Rhwydwaith Dementia Gogledd Cymru
Adeiladu cymunedau sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia
Sefydlwyd rhwydwaith dementia Gogledd Cymru (2016) gyda chefnogaeth cyfrif cyflymu effaith yr ESRC Prifysgol Bangor er mwyn adeiladu ar ganfyddiadau ein hymchwil. Nod y rhwydwaith yw rhannu arfer gorau, gwella cydweithrediad, a chynyddu effaith ymchwil o fewn y maes dementia.
Mae aelodaeth y rhwydwaith yn cynnwys pobl sy'n byw gyda dementia, gofalwyr/ gefnogwyr di-dâl, staff o asiantaethau'r trydydd sector, gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol ac ymchwilwyr. Mae'r aelodaeth yn parhau i dyfu gyda dros 400 bellach yn aelodau gan ehangu yn 2019 i ganolbarth Cymru.
Mae cynnwys pobl sy'n byw gyda dementia a’u cefnogwyr wrth wraidd y rhwydwaith wedi sicrhau fod gweithgarwch y rhwydwaith yn seiliedig a’r profiadau a syniadau o lawr gwlad, gan annog cydweithredu a gosod blaenoriaethau sydd yn seiliedig ar brofiadau'r sawl sydd yn byw gyda dementia Mae rhai aelodau o'r rhwydwaith bellach yn rhan o Grŵp ar Oruchwylio Gweithrediad ac Effaith ym maes Dementia (DOIIG) y Llywodraeth ac yn weithgar ar draws sawl cynllun fel gwelch yn y lincs isod.
Rhwydwaith dementia Gogledd Cymru: Twitter / Facebook
Mae'r daflen hon yn disgrifio sut y gwnaethom sefydlu Rhwydwaith Dementia Gogledd Cymru.
Cysylltwch â ni os hoffech ragor o fanylion am sut fedrwch ymuno yn ein gwaith: nwdementianetwork@bangor.ac.uk
Ysgol Gwyddorau Iechyd, Ardudwy, Safle'r Normal, Ffordd Caergybi, LL57 2PZ
Gwelwch hefyd tudalen we: Prifysgol Bangor yn gweithio tuag at dod yn Brifysgol 'Cyfeillgar tuag Dementia'