DSDC Staff
Yr Athro Bob Woods (Bangor)
Astudiodd Bob Woods Seicoleg Arbrofol ym Mhrifysgol Caergrawnt, cyn cymhwyso fel seicolegydd clinigol ym Mhrifysgol Newcastle-upon-Tyne yn 1975. Bu'n gweithio wedyn am nifer o flynyddoedd yn y Gwasanaeth Iechyd yn Newcastle, fel seicolegydd clinigol gyda phobl hŷn, gan sefydlu grwpiau i ofalwyr gydag Age Concern, yn ogystal â datblygu dulliau gweithredu therapiwtig i bobl â dementia. Wedi hynny cyfunodd waith clinigol helaeth gyda phobl hŷn gyda phenodiadau academaidd yn yr Institute of Psychiatry, Llundain ac yng Ngholeg y Brifysgol Llundain. Fe'i penodwyd i'r Gadair gyntaf mewn Seicoleg Glinigol Pobl Hŷn yn y Deyrnas Unedig, ym Mhrifysgol Bangor yn 1996, ac yn dilyn ei ymddeoliad yng Ngorffennaf 2017 rhoddwyd iddo'r teitl Athro Emeritws. Bu'n gyfarwyddwr Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru ym Mhrifysgol Bangor o'i sefydlu yn 1999 tan 2017. O 2015-17 bu'n Gyfarwyddwr Cysylltiol Canolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, cynllun cydweithredol â Phrifysgolion Abertawe a Chaerdydd. Mae wedi ymwneud yn agos â datblygiadau mewn gofal dementia yng Nghymru drwy ei waith gyda chynllun GIG Cymru, 1000 o Fywydau a mwy, sy'n rhaglen i wella gofal dementia. Mae ei ymchwil wedi canolbwyntio ar ddulliau seicogymdeithasol o weithio gyda phobl â dementia a'u teuluoedd, ac mae hefyd yn arwain yr astudiaeth epidemiolegol bwysig o amhariad gwybyddol yng Nghymru, CFAS Cymru. Mae wedi cyhoeddi'n helaeth, o bapurau ymchwil ar ofal dementia ac iselder mewn pobl hŷn, i werslyfrau i seicolegwyr clinigol a llyfrau a phecynnau hyfforddi i rai'n gofalu am berthnasau â dementia. Mae'n Llysgennad i Gymdeithas Alzheimer, yn aelod o Banelau Ymgynghorol Meddygol a Gwyddonol i Alzheimer's Ewrop ac Alzheimer's Rhyngwladol, ac yn aelod o Fwrdd INTERDEM, y rhwydwaith Ewropeaidd ar ymyriadau seicogymdeithasol i bobl â dementia.
Ebost: b.woods@bangor.ac.uk