Ynglŷn â DSDC
Adroddiad Blynyddol
Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru - Adroddiad Blynyddol (Awst 2017)
Beth yw DSDC?
Sefydlwyd Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru ym 1999, a hi oedd aelod cyntaf rhwydwaith o ganolfannau datblygu gwasanaethau dementia ar draws y DU ac Iwerddon. Roedd cylch gorchwyl y canolfannau i gyd fel a ganlyn:
-
Darparu gwybodaeth yn ymwneud â gofal a gwasanaethau dementia
-
Darparu hyfforddiant i staff yn gweithio ym maes gofal dementia
-
Gwneud ymchwil yn ymwneud â'r maes gofal
-
Ymgynghori a chynghori ar ddatblygu gwasanaethau dementia.
Sefydlwyd Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru fel partneriaeth rhwng Prifysgol Bangor a thîm datblygu gwasanaeth GIG yng Nghaerdydd. Ar hyn o bryd prif gyfraniad y tîm Caerdydd yw cynhyrchu cylchgrawn ymarferydd uchel ei barch 'Signpost', a oedd ar gael am nifer o flynyddoedd mewn print, ond sydd bellach ar gael ar-lein. Daw cyllid y ganolfan yn bennaf o ffynonellau elusennol a phrifysgol ac incwm o hyfforddiant, ynghyd â pheth cyllid grant gan Lywodraeth Cymru i brojectau penodol. Mae'r Ganolfan yn cydweithio’n agos gydag amrywiaeth o bartneriaethau, yn cynnwys Cymdeithas Alzheimer a RESEC Cymru, ac mae wedi ymrwymo i weithio gyda phawb sy'n ymdrechu i wella ansawdd gwasanaethau i bobl â dementia a'u cefnogwyr yng Nghymru. Croesawir partneriaethau a chyfleoedd newydd.
Mae pwysigrwydd y Gymraeg, treftadaeth ddiwylliannol unigryw Cymru, y cydbwysedd rhwng ardaloedd trefol ac ardaloedd gwledig, gwahaniaethau yn y systemau iechyd a gofal cymdeithasol a'r her o sicrhau cyfathrebu da rhwng y de a'r gogledd ymysg y prif ffactorau sydd ynghlwm â darparu Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia sy'n benodol i Gymru. Mae'r Ganolfan yn cyfrannu at ddatblygu a gweithredu polisïau yng Nghymru trwy'r ddogfen 'Gweledigaeth Genedlaethol Cymru ar Ddementia' a'r llif gwaith 'Dementia GIG Cymru 1000 o Fywydau a mwy'.
Tan 2013 roedd Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru ym Mhrifysgol Bangor yn rhan greiddiol o'r Ganolfan Ymchwil Meddygol a Gofal Cymdeithasol a chyda chysylltiadau cryf ag NWORTH, Uned Dreialon Clinigol Bangor a CHEME, canolfan economeg iechyd Bangor. Mae'r Ganolfan nawr o fewn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd, fel rhan o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor. Mae'r Ganolfan yn gweithio mewn partneriaeth ar draws ystod o Ysgolion ym Mhrifysgol Bangor, yn cynnwys Ysgolion Seicoleg, Gwyddorau Cymdeithasol a Cherddoriaeth, a chysylltiadau â PONTIO, canolfan Celfyddydau ac Arloesi Bangor.
O 2005-2015 roedd Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru yn gartref i Grŵp Ymchwil Cofrestredig Dementia ac Afiechydon Niwroddirywiol Cymru (NEURODEM Cymru), rhan o Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (NISCHR), isadeiledd ymchwil Cymru. O fis Ebrill 2015, daeth hyn yn rhan o'r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia, fel rhan o strwythur Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru yn arwain cyfraniad Prifysgol Bangor i'r Ganolfan, sydd yn gydweithrediad gyda Phrifysgolion Abertawe a Chaerdydd.