Mae Prifysgol Bangor yn aelod o’r project rhyngwladol PAAR-Net

Rydym yn falch o fod yn rhan o PAAR-Net: Dulliau cyfranogol gydag oedolion hŷn, rhwydwaith ymchwil rhyngwladol a gefnogir gan COST Action (CA22167) ac a gydlynir gan Brifysgol Jagiellonian yn Kraków.

Mae PAAR-Net wedi ymrwymo i ailystyried sut mae oedolion hŷn yn ymwneud ag ymchwil, llunio polisïau ac ymarfer. Mae'r project yn hyrwyddo gweledigaeth o wyddoniaeth sy'n gynhwysol, yn gydweithredol ac yn canolbwyntio ar bobl - gwyddoniaeth i'r bobl, gan y bobl.

Trwy annog dulliau cyfranogol gydag oedolion hŷn, nod PAAR-Net yw gwneud cymdeithasau sy'n heneiddio yn fwy teg, cynhwysol a chynaliadwy. Mae cynnwys oedolion hŷn yn uniongyrchol yn helpu sicrhau bod polisïau, ymchwil a gwasanaethau yn adlewyrchu eu hanghenion, eu profiadau a'u gobeithion. Mae hyn yn arwain at ganlyniadau mwy effeithiol ac yn hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb i oedolion hŷn ar draws gwahanol ddiwylliannau a gwledydd.

Prif nod PAAR-Net yw cau'r bwlch rhwng ymchwil academaidd a llunio polisïau yn y byd go iawn trwy hyrwyddo gwybodaeth a gynhyrchir ar y cyd ag oedolion hŷn. Mae’r rhwydwaith dan arweiniad Dr Hab. Anna Urbaniak o Brifysgol Jagiellonian yn Kraków (cadeirydd gweithredu) a Dr Anna Wanka o Brifysgol Fienna (is-gadeirydd gweithredu) yn cynnwys dros 400 o ymchwilwyr o fwy na 40 o wledydd. Maent yn cydweithio er mwyn:

  • Cynnal digwyddiadau rhyngwladol, gan gynnwys ysgolion hyfforddi a chyfarfodydd cyfnewid gwybodaeth;
  • Cefnogi ymweliadau gwyddonol tymor byr;
  • Dyfarnu grantiau ar gyfer ymchwil annibynnol a chymryd rhan mewn cynadleddau;
  • Cynhyrchu cyhoeddiadau gwyddonol, briffiau polisi a deunyddiau a grëir ar y cyd ag oedolion hŷn.

Mae gwaith PAAR-Net wedi ei drefnu'n bedwar prif faes:

  1. Iechyd, gofal a chefnogaeth;
  2. Cymuned a lle;
  3. Technoleg ac arloesi;
  4. Synthesis a Safonau Ansawdd ar gyfer Ymchwil Cyfranogol.

Mae'r fenter hefyd yn cynnwys fforwm ymchwilwyr ac arloeswyr ifanc a grŵp cyd-grewyr hŷn, gan sicrhau cyfranogiad cryf gan ysgolheigion ifanc ac oedolion hŷn eu hunain.

Mae croeso i ymchwilwyr, ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol sydd ag arbenigedd perthnasol ymuno â PAAR-Net. Os yw eich gwaith yn ymwneud â dulliau cyfranogol ac unrhyw un o brif feysydd y project, rydym yn eich annog i gymryd rhan.

Am fwy o fanylion ac i ddysgu sut i ymuno, ewch i wefan swyddogol y project: https://paar-net.eu/