Cymryd rhan mewn ymchwil

Pam ddylwn i gymryd rhan?

Mae pobl eisiau cymryd rhan mewn ymchwil iechyd neu ofal cymdeithasol am lawer o resymau:

  • Gwella iechyd a gofal cymdeithasol i eraill, yn ogystal â rhoi gobaith i genedlaethau'r dyfodol.
  • I ddysgu mwy am eu cyflwr.
  • I roi cynnig ar driniaeth, therapi neu ddyfais newydd.
  • Helpu ymchwilwyr i ddysgu gwybodaeth newydd bwysig.
  • Yn llywio datblygiad polisïau iechyd a gofal cymdeithasol.

(Ffynhonnell: Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd)

 


 

'Rare Dementia Support (RDS)'

Helpwch ni i ddylunio ffyrdd newydd i fesur ‘gwytnwch’ mewn dementia

Sut mae pobl sy'n byw gyda dementia yn profi gwytnwch

Beth sy’n helpu pobl i ymdopi neu ‘wneud yn iawn’? Rydym yn datblygu mesur o wytnwch sy'n benodol ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia prin, oherwydd nid oes yr un yn bodoli ar hyn o bryd. Mae hyn yn bwysig oherwydd bydd yn caniatáu i ymchwilwyr fesur newidiadau mewn gwytnwch mewn ymateb i wasanaethau neu ymyriadau iechyd, seicolegol a gofal cymdeithasol. Y cam nesaf yn y gwaith hwn yw trafod set o gwestiynau gyda phobl sy'n byw gyda dementia prin.

Cael diagnosis o ddementia yng Nghymru wledig a threfol

Mae gennym ddiddordeb mewn clywed profiadau pobl o gael diagnosis o ddementia yng Nghymru, yn y gobaith y gallwn helpu i wella'r broses i eraill yn y dyfodol.

Rydyn ni'n gobeithio siarad â phobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig a threfol, i weld a oes gwahaniaeth ym mhrofiadau pobl.

Hoffem ofyn ichi am:

  • Eich taith i gael y diagnosis
  • Y diagnosis ei hun
  • Y gefnogaeth a gawsoch yn dilyn y diagnosis

Os ydych chi'n byw gyda diagnosis o ddementia, neu'n gofalu am rywun sydd wedi cael diagnosis, byddem yn gwerthfawrogi'r cyfle i siarad â chi am eich profiad o gael y diagnosis.

Os hoffech wybod mwy am y cyfle ymchwil hwn, cysylltwch â Jen Roberts: j.roberts@bangor.ac.uk

 


 

'Join Dementia Research (JDR)'

Mae ‘Join Dementia Research’ (JDR) yn wasanaeth ar-lein i baru gwirfoddolwyr sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn ymchwil dementia gydag ymchwilwyr sy'n chwilio am ddarpar gyfranogwyr. Gall unrhyw un, gyda neu heb ddementia, sydd dros 18 oed gofrestru fel gwirfoddolwr neu gofrestru ar ran rhywun arall cyn belled â'u bod wedi rhoi eu caniatâd.

Gallwch gofrestru trwy’r wefan, drwy'r llinellau cymorth ffôn, neu ddefnyddio ffurflen gofrestru papur; a gall gwirfoddolwyr ddewis pa astudiaethau yr hoffent glywed mwy amdanynt.

Mae Owen Phillips, Swyddog Cynnwys ac Ymgysylltu o’r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) yn cydlynu ac yn hyrwyddo Join Dementia Research (JDR) yng Nghymru https://www.cadr.cymru/cy/jdr.htm.

Cysylltwch â CADR (cadr@swansea.ac.uk) neu Owen ( J.O.Phillips@swansea.ac.uk) am ragor o fanylion ac i gymryd rhan.