Caban

Addysgwyr Dementia Prifysgol Bangor

Rhai o'n haelodau yn y Caban yn yr Amgueddfa Llechi Genedlaethol, Llanberis.

 

Rydym yn cwrdd o leiaf ddwywaith y flwyddyn ac yn croesawu pobl sy'n byw gyda dementia yng ngogledd a chanolbarth Cymru, mae hyn yn cynnwys y rhai sydd gyda diagnosis a'u cefnogwyr.

Rydym yn gweithio'n agos gyda'r staff academaidd a'r myfyrwyr yn Ysgol y Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor i ddweud wrth fyfyrwyr ac ymchwilwyr israddedig ac ôl-raddedig beth sy'n bwysig i bobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia.

Mae'r aelodau hefyd wedi addysgu staff iechyd a gofal cymdeithasol y presennol a’r dyfodol trwy sesiynau ymwybyddiaeth, ymgynghoriadau a chyflwyniadau mewn grwpiau bach, digwyddiadau hyfforddi a chynadleddau.

 

Mae ein haelodau wedi perfformio archwiliadau dementia ar gyfer lleoedd cyhoeddus fel yr Amgueddfa Llechi Genedlaethol, gan rannu eu profiadau o le i arwain at welliannau.

Rhai o'n haelodau yn perfformio archwiliad dementia yn yr Amgueddfa Llechi Genedlaethol.

 

Trwy'r fenter Cyfle am Sgwrs rydym hefyd yn darparu cefnogaeth cymheiriaid unigol i'r rhai sy'n byw gyda diagnosis o ddementia.

 

Mae'r grŵp yn cael ei hwyluso gan staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor sy'n gweithio i gefnogi pobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia fel rhan o'n gwaith tuag at ddod yn Brifysgol sy'n Gyfeillgar i Ddementia.

 

Os ydych wedi effeithio gan dementia ac yr hoffech chi ymuno â grŵp Caban, cysylltwch â Catrin Hedd Jones (c.h.jones@bangor.ac.uk / 01248 388872)