Digwyddiad Dathlu Sgyrsiau Creadigol

Mae Prifysgol Bangor, ar y cyd â Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, a'r awdur enwog John Killick wedi bod yn dathlu project diweddar a fu'n cefnogi pobl sydd â dementia - Sgyrsiau Creadigol.

Arweiniwyd y project gan Dr Kat Algar-Skaife o’r Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia (DSDC) Cymru, Prifysgol Bangor ac fe'i hariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Llywodraeth Cymru. Dywedodd Kat:

"Mae tystiolaeth gynyddol y gall y celfyddydau wella ansawdd bywyd a lles pobl hŷn a phobl sy'n byw gyda dementia. Fodd bynnag, rydym wedi sylwi mewn projectau blaenorol bod y sesiynau hefyd yn fuddiol i'r staff gofal trwy eu helpu nhw i ddod i adnabod y preswylwyr yn well. Roedd y project hwn yn bartneriaeth hynod rhwng Prifysgol Bangor, Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint a John Killick, sy'n flaenllaw yn y maes. Cynigion ni fwy o arfau i'r staff gofal o ran y sgiliau y maent yn eu defnyddio i ymwneud â'r preswylwyr ac yn y pen draw i wella ansawdd bywyd preswylwyr cartrefi gofal ledled y Sir."

Bu'r project yn gweithio gyda phedwar ar ddeg o Gartrefi Gofal Sir y Fflint, gan gynnig gweithdai creadigol i'r staff allu cynnig technegau newydd ac amgen i gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia ac i helpu ysgogi sgyrsiau gyda nhw.

Defnyddiai'r sesiynau'r celfyddydau a thechnegau creadigol eraill er mwyn mynd ati i sicrhau bod gan bobl sy'n byw gyda dementia gyfathrebu cadarnhaol ac ystyrlon yn eu bywydau i gynnal eu lles. Fe wnaeth y gweithdai helpu gwella sgiliau gweithlu'r cartrefi gofal a rhoi iddynt y technegau i gynorthwyo pobl sy'n byw gyda dementia ac i wneud cysylltiadau a chyfeillgarwch wrth iddynt wneud eu gwaith beunyddiol.

Dywedodd Luke Pickering-Jones, Arweinydd Gwasanaethau Dementia NEWCIS:

"Mae'r holl gartrefi gofal yn falch o'r cyfle i gymryd rhan yn y project hwn. Maent yn gaffaeliad i'r Sir yn y ffordd y maen nhw wedi dangos eu bod am wella bywydau pobl sy'n byw gyda dementia yn y cartrefi gofal."

Cynhaliwyd y dathlu yn Nhafarn yr Horse and Jockey ym Mwcle, sydd wedi cael ei hachredu'n un sy'n "gweithio tuag at ddod yn ddementia-gyfeillgar" yng Ngwobrau Dementia-Gyfeillgar Bwcle. Cafodd rhai o'r gweithdai eu cynnal yn yr Horse and Jockey hefyd.

Dywedodd John Killick, un sydd â blynyddoedd lawer o brofiad fel athro, ysgrifennwr preswyl a Chymrawd Ymchwil mewn Cyfathrebu drwy'r Celfyddydau:

"Roedd y project yn cynnig dull newydd - roeddem am gynnig profiad gwahanol - mae'n wahanol yn un peth oherwydd ei fod mewn tafarn - nid y lle arferol ar gyfer sesiynau fel y rhain, ac mae'r awyrgylch yn fwy hamddenol.  Nid hyfforddiant mohono. Mi wnaeth y staff ddarganfod drostyn nhw eu hunain trwy farddoniaeth, lluniau, fideos, celf a chaneuon.  Awgrymwyd gweithgareddau iddynt roi cynnig arnyn nhw yn ôl yn y cartrefi ac yr oeddwn i ar gael i'w mentora yn ystod y project.

Oherwydd llwyddiant y project, mae Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint wedi sicrhau cyllid ychwanegol i barhau â'r gweithdai ar gyfer cartrefi gofal ledled Sir y Fflint i ddatblygu'r cyfle ymhellach trwy gynnwys gofalwyr teulu a'r rhai sy'n gweithio mewn asiantaethau gofal cartref yn y sir.

Rhai o'r cyfranogwyr gyda'u tystysgrifau Sgyrsiau Creadigol, gyda Dawn Holt, Rheolwr Comisiynu, Cyngor Sir y Fflint, a Jen Roberts, o dîm ymchwil Sgyrsiau Creadigol.Rhai o'r cyfranogwyr gyda John Killick, partner i'r project a hwylusydd gweithdy, a Donna Miles, hwylusydd gweithdy.Rhai o'r cyfranogwyr gyda John Killick, partner i'r project a hwylusydd gweithdy, a Donna Miles, hwylusydd gweithdy.Rhai o'r cyfranogwyr gyda John Killick, partner i'r project a hwylusydd gweithdy, a Donna Miles, hwylusydd gweithdy.Pawb a fu'n bresennol yn y dathlu yn Nhafarn yr Horse and Jockey, Bwcle.Pawb a fu'n bresennol yn y dathlu yn Nhafarn yr Horse and Jockey, Bwcle.Rhai o'r tîm Sgyrsiau Creadigol [o'r chwith i'r dde: Jen Roberts, Maria Caulfield, John Killick, Luke Pickering-Jones, Kat Algar-Skaife, Donna Miles]  Rhai o'r tîm Sgyrsiau Creadigol [o'r chwith i'r dde: Jen Roberts, Maria Caulfield, John Killick, Luke Pickering-Jones, Kat Algar-Skaife, Donna Miles]

Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2018