ENRICH Cymru
Mae Galluogi Ymchwil mewn Cartrefi Gofal (ENRICH) Cymru yn cael ei gynnal gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac mae'n rwydwaith ymchwil Cymru gyfan o gartrefi gofal sy'n cefnogi cyflwyno a hwyluso ymchwil o ansawdd uchel sy'n mynd i'r afael â materion cyfredol yn y sector cartrefi gofal.
Mae'r rhwydwaith yn hyrwyddo cyfnewid syniadau a gwybodaeth, ac yn meithrin cyd-greu ymchwil ledled y wlad drwy ddod â staff cartrefi gofal, preswylwyr a'u teuluoedd at ei gilydd gydag ymchwilwyr.
Mae lle yn y rhwydwaith i bob cartref gofal sydd â diddordeb ymuno, p’un a ydych eisiau cael y newyddion diweddaraf am y datblygiadau diweddaraf ym maes ymchwil neu os ydych chi’n barod i gynorthwyo drwy gyflawni ymchwil yn eich cartref chi.
Bydd aelodau rhwydwaith ENRICH Cymru yn derbyn:
- Diweddariadau rheolaidd am gyfleoedd ymchwil sydd ar y gweill yng Nghymru a’r datblygiadau diweddaraf ym maes ymchwil a datblygu cartrefi gofal ledled y DU
- Hyfforddiant ar-lein am ddim
- Cyngor a chymorth ar oresgyn yr heriau o ran cyflenwi ymchwil mewn cartrefi gofal
- Cefnogaeth i nodi cartrefi gofal a phreswylwyr i gynorthwyo astudiaethau
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Enrich Cymru.