Newyddion: Awst 2017

Arian i ddatblygu mwy o ymchwilwyr ym maes dementia

Mae oddeutu 45,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru, ac amcangyfrifir bod yr afiechyd yn costio £1.4 biliwn y flwyddyn. Y ganran uchaf o’r gost yw’r gofal di-dâl a ddarperir gan deuluoedd a chyfeillion. Nid yw gwasanaethau dementia ar gael i bawb yn yr un modd, ac mae cael mynediad at y gwasanaethau drwy sectorau iechyd a gofal yn anodd i rai. Mae cludiant cyhoeddus yn wael a’r risg y bydd gofalwyr yn teimlo’n ynysig a heb gefnogaeth hefyd yn heriau arbennig mewn ardaloedd gwledig. Mae ymchwilwyr yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor wedi cael dros hanner miliwn o bunnoedd mewn cyllid i gynnal dwy Gymrodoriaeth Ymchwil mewn Ymchwil ym maes Dementia gan Lywodraeth Cymru. Bwriad y Cymrodoriaethau hyn, a ariennir drwy Y mchwil Iechyd a Gofal Cymru , yw cynyddu’r gallu mewn ymchwil gofal ac iechyd drwy gefnogi unigolion i ddod yn ymchwilwyr annibynnol a chynnal projectau ymchwil o ansawdd uchel.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2017

Anti Glenda a'i ffrindiau Dementia - Eisteddfod Genedlaethol Mawrth 8 Awst

Mae adnodd aml-gyfrwng a grëwyd gan ddisgyblion Ysgol Pentreuchaf i godi ymwybyddiaeth o ddementia, wedi ei ddangos am y tro cyntaf mewn cyfarfod i drafod project arloesol, Project Anti Glenda, ym Mhabell Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod bore 'ma (ddydd Mawrth 8 Awst). Mae dementia yn broblem iechyd cyhoeddus o bwys yng Nghymru ac mae'r ymchwil a'r dysgu ym Mhrifysgol Bangor wedi ei anelu at wella’r gefnogaeth i’r rhai hynny sy'n byw gyda'r cyflwr. Amcangyfrifir bod rhwng 40,000 a 50,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia. Gall y symptomau amrywio yn ôl y math o ddementia ond gall y cyflwr effeithio ar dasgau bob dydd, cyfathrebu, y synhwyrau a'r cof.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2017