Eglwysi i sefydlu projectau dementia-gyfeillgar newydd ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru

Mae pum grŵp o eglwysi ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru wedi derbyn cyllid i ddatblygu projectau cymunedol dementia-gyfeillgar ac i weithio tuag at ddod yn "ddementia-gyfeillgar".

Daw'r cyllid o Gyfrif Cyflymu Effaith ESRC Prifysgol Bangor (IAA) * a chafodd ei ddyfarnu i'r Athro Bob Woods a'r Parch. Dr Bob Friedrich. Mae'n dilyn cynhadledd ym Mhafiliwn Llangollen lle daeth 78 o gynrychiolwyr o eglwysi yng Nghymru at ei gilydd i glywed sut i greu Eglwysi Dementia-Gyfeillgar.

Roedd y Gynhadledd, a drefnwyd gan Esgobaeth Llanelwy ac yn agored i Esgobaeth Bangor, yn seiliedig ar waith Bob Friedrich, offeiriad Anglicanaidd wedi ymddeol sy'n astudio dementia ac ysbrydolrwydd, ac yn enwedig y gwaith o ddatblygu eglwysi dementia-gyfeillgar.

Mae Bob, myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Bangor, wedi dewis trawstoriad o eglwysi a grwpiau o eglwysi, a elwir yn Ardaloedd Cenhadaeth neu Weinidogaeth yn seiliedig ar eu natur wledig a threfol ac yn eu syniadau cychwynnol.

Bydd y pum project newydd yn cael eu datblygu yn Eglwys y Santes Fair, Y Waun yn Ardal Cenhadaeth Offa; Ardal Cenhadaeth y Gororau; Ardal Cenhadaeth Cedewain; Ardal Cenhadaeth Pwll; ac Ardal Gweinidogaeth Bro Cyfeiliog a Mawddwy.

Meddai Bob: Gwelais yn ystod fy ymchwil fod yr ymdrech yn Lloegr i greu cymunedau sy'n gyfeillgar i ddementia yn ymestyn i ddatblygu eglwysi cyfeillgar i ddementia. Gofynnodd yr Esgob Gregory Cameron a’r Esgob Andy John i mi helpu i gyflwyno hyn ymhellach i Gymru.

Mae hwn yn gyfle gwych i weithio gydag eglwysi i'w helpu i gynnig projectau penodol a fydd yn cwrdd ag anghenion eu cymuned leol tra maent yn datblygu’n ddementia-gyfeillgar.

Gallai hyn gynnwys gweithgareddau megis caffis cof, gwasanaethau addoli sy’n ystyried anghenion pobl â dementia, sesiynau gwybodaeth i'r cyhoedd, ymweld â chartrefi gofal preswyl a darparu cefnogaeth i ofalwyr.

Byddaf yn ceisio cefnogi’r eglwysi hyn wrth iddyn nhw sefydlu eu projectau, rhannu arfer da, cynnig adnoddau ac asesu effaith eu gwaith.

Yn cynorthwyo Bob i weithio gyda'r pum eglwys a’r Ardaloedd Gweinidogaeth / Cenhadaeth mae Chris Roberts o Ruddlan, a gafodd ddiagnosis o ddementia dair blynedd yn ôl pan oedd yn hanner cant. Fe wnaeth ef a'i wraig, Jayne Goodrick, ymddangos ar raglen y BBC, Panorama, yn ddiweddar, gan ganiatáu i gamerâu teledu ddilyn eu bywydau. Mae'r ddau bellach yn teithio'r byd yn siarad am fyw gyda dementia.

Roedd Chris a Jayne ymhlith y rhai oedd yn siarad ym Mhafiliwn Llangollen. Dywedodd Chris wrth y gynulleidfa: Efallai fod gen i ddementia, ond nid dementia sydd biau fi.

Mae Caffis Cof eisoes yn cael eu cynnal mewn eglwysi yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys yn y Fflint a Wrecsam. Fflint oedd y dref gyntaf yng Ngogledd Cymru i ennill dynodiad Cymdeithas Alzheimer "Gweithio tuag at Ddod yn Ddementia-Gyfeillgar. Mae Esgobaeth Llanelwy yn cynnig hyfforddiant i'w holl eglwysi i'w hannog i ennill y dynodiad hwn ac mae’n anelu at ddod yn "Esgobaeth Dementia-Gyfeillgar.

Dywedodd Swyddog Ennyn Cyfraniad Esgobaeth Llanelwy, Sarah Wheat: Gall eglwysi gynnig lle pwysig i ddarparu cefnogaeth dementia-gyfeillgar. Mae'r adeiladau, y gwasanaethau, a’r emynau yn aml yn dal i fod yn gyfarwydd i bobl â dementia a gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr gallan nhw ddarparu lle a chyfleusterau amhrisiadwy.

I gael gwybod mwy am Eglwysi Dementia-Gyfeillgar, cysylltwch â Sarah Wheat ar sarahwheat@churchinwales.org.uk neu Bob Friedrich yn bobfriedrich1@gmail.com.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Mai 2017