raddfa fawr sy’n ymateb dychmygus i gwestiynau sy’n gysylltiedig ac yn cynnwys pobl sy’n byw gyda dementia yn ein cymdeithas. Ymunodd y plant ysgol Blwyddyn 6 o Ysgol Gynradd Clawdd Offa, Prestatyn ag aelodau’r grŵp o raglen ‘Ymgolli mewn Celf’ Cyngor Sir Ddinbych (SCDd) i annog cwestiynau ynglŷn â chreu cymunedau cynhwysol a chefnogol i bobl sy’n byw gyda dementia yn ein cymunedau. Bydd y plant hefyd yn cymryd rhan mewn sesiwn ymwybyddiaeth Dementia Friends cyn y gweithdy i ddysgu mwy am y salwch.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Ebrill 2016

Dr Gill Windle i ymuno â grŵp cynghori Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Gofal (NICE)

Dyddiad cyhoeddi: 11 Awst 2014

Edrych tuag at y dyfodol: Dementia a Dychymyg yn Ffair Utopia

Bydd Dementia a Dychymyg , project cyffrous dan arweiniad Prifysgol Bangor sy'n rhoi cyfle i bobl â dementia gymryd rhan mewn gweithgareddau celf, yn cynnal stondin yn Ffair UTOPIA 2016 yn Somerset House . Mae UTOPIA 2016 yn broject ar y cyd rhwng tri chymydog yn Llundain: Somerset House , King's College , Llundain a Sefydliad ac Oriel Courtauld, mewn partneriaeth â'r Llyfrgell Brydeinig, yr AHRC, y Cyngor Prydeinig, y London School of Economics and Political Science , M-Museum yn Leuven, Guardian Live a Verso .

Dyddiad cyhoeddi: 24 Mehefin 2016

Eglwysi i sefydlu projectau dementia-gyfeillgar newydd ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru

Mae pum grŵp o eglwysi ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru wedi derbyn cyllid i ddatblygu projectau cymunedol dementia-gyfeillgar ac i weithio tuag at ddod yn "ddementia-gyfeillgar".

Dyddiad cyhoeddi: 19 Mai 2017

Five-country survey of carers highlights continuing delays in dementia diagnosis across countries

Nid yw'r datganiad yma, a gyhoeddwyd heddiw gan Alzheimer Europe ar gael yn y Gymraeg.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2017

Grwpiau trafod a gemau geiriau o fudd i bobl â dementia

Gall gweithgareddau mor syml â grwpiau trafod strwythuredig a gemau geiriau fod o les i gof a meddwl pobl sydd â chlefyd Alzheimer neu ddementia, yn ôl adolygiad systematig dan arweiniad yr Athro Bob Woods, Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru ym Mhrifysgol Bangor. Canfu’r adolygiad hefyd bod lles y bobl dan sylw yn cynyddu o ganlyniad.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Chwefror 2012

Gwelwyd bod rhwystrau sylweddol yn atal diagnosis prydlon o ddementia a mynediad at gefnogaeth ôl-ddiagnostig mewn pum gwlad yn Ewrop

Yn ôl adroddiad a gyflwynwyd heddiw yn Senedd Ewrop mae rhwystrau arwyddocaol sy'n atal diagnosis prydlon o’r clefyd Alzheimer wedi'u gweld ledled Ewrop. Cynhaliwyd yr astudiaeth, a ariennir gan Alzheimer Europe, mewn pum gwlad dan arweiniad yr Athro Bob Woods o Goleg Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor. Dyma oedd canfyddiadau'r astudiaeth:

Dyddiad cyhoeddi: 26 Mehefin 2018

Hen Blant Bach yn ennill Gwobr Arian mewn Gŵyl Ffilm a Theledu Ryngwladol

Mae rhaglen y bu cyfraniad y Brifysgol yn rhan annatod ohoni wedi derbyn clod rhyngwladol wrth ennill Gwobr Arian yng Ngŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd , a gynhaliwyd yn ddiweddar. Enilllodd Hen Blant Bach, sy’n gynhyrchiad gan gwmni Darlun, y Wobr Arian yng nghategori rhaglen ddogfen Portreadau Cymunedol. Roedd y gyfres yn fformat ffeithiol newydd gan S4C a oedd yn olrhain arbrawf cymdeithasol unigryw. Yn y rhaglen, ddaeth pobl mewn oed ynghyd â phlant meithrin i rannu eu gofal dydd, gan ddangos yr effeithiau trawsnewidiol sy'n bosib o’u dod at ei gilydd.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2018

MSc newydd mewn Astudiaethau Dementia yn tynnu ar arbenigedd academaidd a chlinigol

Mae datblygu MSc newydd mewn Astudiaethau Dementia yn y flwyddyn academaidd hon yn cynnig cyfle cyffrous i staff clinigol sy'n ymwneud â gofal dementia, yn y gymuned ac mewn ysbytai ar draws Gogledd Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Fe'i datblygwyd drwy waith partneriaeth rhwng Prifysgol Bangor, BCUHB a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae'r MSc mewn Astudiaethau Dementia yn dechrau o safbwynt pobl sy'n byw gyda dementia ac yn archwilio meysydd arfer clinigol ac ymchwil o’r safbwynt hwn trwy gydol y cwrs, gan graffu ar faterion pwysig sy'n wynebu pobl sy'n byw gyda dementia a'r dulliau gorau o ddarparu gofal rhagorol.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2016

Mae awr o gymdeithasu pob wythnos mewn gofal dementia yn gwella bywydau ac yn arbed arian

