Cerddoriaeth i gysuro siaradwyr Cymraeg sy'n byw gyda dementia

Lansiad CD Cân y Gân,  aelodau Merched y Wawr gyda'u Cyfarwyddwr Cenedlaethol Tegwen Morris (trwsus piws) a Dr Catrin Hedd Jones o Brifysgol Bangor (dde). Lansiad CD Cân y Gân, aelodau Merched y Wawr gyda'u Cyfarwyddwr Cenedlaethol Tegwen Morris (ffrog las, rhes gefn) a Dr Catrin Hedd Jones o Brifysgol Bangor (dde). Erbyn hyn, gall siaradwyr Cymraeg sy'n byw gyda dementia fwynhau caneuon o'u gorffennol yn Gymraeg diolch i fenter gan Brifysgol Bangor a Merched y Wawr cefnogwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu staff gofal Cymru i wella bywydau preswylwyr Cymraeg. 

Yn ôl pob sôn, mae hynny'n helpu i'w cysuro, eu hysgogi a dwyn i gof atgofion maen nhw wedi'u hanghofio. Fel rhan o’r fenter bydd CD a rhestr chwarae newydd o gerddoriaeth sydd wedi'i churadu'n arbennig yn cael ei dosbarthu i gartrefi gofal ar draws Cymru. 

Yn ôl ymchwilwyr o Brifysgol Bangor, mae cerddoriaeth yn gallu lleddfu iselder a difaterwch a chyfrannu at well ansawdd bywyd i unigolion sy'n byw gyda dementia.  Er bod llawer o staff gofal yn cydnabod hyn, mae'r rhan fwyaf o weithgareddau cerddorol mewn cartrefi gofal yn digwydd yn Saesneg, sy'n gallu arwain at golli cyfleoedd i breswylwyr sydd ag atgofion cryf sy'n gysylltiedig â cherddoriaeth Gymraeg.   

Heddiw (dydd Gwener 19 Gorffennaf), preswylwyr cartref gofal ym Metws, Rhydaman oedd y cyntaf i ailwrando ar ganeuon o'u gorffennol wrth i CD Cân y Gân gael ei lansio mewn digwyddiad arbennig mynychwyd gan y Gweinidog Llywodraeth Cymru dros y Gymraeg, Eluned Morgan.   

Mae'r ddisg 20 trac, sydd hefyd ar gael i'w llwytho i lawr, yn cynnwys cerddoriaeth o sawl degawd, mewn prosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor, Merched y Wawr, y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia, cwmni recordiau Sain a Dydd Miwsig Cymru. Mae'r casgliad o ganeuon yn deillio o waith gan Alister O'Mahoney, sydd wedi graddio mewn Cerddoriaeth, fel rhan o'i interniaeth gyda Dr Catrin Hedd Jones. 

BEluned Morgan, Gweinidog dros yr Iaith Gymraeg, yn sgwrsio gyda rhai o breswylwyr Cartref Annwyl Fan.Eluned Morgan, Gweinidog dros yr Iaith Gymraeg, yn sgwrsio gyda rhai o breswylwyr Cartref Preswyl Annwyl Fan.ydd mil o gopïau o'r CD, sydd hefyd yn cynnwys gwaith celf  a grewyd fel rhan o broject Dementia a'r Dychymyg gan Phil Thompson o'r Rhuthun sy'n byw gyda dementia, ar gael i ofalwyr gan Ferched y Wawr, ac ar gael i'w lwytho o https://open.spotify.com/user/dyddmiwsigcymru/playlist/4jCQHtXNTS6wFt7hQLRC8p

Lansiwyd y CD yng Nghartref Gofal Annwyl Fan, sy'n darparu gofal preswyl ac arbenigol i hyd at 70 o bobl sy'n byw gyda dementia. Daeth aelodau o gangen Rhydaman o Ferched y Wawr i'r lansiad, yn ogystal â Rhys Meirion - y dewiswyd ei gân enwog, Anfonaf Angel, fel un o'r 20 o draciau i'w chynnwys ar y CD drwy bleidlais gyhoeddus. 

Daeth Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, i'r digwyddiad i gyflwyno CD i Deborah Wellington, rheolwr cyffredinol y cartref gofal.   

Meddai: "Fel cyn cadeirydd Live Music Now yng Nghymru, elusen sy'n hyrwyddo cerddoriaeth byw mewn cartrefi gofal, rwyf wedi gweld dros nifer o flynyddoedd yr effaith anhygoel y gallai cerddoriaeth o'r gorffennol ei gael ar bobl sy'n byw gyda dementia. 

"Gwerthfawrogi cerddoriaeth yw un o'r galluoedd sy'n aros hiraf gyda phobl sy'n byw gyda dementia, ac i lawer ohonon ni yng Nghymru, mae'r caneuon sy'n golygu cymaint i ni yn cael eu canu yn Gymraeg.  Mae gweld ymateb preswylwyr cartref Annwyl Fan heddiw yn dangos i ni sut y gall grym y gerddoriaeth effeithio'n gadarnhaol ar fywydau pobl.  

Y canwr Rhys Meirion yn siarad gyda Glenys O'Dpnogue yng Nghartref Preswyl Annwyl Fan.Y canwr Rhys Meirion yn siarad gyda Glenys O'Dpnogue yng Nghartref Preswyl Annwyl Fan.Bydd y CD yma, rwy’n falch iawn i lansio heddiw yn helpu cysuro, hysgogi a dwyn i gof hen atgofion, a fydd yn helpu i wella ansawdd bywyd cymaint o siaradwyr Cymraeg sy'n byw gyda dementia. " 

Meddai Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:  

"Rwy'n croesawu'r adnodd gwerthfawr yma a fydd yn helpu siaradwyr Cymraeg sydd â dementia i deimlo'n ddibryder.  Drwy fframwaith Mwy na Geiriau...., mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn Gymraeg.  Mae iaith a gofal yn mynd law yn llaw, ac mae cyfathrebu â phobl yn eu hiaith gyntaf yn elfen allweddol o ddarparu gofal o ansawdd." 

Meddai Dr Catrin Hedd Jones, Seicolegydd Siartredig a Darlithydd yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor, sydd wedi bod yn arwain ar y prosiect:  

"Mae cerddoriaeth o'n hieuenctid yn dal yn gyfarwydd i ni'n ddiweddarach mewn bywyd. Bydd y cydweithio yma'n galluogi preswylwyr sy'n siarad Cymraeg mewn cartrefi gofal i glywed caneuon maen nhw'n gallu cysylltu â nhw. Roedd hyn wir yn apelio i'r cyhoedd, a chafwyd awgrymiadau am bron i 600 o ganeuon sydd wedi ein galluogi i ryddhau'r detholiad amrywiol yma o ganeuon Cymraeg o blith yr awgrymiadau mwyaf poblogaidd.  Mae modd argraffu geiriau'r caneuon o'n gwefan ac rydyn ni'n bwriadu datblygu'r gwaith yma drwy gyflwyno rhestrau chwarae personol i bobl mewn partneriaeth ag elusen Playlist for Life. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at sicrhau bod staff gofal bellach yn gallu cynnig caneuon Cymraeg i'w preswylwyr." 

Gweler hefyd: https://www.bangor.ac.uk/news/archif/sicrhau-mynediad-at-gerddoriaeth-cymraeg-ar-gyfer-pobl-sydd-yn-byw-gyda-dementia-39687

https://www.bangor.ac.uk/graduation/newyddion/grym-llesol-y-g%C3%A2n-yn-gyrru-llwyddiannau-alistair-41098

Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2019