Athro ymysg 28 o wyddonwyr cymdeithas blaenllaw i dderbyn teitl Academydd

Yr Athro Bob Woods.Yr Athro Bob Woods.Mae Bob Woods, Athro Seicoleg Glinigol Pobl Hŷn ym Mhrifysgol Bangor, yn un o 28 o wyddonwyr cymdeithas blaenllaw i dderbyn teitl Academydd o fewn yr Academi Gwyddorau Cymdeithas.

Mae’n ymuno ag arbenigwyr blaenllaw eraill sy’n gweithio mewn amrywiaeth eang o wyddorau cymdeithas, yn cynnwys addysg, daearyddiaeth, gwaith cymdeithasol, y gyfraith, cymdeithaseg, economeg a seicoleg.

Mae’r Athro Bob Woods AcSS yn seicolegydd clinigol blaenllaw yn y gwaith o ddatblygu seicoleg glinigol gyda phobl hŷn, a’i gyfraniadau at ddatblygu ymyriadau seicolegol i bobl â dementia wedi ennill cydnabyddiaeth ar raddfa ryngwladol.

Meddai’r Athro Bob Woods, “Dementia o hyd yw’r sialens sengl fwyaf i wynebu gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn y 21ain ganrif.  Rwy’n falch fod ein hymchwil i ddarparu gwell gwasanaethau gofal i bobl â dementia a’u teuluoedd yn cael y math hwn o gydnabyddiaeth gan yr Academi Gwyddorau Cymdeithas. Ymdrech gan dîm yw hon, ac mae gweithwyr yn y maes ym Mangor, y GIG ac mewn mannau eraill yn y DU yn cydweithio’n wych â ni.”

Mae Bob Woods yn bennaeth ar y Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia ym Mhrifysgol Bangor, ac yn ymwneud ers bron i 40 mlynedd â’r gwaith o ddatblygu a gwerthuso ymyriadau seicolegol i bobl â dementia a’u cynhalwyr. Bu’n arloesi â dull seiliedig ar dystiolaeth, yn benodol yng nghyswllt symbylu gwybyddol a hel atgofion. Mae’n parhau i gynghori’r GIG yng Nghymru, ac yn arwain rhaglen weithgar ar gyfer lledaenu’r gwaith, yn cynnwys hyfforddi staff a datblygu gwasanaethau. Mae wedi ennill Gwobrau a chydnabyddiaeth ar lefel ryngwladol am ei waith.

Yr Academi Gwyddorau Cymdeithas yw’r Academi genedlaethol o academyddion, cymdeithasau dysgedig ac ymarferwyr ym maes gwyddorau cymdeithas. Mae’n cynnwys mwy na 900 o Academyddion unigol, sy’n ysgolheigion ac ymarferwyr amlwg o’r byd academaidd a’r sectorau cyhoeddus a phreifat. Enillant y statws hwn ar ôl i grŵp o gydweithwyr adolygu statws ac effaith eu gwaith.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Mawrth 2014