Graddfa Gwytnwch Dementia Bangor (BDRS): Holiadur i fesur gwytnwch ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia

Mae Graddfa Gwytnwch Dementia Bangor (BDRS) yn holiadur sy’n mesur gwytnwch ymysg pobl sy'n byw gyda dementia. Gall fod yn ddefnyddiol wrth nodi cryfderau a meysydd lle bydd angen mwy o help o ran gofal a chymorth da sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i bobl sy'n byw gyda dementia. Gall y BDRS hefyd fod yn ddull defnyddiol sy’n seiliedig ar gryfderau ar gyfer gwerthuso i ba raddau y mae ymyriadau a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn gwella gwytnwch.

Datblygwyd yn: Prifysgol Bangor, Cymru mewn cydweithrediad â Choleg Prifysgol Llundain (UCL) a Phrifysgol Nipissing, Canada.

Y Tîm: Gill Windle, Jennifer Rhiannon Roberts, Catherine Anne MacLeod, Zoe Hoare, Mary Pat Sullivan, Emilie Brotherhood, Joshua Stott, Paul Camic a Sebastian Crutch.

Nifer o gwestiynau: 19

Parthau: ‘Outlook’, ‘Addasiad’, ‘Derbyn’, ‘cymorth cymunedol a chymheiriaid’ a ‘teulu a ffrindiau’.

Cyfanswm y sgôr: Sgoriau cymedrig o fewn pob parth wedi’u cyfrifo, yn arwain at sgôr rhwng 5 a 25.

Datblygu'r BDRS

Mae'r gwaith yn dilyn methodoleg drylwyr ar gyfer datblygu graddfeydd mesur iechyd. Roedd y camau datblygu’n cynnwys 1) adolygiad systematig a gwerthusiad seicometrig o raddfeydd mesur gwytnwch presennol a ddefnyddir gyda phobl sy’n byw gyda dementia, a’u gofalwyr, gan ganfod nad oedd unrhyw fesurau wedi’u datblygu gyda, ac ar gyfer, pobl sy’n byw gyda dementia; 2) datblygu fframwaith cysyniadol newydd o wytnwch ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia trwy archwilio llenyddiaeth academaidd a siarad â phobl sy'n byw gyda dementia, a'u gofalwyr; 3) defnyddio'r fframwaith hwnnw i ddrafftio cwestiynau a'u treialu gyda gweithwyr proffesiynol, pobl sy'n byw gyda dementia, a'u gofalwyr; a 4) cynnal prawf maes ar ddrafft o’r mesur gyda 193 o bobl yn byw gyda dementia. Arweiniodd y broses hon at 19 eitem derfynol a Graddfa Gwytnwch Dementia Bangor.
Gallwch ddysgu mwy am bob cam yn y cyhoeddiadau canlynol:

Graddfa Gwytnwch Dementia Bangor

Cwblhewch y ffurflen fer yma i weld Graddfa Gwytnwch Dementia Bangor (am ddim). Nodwch fod y mesur ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd.

Rydym yn argymell printio ar bapur lliw golau. Mae hyn yn seiliedig ar awgrymiadau pobl sy'n byw gyda dementia sydd wedi llywio'r gwaith yma.

Cyngor gorau gan y grŵp Caban ar gyfer cynnal gwytnwch


Contact

Canolfan Ymchwil CDGD Cymru

Ffôn: +441248 383050

E-bost: dsdc@bangor.ac.uk

Cyllid

Cefnogwyd y gwaith yma gan gyllid gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) a’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) Rhif Grant/Dyfarniad: ES/S010467/1, a ariannwyd fel ‘Effaith grwpiau cymorth aml-gydran ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia prin’. Prif ymchwilydd S. Crutch (Coleg Prifysgol Llundain (UCL)); Cyd-ymchwilwyr J. Stott, P. Camic (UCL); G. Windle, R. Tudor-Edwards, Z. Hoare (Prifysgol Bangor); M.P. Sullivan (Prifysgol Nipissing); R. Mackee-Jackson (Apêl Genedlaethol yr Ymennydd). 

Mae ESRC yn rhan o Ymchwil ac Arloesi y DU. Safbwyntiau’r awdur(on) yw’r rhai a fynegir ac nid o reidrwydd safbwyntiau’r ESRC, UKRI, yr NIHR neu’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.