Disgyblion ysgol yn ymgolli mewn celf mewn project Dementia a’r Dychymyg

Mae plant ysgol o Sir Ddinbych wedi gweithio ochr yn ochr â grŵp celf ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia i greu darn o gelf ar raddfa fawr sy’n ymateb dychmygus i gwestiynau sy’n gysylltiedig ac yn cynnwys pobl sy’n byw gyda dementia yn ein cymdeithas.

Ymunodd y plant ysgol Blwyddyn 6 o Ysgol Gynradd Clawdd Offa, Prestatyn ag aelodau’r grŵp o raglen ‘Ymgolli mewn Celf’ Cyngor Sir Ddinbych (SCDd) i annog cwestiynau ynglŷn â chreu cymunedau cynhwysol a chefnogol i bobl sy’n byw gyda dementia yn ein cymunedau. Bydd y plant hefyd yn cymryd rhan mewn sesiwn ymwybyddiaeth Dementia Friends cyn y gweithdy i ddysgu mwy am y salwch.

Cefnogwyd y grŵp gan yr artist Lisa Carter sydd wedi arwain gweithdai ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia yng Ngogledd Cymru. Bydd modd i’r cyhoedd weld y gosodiad celf a grëwyd gan y Grŵp yn stiwdio 6 yng Nghanolfan Grefftau Rhuthun hyd at 30 Ebrill.

Mae Lisa hefyd yn creu ffilm o’r gwaith celf a ddangosir fel rhan o ddigwyddiad cyhoeddus o bwys, Ffair Utopia, a gynhelir yn Edmond J Safra Fountain Court yn Somerset House, Llundain, o nos Wener 24 Mehefin hyd at 26 Mehefin 2016.

Cynhelir yr Ŵyl mewn partneriaeth ag Ymddireidolaeth Somerset House fel rhan o ‘Utopia 2016: A Year of Imagination and Possibility’. Mae Utopia 2016 yn bedwar tymor o weithgarwch sy’n dathlu 500 mlynedd ers cyhoeddi Utopia gan Thomas More. Fe’i cyhoeddwyd yn Leuven yn Rhagfyr 1516, ac yn y gyfrol cyflwynodd weledigaeth ddychmygus a chwareus o’r byd ar gyfnod o newid mawr.

Mae’r digwyddiad hwn yn barhad cyffrous o’r bartneriaeth rhwng Dementia a’r Dychymyg a Gwasanaeth Celf CSDd fel rhan o astudiaeth ymchwil Dementia a’r Dychymyg. Mae’r astudiaeth hon, sy’n cael ei chynnal drwy’r Deyrnas Unedig, dan arweiniad Prifysgol Bangor, yn ystyried a all gweithgareddau creadigol helpu pobl sy’n byw gyda dementia a’r rhai sy’n eu cefnogi.  Mae’r Rhaglen Cymunedau Cysylltiedig, sy’n cael ei hariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) yn ceisio meithrin cydweithio cadarn rhwng ymchwilwyr a chymunedau  er mwyn elwa ar ymchwil benodol i’r newid yn rôl cymunedau o ran cynnal a gwella ansawdd bywyd a chreu tystiolaeth werthfawr ar gyfer ymchwil yn y dyfodol a chymunedau. Caiff y rhaglen ei harwain gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau mewn partneriaeth â Chynghorau Ymchwil eraill a nifer o sefydliadau eraill.

Dywedodd yr Athro Bob Woods, Cyfarwyddwr Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Prifysgol Bangor, "Bydd y prosiect o fudd i bawb sy'n cymryd rhan, a hefyd yn dangos i'r cyhoedd y gall pobl dal i fyw yn dda gyda dementia, ac mae ganddynt lawer i'w gynnig i’r gymdeithas."

Meddai Siân Fitzgerald, Swyddog Celfyddydau gyda Gwasanaeth Celfyddydau Cyngor Sir Ddinbych:

"Mae Gwasanaeth Celfyddydau Cyngor Sir Ddinbych yn falch iawn o fod yn gweithio gyda'r artist Lisa Carter a thîm Dementia a’r Dychymyg ar y digwyddiad hwn a fydd yn rhoi cyfle i bobl sydd yn byw hefo dementia ac i ddisgyblion ysgol, archwilio mewn ffordd greadigol beth fyddai iwtopia byd dementia cyfeillgar iddyn nhw. "

Cynhelir dau ddigwyddiad arall gyda’n partneriaid, Prifysgol Newcastle ac Equal Arts ym Mhrifysgol Newcastle a’r Manchester Metropolitan ac artistiaid Cyswllt o ganolfan gelf Nottingham Contemporary yn Chesterfield i ystyried cwestiynau tebyg gyda phobl sy’n byw gyda dementia, staff gofal, staff y GIG ac unigolion o sefydliadau sy’n gweithio i helpu pobl gyda dementia.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Ebrill 2016