Cysylltu'r Cenedlaethau
Dathlu a Dysgu
Digwyddiad Cysylltu Cenedlaethau Prifysgol Bangor 11eg Ebrill 2019
Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle cyffrous i ddysgu am canfyddiadau ymchwil diweddaraf ac arfer da mewn rhaglenni rhwng cenedlaethau, roedd y siaradwyr gwadd yn cynnwys Heléna Herklots (Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru), Stephen Burke (United for All Ages), Tanya Strange (Ffrind i mi), a panel o ymarferwyr a hefyd dewis o weithdai gan gynnwys canfyddiadau ymchwil Prifysgol Bangor i effaith y rhagleni Hen Blant Bach (S4C) a The Toddlers that Took on Dementia (BBC Wales).
Roedd y digwyddiad yn cynnwys enghreifftiau o arfer yn y sector tai, awdurdodau lleol, addysg a'r bwrdd iechyd. Roedd y cynrychiolwyr yn elwa o fore rhyngweithiol gydag arweinwyr yn y maes Pontio’r Cenedlaethau er budd pawb. Roedd y digwyddiad yn bartneriaeth rhwng Canolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia Cymru, Grŵp Cynefin a Chyngor Gwynedd. Yn dilyn y digwyddiad dyfarnwyd arian dechreuol i chwech cynllun newydd ar draws y gogledd gyda swm o £1200.
Derbyniodd pob cynrychiolydd lyfr ‘Billy yr Archarwr’ yn dilyn gwaith Ffrind i Mi gyda phlant ysgol gynradd.
Mynychodd 113 o gynrychiolwyr y digwyddiad.
Cyflwyniadau o'r diwrnod:
Fideo côr cysylltu'r cenedlaethau, gyda phlant o Ysgol Pen Barras:
Rhai o luniau o'r digwyddiad:
Morwena Edwards - Llywydd y digwyddiad, Cyngor Gwynedd |
|
Helena Herklots - Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
|
|
Stephen Burke - United for all ages
Cyflwyniad: United For All Ages |
|
|
|
Tanya Strange - Ffrind i Mi
Cyflwyniad: Ffrind i mi |
Sgwrs addysgol gan Ysgol Esgob Morgan
Catrin Hedd Jones, Prifysgol Bangor,
Alison Clyde, Generations Working Together,
Ffion Haf Davies, Llys Eilian / The Toddlers that took on dementia,
Edwin Humphreys, CPN, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr,
Glenda Roberts, (Prosiect Anti Glenda),
Ann Pari Williams, Cyngor Gwynedd.
Cor Pontio'r Cenedlaethau
Yr ystafell yn llawn egni a brwdfrydedd
Agenda o'r diwrnod:
Rhagor o wybodaeth:
The Toddlers Who Took On DementiaThese children are getting through to people with dementia - and it's magical. ❤️
Posted by BBC One on Monday, July 9, 2018