Cymryd rhan yn ein hymchwil
Os hoffech gymryd rhan yn yr astudiaeth, byddwn yn anfon mwy o wybodaeth atoch.
Os ydych chi’n byw yng Nghymru, Lloegr neu Yr Alban, defnyddiwch y dolennau isod i gysylltu:
Os nad oes gennych fynediad at e-bost gallwch ffonio ein hymchwilwyr. Cofiwch efallai na fyddwn yn gallu ateb eich galwad ffôn ar unwaith, ond byddwn yn eich ffonio’n ôl ar y rhif y gwnaethoch ein ffonio ni.
Galwch ni ar:
- Cymru – 01248 382506
- Lloegr – 020 39872557
- Yr Alban – (Llun – Mercher) 0141 574 5418; (Mercher – Gwener) 0141 574 5417
Pwy all gymryd rhan?
Rydym yn gwahodd 350 o ofalwyr di-dâl sy’n byw yng Nghymru, Lloegr, neu’r Alban i gymryd rhan. Efallai y byddwch yn gymwys os buoch yn helpu rhywun â dementia o leiaf unwaith yr wythnos am o leiaf 6 mis, ac nad yw'r person yr ydych yn gofalu amdano yn byw mewn cyfleuster gofal amser llawn.
Rydym hefyd yn gwahodd 30 o bobl ifanc (11-17 oed) sy’n helpu i ofalu am rywun sy’n byw gyda dementia.
Beth fydd yn digwydd yn yr astudiaeth?
Does dim rhaid i chi deithio i unrhyw le i gymryd rhan - gallwch wneud hyn o'ch cartref eich hun. Bydd ymchwilydd yn gofyn ichi lenwi rhai holiaduron mewn cyfweliad ar y we (e.e. Zoom) neu gyfweliad ffôn. Bydd y cwestiynau'n gofyn sut rydych chi'n teimlo, ac am eich rôl fel gofalwr. Wedi hynny, cewch eich dyrannu ar hap i dderbyn iSupport neu'r llyfryn. Mae hyn er mwyn i ni allu cymharu sut mae pobl yn teimlo wrth dderbyn y naill neu'r llall o'r cynhyrchion hyn, ac a oes unrhyw fuddion. I'r rhai sy'n derbyn y llyfryn i ddechrau, byddwn yn darparu mynediad i iSupport yn ddiweddarach yn yr astudiaeth.
Hoffem hefyd eich cyfweld eto 3 mis ar ôl dechrau’r project ac yna ar ddiwedd yr astudiaeth, 6 mis ar ôl dechrau. Ni ddylai’r cyfweliadau gymryd mwy nag awr, a gellir eu cynnal ar adeg sy'n gyfleus i chi.
Hefyd gofynnir i rai o’r bobl sy'n cymryd rhan yn yr astudiaeth gael cyfweliad mwy manwl ag ymchwilydd arall a fydd yn gofyn rhai cwestiynau mwy agored am eu profiadau o ddefnyddio iSupport.
Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol, ac os cymerwch ran byddwch yn derbyn taleb siopa ar ddiwedd y cyfnod o chwe mis.
Byddai gofyn i ofalwyr ifanc (11-17 oed) brofi fersiwn newydd o iSupport a addaswyd ar gyfer anghenion pobl ifanc. Byddai ymchwilydd yn gofyn ichi lenwi holiaduron mewn cyfweliad ar y we (e.e. Zoom) neu gyfweliad ffôn tair gwaith dros gyfnod o chwe mis. Byddai pob cyfweliad yn cymryd tuag awr.
Pam ydyn ni’n gwneud yr ymchwil yma?
Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n byw gyda dementia’n derbyn gofal gartref, gyda chefnogaeth aelod o’r teulu neu ffrind sydd â gwybodaeth gyfyngedig o’r cyflwr. Mae’r gwaith yn gallu peri straen sylweddol, ac mae llawer o ofalwyr yn dioddef iechyd meddwl a chorfforol gwael, o’u cymharu â phobl nad ydynt yn ofalwyr dementia. Golyga COVID-19 fod llawer o bobl hŷn wedi gorfod hunanynysu, a bu hynny’n straen cynyddol i ofalwyr.
Gallai platfform digidol roi gwell cymorth i helpu gofalwyr gael mynediad at y gefnogaeth, y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt, yn enwedig a hwythau â mynediad cyfyngedig i fannau ffisegol lle mae cymorth i’w gael.
Sut gwnaiff yr ymchwil hwn helpu ofalwyr di-dâl?
Os gallwn ddangos bod iSupport yn helpu gofalwyr, gall y rhai sy’n darparu gwasanaethau dementia argymell iSupport fel offeryn cymorth effeithiol. Gallai cael gwasanaeth ar-lein effeithiol a hygyrch i ofalwyr fod o fudd i’r gofalwr a’r person sy’n byw gyda dementia. Gall gwella gofal yn y cartref ohirio derbyniadau cartref gofal, sy'n lleihau costau gofal a dwyn manteision ehangach i gymdeithas.
Yn yr un modd, os gwelwn nad yw iSupport yn ddefnyddiol, neu fod angen ei ddefnyddio gyda chyfuniad o ffynonellau cymorth a gwybodaeth eraill, yna gallwn argymell addasu’r platfform fel ei fod yn fwy defnyddiol i’r rhai sydd ei angen fwyaf.
Sut mae’r astudiaeth wedi ei hariannu a’i threfnu?
Noddir yr astudiaeth gan Brifysgol Bangor, sydd hefyd yn ganolfan gydlynu. Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, Coleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Ystrad Clud ac Alzheimer Scotland yw partneriaid y project.
Mae ein hastudiaeth wedi derbyn cymeradwyaeth foesegol gan Brifysgol Bangor (AEC 2021-16915) ac mae wedi’i chofrestru ar gronfa ddata astudio o’r enw cofrestrfa ISRCTN (ISRCTN17420703).
Ariennir y project hwn gan raglen Ymchwil Iechyd Cyhoeddus y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) (cyfeirnod y project NIHR130914). Barn yr awduron yw'r safbwyntiau a fynegir ac nid barn yr NIHR na'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol o reidrwydd.
Cysylltwch â ni os hoffech chi gymryd rhan yn yr astudiaeth, ac anfonwn fwy o wybodaeth atoch.
Os ydych chi’n byw yng Nghymru, Lloegr neu Yr Alban, defnyddiwch y dolennau isod i gysylltu:
Os nad oes gennych fynediad at e-bost gallwch ffonio ein hymchwilwyr. Cofiwch efallai na fyddwn yn gallu ateb eich galwad ffôn ar unwaith, ond byddwn yn eich ffonio’n ôl ar y rhif y gwnaethoch ein ffonio ni.
Galwch ni ar:
- Cymru – 01248 382506
- Lloegr – 020 39872557
- Yr Alban – (Llun – Mercher) 0141 574 5418; (Mercher – Gwener) 0141 574 5417