Dyddiad cyhoeddi: 27 Gorffennaf 2017

Pobl sydd â dementia yn elwa o therapi cysylltiedig â nod

Dyddiad cyhoeddi: 27 Gorffennaf 2017

Prifysgol Bangor yn derbyn cyllid i adeiladu seilwaith ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol 2018-2020

Mae Grwpiau Ymchwil yn Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR) wedi derbyn symiau sylweddol o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2017

Proisect Dementia a Dychymyg

Dr Gill Windle, sy'n uwch gymrawd ymchwil yn DSDC Cymru, yn cyhoeddi dechrau'r project dementia a dychymyg.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2013

Project Meistr KESS II: Ansawdd bywyd pobl â dementia difrifol: Astudiaeth beilot

Dyddiad cyhoeddi: 12 Awst 2016

Project celfyddydau enfawr yn newid canfyddiadau mewn cartrefi gofal yng Nghymru

Mae project celf cyfranogol sy'n cynnwys 122 o gartrefi gofal ar draws Cymru (bron 20% o'r cyfanswm) wedi dod â newidiadau sylfaenol iawn i'r ffordd mae staff yn edrych ar rai o'u preswylwyr mwyaf bregus. Dyna oedd un o ddarganfyddiadau allweddol gwerthusiad o broject cARTrefu Age Cymru a gyflwynwyd i weinidogion ac Aelodau Cynulliad mewn dathliad arbennig yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth 10 Hydref 2017).

Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2017

Rhannu gwersi project Celf Dementia

Mae gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd ar draws gogledd Cymru yn mynd i ddysgu o brofiadau’r rhai a fydd yn cymryd rhan mewn project mawr ar Ddementia a’r Dychymyg a arweinir gan Brifysgol Bangor, wrth i’r gweithdy cyntaf o’i fath ddigwydd yn y rhanbarth.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2015

Sicrhau mynediad at Gerddoriaeth Cymraeg ar gyfer pobl sydd yn byw gyda dementia

Mae gwrando ar eich hoff fiwsig yn codi’ch calon, waeth be fo’ch oed. Dyna pam mae Prifysgol Bangor a Mudiad Merched y Wawr yn lansio apêl ar Ddiwrnod Miwsig Cymru, i bobl gysylltu gyda’u hawgrymiadau o’u hoff ganeuon o bob cyfnod. Bydd yr awgrymiadau mwyaf poblogaidd yn cael eu coladu er mwyn creu CD ac adnodd digidol a fydd ar gael i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim, ac yn cael ei rannu â chartrefi henoed a chartrefi gofal dementia er mwyn sicrhau bod cerddoriaeth Cymraeg ar gael i’r preswylwyr ei fwynhau.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2019

Ydych chi eisiau aros yn iach yn feddyliol pan fyddwch yn hŷn? Ysgogwch eich ymennydd pan fyddwch yn fengach

Yn ôl ymchwil newydd mae ysgogi'r ymennydd drwy gyflawni swyddogaethau arwain yn y gwaith, neu aros ymlaen mewn addysg, yn helpu pobl i aros yn iach yn feddyliol yn ddiweddarach mewn bywyd. Arweiniwyd yr ymchwiliad sylweddol gan Yr Athro Linda Clare o Brifysgol Exeter, ac a fu'n aelod o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor hyd yn ddiweddar, a chyhoeddwyd y canlyniadau yn y cyfnodolyn PLOS Medicine . Defnyddiwyd data a gasglwyd o dros 2,000 o bobl dros 65 oed a oedd yn ffit yn feddyliol, gan archwilio'r ddamcaniaeth bod profiadau sy'n rhoi her i'r ymennydd mewn ieuenctid a chanol oed yn gwneud pobl yn fwy gwydn i ddelio â newidiadau'n deillio o henaint neu salwch - mae ganddynt 'gryfder gwybyddol' uwch.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2017

Ymchwil Gwyddor Cymdeithas yn gwella ansawdd bywyd a gofal i bobl sydd â dementia

Mae ymchwil gan Brifysgol Bangor, a gynhaliwyd mewn sawl cartref gofal yng ngogledd Cymru, yn cael sylw mewn llyfryn sydd i’w lansio yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mawrth 15 Mawrth. Mae llyfryn briffio diweddaraf y Campaign for Social Science’s ‘Making the Case for the Social Sciences’ yn rhoi sylw i nifer o brojectau ymchwil ar ddementia mewn prifysgolion yn y DU.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2016

Ymchwil ar ystwythder mewn rhoddwyr gofal dementia

Dyddiad cyhoeddi: 11 Awst 2014

Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor yn ymddangos ar HORIZON

Bydd project ymchwil sy’n cael ei gynnal ym Mhrifysgol Bangor, gyda chyfraniad hanfodol aelodau cymunedau ar draws gogledd Cymru, yn derbyn sylw rhifyn nesaf prif gyfres ddogfen y BBC, Horizon ( 11 Mai 2016 BBC 2 8.00 ).

Dyddiad cyhoeddi: 5 Mai 2016

Ymchwilwyr Bangor yn cyfrannu at hyrwyddo strategaeth ymchwil dementia

Bu Dr Gill Windle a'r Athro Emeritws Bob Woods, o ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia, rhan o BIHMR yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, yn rhan o dasglu Cymdeithas Alzheimer yn cynnwys clinigwyr ac ymchwilwyr dementia yn y Deyrnas Unedig, noddwyr ymchwil dementia yn y Deyrnas Unedig, pobl â dementia a chynrychiolwyr gofalwyr, a ddatblygodd y 'map ymchwil dementia cyntaf ar gyfer dulliau atal, rhoi diagnosis, ymyrryd a gofal erbyn 2025'.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Chwefror 2018