Cyfle am sgwrs
I unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan ddementia, sydd eisiau siarad â rhywun sy’n byw efo dementia.
Mae ‘Cyfle am sgwrs’ yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr sydd yn byw gyda dementia. Croeso i chi gysylltu unrhyw bryd. Os nad oes ateb, gadewch neges a byddem yn ffonio chi yn ôl, neu mae croeso cynnes i chi ddefnyddio unrhyw un o’r rhifau.
Ebost
Rhifau Ffôn
- Dynes, wedi cael diagnosis o ddementia yn 2015. Cyfeillgar, cymdeithasol a dal yn mwynhau bywyd.
Byw yn ardal Fflint/Wrecsam.
Ffôn: 07468 707828 - Dynes, wedi cael diagnosis o ddementia yn 2015. Wedi ymddeol yn ddiweddar o waith llawn amser, ac yn byw gyda theulu ifanc.
Byw yn ardal Conwy/Dinbych.
Ffôn: 07909 004394 - Dyn, wedi cael diagnosis o ddementia yn 2012, rwan yn 50au hwyr. Gwneud llawer i sicrhau bod pobl gyda dementia yn cael eu cynnwys.
Byw yn ardal Conwy/Dinbych.
Ffôn: 07468 710584 - Dynes, wedi cael diagnosis o ddementia yn 2014. Siaradwr Cymraeg.
Byw yn ardal Gwynedd/Môn.
Ffôn: 07468 710196
Cyfle am Sgwrs - cefnogi bobl sy'n byw gyda dementia
Cynghorion Gorau – ar gyfer unrhyw un sydd newydd gael diagnosis o ddementia
Mae ‘Gyda’n Gilydd’ yn ffilm fer sy’n cynnwys dau o wirfoddolwyr ‘Cyfle am Sgwrs’. Mae'r ffilm yn dangos sut y gall pobl sy'n byw gyda dementia ddarparu cyfeillgarwch a chefnogaeth i'w gilydd.