Newyddion: Hydref 2016
Creu cymunedau sy’n gefnogol i bobol â dementia yng Ngogledd Cymru
Gwahoddir pobl sy’n byw â dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr i ymuno mewn rhwydwaith ar draws gogledd Cymru gyda gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio i gefnogi pobl â dementia yn y gwasanaeth iechyd, y sector fasnach a’r trydydd sector ynghyd ag arbenigwyr sydd yn ymchwilio i’r cyflwr. Bwriad y rhwydwaith newydd yw darparu cefnogaeth, gwybodaeth a chyfle i rannu gwybodaeth a phrofiad a chyfle i bobl gefnogi ei gilydd. Sefydlwyd y rhwydwaith gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor, lle mae’r Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia (DSDC) yn arwain y ffordd wrth ddarparu ymchwil a chyngor ymarferol am ffyrdd newydd o gefnogi pobl sydd yn byw â dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr, er mwyn cyfoethogi eu bywydau.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2016