Ymchwil Gwyddor Cymdeithas yn gwella ansawdd bywyd a gofal i bobl sydd â dementia

Mae ymchwil gan Brifysgol Bangor, a gynhaliwyd mewn sawl cartref gofal yng ngogledd Cymru, yn cael sylw mewn llyfryn sydd i’w lansio yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mawrth 15 Mawrth.

Mae llyfryn briffio diweddaraf y Campaign for Social Science’s ‘Making the Case for the Social Sciences’ yn rhoi sylw i nifer o  brojectau ymchwil ar ddementia mewn prifysgolion yn y DU.

Mae gwaith y Brifysgol yn cael sylw mewn astudiaeth achos ar ‘lyfrau stori bywyd’.

Mae datblygu llyfrau stori bywyd yn hanfodol i’r unigolyn sydd â dementia a’u gofalwyr a’u teuluoedd. Maent yn sicrhau bod gan ofalwyr ac eraill ddealltwriaeth a gwybodaeth dda am   hanes bywyd y person, gan eu galluogi i ddarparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Gwnaed ymchwil gan yr Athro Bob Woods a’i dîm yng Nghanolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia, sy’n rhan o Sefydliad Bangor dros Ymchwil Iechyd a Meddygol yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol a edrychodd yn fanwl ar sut y mae gwaith stori bywyd yn fodd i gadw hunaniaeth unigolyn, ac, wrth wneud hyn ymestyn y gofal a gânt.

Mewn un astudiaeth mewn  cartref gofal, roedd llyfrau stori bywyd, a oedd yn cofnodi pwy oedd teulu a chyfeillion yr unigolyn â dementia, a’r hyn yr oedd wedi mwynhau gwneud, yn amlwg wedi gwella ansawdd bywyd y sawl oedd â dementia arno a’i gof am ei hanes ei hun, yn ogystal â  bod yn fodd i’r staff ddod i adnabod yr unigolyn yn well, ac ymateb gydag agwedd fwy positif at ddementia.

Roedd perthnasau yn adrodd bod gwellhad yn eu perthynas â’r person efo dementia, gan ddweud bod y llyfr yn gwneud ymweld yn brofiad mwy cadarnhaol.

Mae’r ymchwil wedi ei mabwysiadu’n eang gan ddefnyddio sawl cyfrwng, gan gynnwys apiau digidol yn ogystal â llyfrau confensiynol.

Roedd y Ganolfan hefyd yn bartner mewn projectau ymchwil eraill sydd yn cael sylw yn y llyfryn,  yn ymwneud â therapi symbyliad gwybyddol ac adferiad, ac wedi cyfrannu at un arall ar atal dementia.

Wrth i’r llyfryn gael ei gyhoeddi, mae disgwyl i nifer y bobol sydd â dementia yn y DU gyrraedd  miliwn erbyn 2025 ar gost o oddeutu £26 biliwn y flwyddyn. Mae’r llyfryn yn  taflu goleuni ar y moddau y mae ymchwil gwyddorau cymdeithas wedi bod ar y blaen wrth ymateb i’r her, nid yn unig drwy wella gofal ar gyfer pobol sydd â dementia, ond hefyd wrth amlinellu strategaethau newydd i fynd ‘r afael â’r cyflwr.

Meddai’r Gwir Anrhydeddus Norman Lamb MP, cyn Weinidog Gwladol dros Ofal a Chefnogaeth, ac un sydd wedi brwydro dros wella gofal i bobol â dementia:

“Dementia yw’r brif her i’n hoes ni o ran iechyd a gofal cymdeithasol. Er eu bod yn bwysig, nid yw’ dulliau biofeddygol, ynddynt eu hunain, yn ddigon i daclo’r broblem.

Mae’r gwyddorau cymdeithasol hefyd yn arf hanfodol yn y frwydr. Mae’r ymchwil yn y llyfryn yn dangos effaith gwyddorau cymdeithas ar wella gofal ac ansawdd bywyd, yn ogystal â chanfod datrysiad tymor hir a fydd yn cael effaith  barhaus ar bobol sydd â dementia a’u gofalwyr a theuluoedd.”

Bydd y llyfryn yn cael ei lansio gan Mr Lamb mewn digwyddiad yn Nhŷ’r Cyffredin ar Fawrth 15, gyda Jane Ellison AS, yr Is-ysgrifennydd Seneddol Gwladol dros Iechyd Cyhoeddus. Mae graddfa a chwmpas y cyflwr wedi denu sylw’r llywodraeth yn y blynyddoedd diwethaf. Fel ymateb, lansiwyd Her y Prif Weinidog ar Ddementia 2020 er mwyn sicrhau bod y DU ar y blaen yn fyd-eang o ran ymchwil dementia, gan addo £20m ar gyfer rhaglen ymchwil gwyddorau cymdeithasol.

Yn ôl yr Athro Bob Woods, a fydd yn cadeirio’r digwyddiad:

‘Mae ymchwil gan y gwyddorau cymdeithas eisoes yn cyfrannu tuag at gynorthwyo pobol i fyw yn dda efo dementia, ond rydym angen buddsoddiad pellach os ydym am ddatblygu dulliau mwy effeithiol o fynd ati o ran gofal ac atal. Mae gan Brifysgol Bangor record dda yn y maes, ac rydym yn bwriadu datblygu ein rhaglen waith ar ymdriniaethau creadigol mewn gofal dementia ymhellach.”

Y llyfryn yw’r 11eg yn y gyfres Making the Case for the Social Sciences, ac fe’i noddir gan y British Psychological Society, Alzheimer’s Society, Age UK, The British Society of Gerontology, ac Ysgol Astudiaethau Dementia Prifysgol Bradford. Cynhyrchir y llyfrynnau gan ymgyrch dros wyddorau cymdeithasol yr Academy of Social Sciences i ddangos gallu ymchwil gwyddorau cymdeithasol i wella bywydau, ac maent yn cael eu tynnu ynghyd gan  grŵp o Gymrodyr arbenigol yr Academi.

Dogfennau cysylltiedig:

Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2016