Chwech o Brifysgol Bangor yn cael eu penodi’n Uwch Arweinwyr Ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Mae chwe ymchwilydd ym maes iechyd a gofal cymunedol ym Mhrifysgol Bangor wedi'u penodi’n Uwch Arweinwyr Ymchwil- Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mae’r chwech ymysg 18 sydd wedi‘u penodi yn sgil proses gystadleuol ac asesiad gan banel annibynnol o uwch arbenigwyr iechyd a gofal cymdeithasol y DU.

Y farn oedd eu bod ymhlith ymchwilwyr mwyaf blaenllaw Cymru o’r dystiolaeth y gwnaethon nhw ei darparu i fodloni’r meini prawf dethol a ganlyn:

•          Ansawdd a swm eu hymchwil ryngwladol ragorol

•          Effaith eu harweinyddiaeth mewn ymchwil

•          Hanes gyrfa da o ran hyfforddi a datblygu ymchwilwyr

•          Effaith eu hymchwil ar wella iechyd neu ofal cymdeithasol, a chynhyrchu cyfoeth

•          Perthnasedd ymchwil i gleifion, defnyddwyr gwasanaeth a’r cyhoedd

•          Ymrwymiad eglur i gynnwys y cyhoedd ac ymgysylltu â'r cyhoedd

•          Tystiolaeth o gyfraniad personol at Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Bydd Uwch Arweinwyr Ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n ymgymryd â nifer o weithgareddau yn eu rôl. Byddant yn llysgenhadon ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a chwarae rôl arweiniol mewn cynyddu proffil ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i lefel genedlaethol a rhyngwladol.

Bydd yr Uwch Arweinwyr Ymchwil  yn cefnogi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr addawol yng Nghymru trwy Gynllun Mentora Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Bydd cyfnod peilot y cynllun hwn, a fydd yn cael ei lansio cyn bo hir, yn canolbwyntio ar baru Uwch Arweinwyr Ymchwil â myfyrwyr a chymrodyr y mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n eu hariannu, mewn perthynas fentora ddatblygiadol.

Y rhai sydd wedi’u penodi ar gyfer 2016-2019 o Brifysgol Bangor yw:

Rhiannon Tudor Edwards –  Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEMEYsgol Gwyddorau Gofal Iechyd Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR)

Dyfrig Hughes[EE1]  –  Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME)  Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR)

Peter Huxley – Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Chymdeithas (CFMHAS) a’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas

Richard Neal – Ganolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru, Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR)

Jo Rycroft-Malone –  Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd  Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR)

Bob Woods – Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd  Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR)

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2016