Cymorth Dementia Prin
Cymorth Dementia Prin
Mae rhwng 5% a 15% o bobl sy’n byw gyda dementia yn derbyn diagnosis o ddementia prin neu dementia sy’n cychwyn yn ifanc (cyn 65 oed). Mae diagnosis dementia prin yn dod â set o heriau unigryw a chymhleth, ond eto mae diffyg dealltwriaeth eang a phrinder adnoddau pwrpasol i gefnogi pobl sydd wedi’i heffeithio gan ddementia prin.
Ym Mangor, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yng Ngholeg Prifysgol Llundain sy’n rhedeg ‘Rare Dementia Support’, gwasanaeth yn y DU sy’n gweithio i gefnogi pobl sydd wedi’u heffeithio gan bum cyflwr dementia prin (am ragor o wybodaeth gweler http://www.raredementiasupport.org/).
Ydych chi wedi cael diagnosis o ddementia prin?
Ydych chi'n gofalu am rywun â dementia prin neu'n ei gefnogi?
Ymunwch â ni ar-lein ar gyfer ein cyfarfodydd Grŵp Cymorth RDS yng Nghymru
- Cyfarfod cymdeithasol cyfeillgar i unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan ddementia prin yng Nghymru
- Lle diogel i siarad, rhannu profiadau, a chysylltu ag eraill sydd wedi'u heffeithio gan ddementia prin
- Rydym yn cwrdd unwaith y mis, trwy'r platfform ar-lein Zoom
Os hoffech fynychu cyfarfod, am gyfarwyddiadau ymuno cysylltwch â:
- Jen Roberts: j.roberts@bangor.ac.uk
Cliciwch ar y dolennau isod i weld a lawrlwytho'r taflenni ar gyfer Cyfarfodydd Grŵp Cymorth RDS Cymru:
Fe'ch gwahoddir i ddod yn aelod o RDS:
Os hoffech chi fod yn aelod o Rare Dementia Support, a derbyn gwybodaeth bellach am gefnogaeth a chyfleoedd ymchwil, cliciwch yma.
Ymchwil
Rydym yn rhan o astudiaeth pum mlynedd ar Effaith Cymorth Dementia Prin (RDS), cydweithrediad rhwng Coleg Prifysgol Llundain (UCL), Prifysgol Bangor a Phrifysgol Nipissing yng Nghanada, dan arweiniad yr Athro Sebastian Crutch o’r Ganolfan Ymchwil Dementia, Coleg Prifysgol Llundain.
Hwn yw’r astudiaeth fawr gyntaf o’i math, a bydd yn archwilio heriau penodol, anghenion cymorth a hoffterau gofal pobl sydd wedi’i heffeithio gan ddementia prin, a gwerth grŵp cymorth fel yr un a ddarperir gan y Rhwydwaith Cymorth Dementia Prin. http://www.raredementiasupport.org/research/
Ymchwil sydd ar y gweill ym Mhrifysgol Bangor
Helpwch ni i ddylunio ffyrdd newydd i fesur ‘gwytnwch’ mewn dementia
Sut mae pobl sy'n byw gyda dementia yn profi gwytnwch
Beth sy’n helpu pobl i ymdopi neu ‘wneud yn iawn’? Rydym yn datblygu mesur o wytnwch sy'n benodol ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia prin, oherwydd nid oes yr un yn bodoli ar hyn o bryd. Mae hyn yn bwysig oherwydd bydd yn caniatáu i ymchwilwyr fesur newidiadau mewn gwytnwch mewn ymateb i wasanaethau neu ymyriadau iechyd, seicolegol a gofal cymdeithasol. Y cam nesaf yn y gwaith hwn yw trafod set o gwestiynau gyda phobl sy'n byw gyda dementia prin.
Cael diagnosis o ddementia yng Nghymru wledig a threfol
Mae gennym ddiddordeb mewn clywed profiadau pobl o gael diagnosis o ddementia yng Nghymru, yn y gobaith y gallwn helpu i wella'r broses i eraill yn y dyfodol.
Rydyn ni'n gobeithio siarad â phobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig a threfol, i weld a oes gwahaniaeth ym mhrofiadau pobl.
Hoffem ofyn ichi am:
- Eich taith i gael y diagnosis
- Y diagnosis ei hun
- Y gefnogaeth a gawsoch yn dilyn y diagnosis
Os ydych chi'n byw gyda diagnosis o ddementia, neu'n gofalu am rywun sydd wedi cael diagnosis, byddem yn gwerthfawrogi'r cyfle i siarad â chi am eich profiad o gael y diagnosis.