Newyddion: Chwefror 2018

Ymchwilwyr Bangor yn cyfrannu at hyrwyddo strategaeth ymchwil dementia

Bu Dr Gill Windle a'r Athro Emeritws Bob Woods, o ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia, rhan o BIHMR yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, yn rhan o dasglu Cymdeithas Alzheimer yn cynnwys clinigwyr ac ymchwilwyr dementia yn y Deyrnas Unedig, noddwyr ymchwil dementia yn y Deyrnas Unedig, pobl â dementia a chynrychiolwyr gofalwyr, a ddatblygodd y 'map ymchwil dementia cyntaf ar gyfer dulliau atal, rhoi diagnosis, ymyrryd a gofal erbyn 2025'.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Chwefror 2018

Dim ond awr o ryngweithio cymdeithasol bob wythnos yn gwella gofal dementia

Mae cael dim ond awr yr wythnos yn ychwanegol o ryngweithio cymdeithasol i bobl gyda dementia sy'n byw mewn cartrefi gofal yn gwella ansawdd bywyd, pan gyfunir hynny â gofal personol. Cyfrannodd Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor at arbrawf ar lefel eang a arweiniwyd gan Brifysgol Exeter, King’s College, Llundain a'r Oxford Health NHS Foundation Trust. Daeth i'r amlwg bod y dull gweithredu hwn hefyd yn arbed arian.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2018