Rhannu gwersi project Celf Dementia

Paratoi lliwiau ar gyfer gweithdy celf yn Sir Ddinbych.Paratoi lliwiau ar gyfer gweithdy celf yn Sir Ddinbych.Mae gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd ar draws gogledd Cymru yn mynd i ddysgu o brofiadau’r rhai a fydd yn cymryd rhan mewn project mawr ar Ddementia a’r Dychymyg a arweinir gan Brifysgol Bangor, wrth i’r gweithdy cyntaf o’i fath ddigwydd yn y rhanbarth. 

Mae pobl o ardal Rhuthun sydd â dementia wedi cael cyfle i  weithio efo artistiaid fel rhan o project ymchwil ar raddfa eang sy’n cael ei gynnal yng ngogledd Cymru, gogledd ddwyrain Lloegr a Swydd Derby. Mae’r ymchwil gynhwysfawr yn mesur i ba raddau y gall celfyddyd helpu pobl â dementia i fyw yn dda ac i barhau mewn cysylltiad â’u cymunedau.


Arbenigwyr blaenllaw mewn ymchwil gofal dementia yn y Brifysgol sy’n arwain y project ymchwil, gyda chyrff dylanwadol eraill fel Age Watch, Cymdeithas Alzheimer, Cyngor y Celfyddydau a Chyngor Sir Dinbych yn cymryd rhan. Yn y sesiwn sydd i’w chynnal ar 23 Fehefin, bydd gweithwyr proffesiynol ym maes gofal dementia sy’n gweithio gyda gwasanaethau i bobl â dementia neu’n eu trefnu yn cael profiad uniongyrchol o’r gweithgareddau sydd wedi’u cynnig mewn cartrefi gofal, safleoedd GIG a lleoliadau cymunedol fel rhan o’r ymchwil.
 

Meddai Teri Howson, ymchwilydd o Brifysgol Bangor, “Mae’r digwyddiad yn dod a phobl sy’n cefnogi unigolion â problemau cof at ei gilydd, i roi cyfle iddynt weld sut y gallent ddefnyddio’r gweithgareddau ac i drafod sut i rannu’r dysgu a’r adnoddau i wella gwasanaethau i’r dyfodol.”

“Ein bwriad fel ymchwilwyr yw cysylltu ag amrediad o fudiadau ac unigolion sy’n cynorthwyo pobl i fyw yn dda â dementia ac edrych ar sut y gallent ddechrau defnyddio celfyddyd yn eu cymunedau.” 

Arbrofi gydag argraffu cyanotype yn Sir Ddinbych..Arbrofi gydag argraffu cyanotype yn Sir Ddinbych..Mae’r Gweithdy wedi derbyn cyllid gan Raglen Connected Communities, sydd wrthi’n creu mentrau grymus ar y cyd, rhwng ymchwilwyr a chymunedau, er mwyn dod i ddeall yn benodol, trwy ymchwil, y newid yn y rhan y gall cymunedau ei chwarae wrth gynnal a gwella ansawdd bywyd a fydd yn creu gwaddol gwerthfawr ar gyfer ymchwil yn y dyfodol ac i’r cymunedau. Arweinir y rhaglen gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) mewn partneriaeth â Chynghorau Ymchwil eraill ac amryw o gyrff eraill. 

Bob blwyddyn, mae Connected Communities yn cynnal arddangosiad o’i ymchwil, er mwyn i’r cyhoedd ddysgu mwy am brojectau a gweithgareddau cyfredol. Yr haf hwn, mae’r arddangosiad wedi dod ddigwyddiad ar raddfa’r DU, fel rhan o ddathliadau dengmlwyddiant yr AHRC, gyda chyfres o ddigwyddiadau i’w cynnal rhwng 15 a 19 Mehefin.

Mae digwyddiadau Dementia a’r Dychymyg hefyd yn digwydd yn Newcastle a Manceinion.  Am ragor o wybodaeth am ddyddiadau a’r rhaglen, ewch wefan Dementia a’r Dychymyg: 

Neu i gael gwybod am ddigwyddiadau Connected Communities eraill a gynhelir, ewch i:

http://www.ahrc.ac.uk/News-and-Events/Events/Pages/Connected-Communities-Festival-2015.aspx 

Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2015