Newyddion: Tachwedd 2013

Cymry’n cymryd rhan mewn ymchwil i ddementia

Yn ôl canlyniadau astudiaeth ymchwil ar raddfa fawr a adroddodd yn gynharach eleni, bu lleihad yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf yn nifer y rhai sydd â dementia. Yn ôl y ffigurau yng nghyswllt Lloegr a nodwyd yn adroddiad yr Astudiaeth ar Weithrediad Gwybyddol a Heneiddio, ceir awgrym, o’u cymhwyso at y DU yn ei chrynswth, fod 214,000 yn llai o achosion o ddementia nag a ddaroganwyd. Byddai hyn hefyd yn awgrymu mai rhyw 670,000 o bobl sydd ar hyn o bryd yn byw yn y DU gyda dementia, yn hytrach na’r amcangyfrif o 800,000-900,000. I helpu i ddeall y sefyllfa yng Nghymru, mae Prifysgol Bangor yn arwain y fersiwn Cymreig o’r ymchwil hon. Mae’r ymchwilwyr yn bwriadu cyhoeddi ystadegau penodol yr haf nesaf ar y niferoedd sydd â dementia yng Nghymru.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Tachwedd 2013