Gweithio gyda'n gilydd i wneud Cymru yn wlad gynhwysol i bobl â Dementia 

Daeth dros 200 o bobl ynghyd i Gynhadledd Dementia Cymru gan gynnwys ymchwilwyr, cynrychiolwyr o'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, gweithwyr elusen ac, yn bwysicaf, pobl sy'n byw gyda Dementia a'u gofalwyr.

Cefnogwyd Cynhadledd Dementia Cymru Gyfan eleni gan chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru, Rhwydwaith Dementia Gogledd Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, DEEP (Project Ymgysylltiad a Grymuso Dementia) a Chanolfan Ymchwil Cymru i Heneiddio a Dementia.

Arweinydd y diwrnod oedd Beti George a agorodd y diwrnod ac a siaradodd am ei phrofiad ei hun fod yn ofalwr i’w gŵr a oedd yn byw gyda Dementia. Cyflwynodd Beti banel, a oedd yn cynnwys aelodau o'r grŵp gorchwyl a gorffen oedd wedi gweithio ar ddatblygu Cynllun Gweithredu Dementia Cymru a lansiwyd yn ddiweddar. Pwysleisiodd y panel bwysigrwydd cynnwys rhai a effeithir gan ddementia wrth ddatblygu a monitro’r gwaith o roi polisïau ar waith yng Nghymru.

Pwysleisiodd Dr Gill Windle (DSDC, Prifysgol Bangor) a Daisy Cole (Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn) hefyd bwysigrwydd sicrhau bod y cynllun gweithredu'n cael ei roi ar waith.

Dywedodd Daisy Cole "Er bod y Comisiynydd yn croesawu Cynllun Gweithredu Dementia Llywodraeth Cymru, a'r camau a gymerwyd i sicrhau bod lleisiau pobl yr effeithir arnynt gan ddementia yn cael eu clywed.

Mae'n hanfodol bwysig bod y Cynllun Gweithredu yn gallu gyrru’r newid systematig a diwylliannol sydd ei angen i wella bywydau pobl sy'n byw gyda dementia, a bod gwaith gwerthuso cadarn ac ystyrlon yn cael ei wneud i alw Cyrff Cyhoeddus i gyfrif am ei gyflawni."

Hefyd yn ystod y diwrnod hefyd cyflwynwyd gwobr i'r Athro Emeritws Bob Woods am ei ymroddiad a'i gyfraniad yng Nghymru ac yn rhyngwladol i gefnogi'r rhai a effeithir gan ddementia cyn iddo roi cyflwyniad am ganfyddiadau'r ymchwil Ewropeaidd i wasanaethau yn y gymuned i bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr (ACTIFCare ).

Siaradodd yr Athro Sebastian Crutch (Coleg Prifysgol Llundain) ynghylch sut mae deall yr amrywiol fathau o Dementia yn gallu helpu i roi gwell gefnogaeth i bobl sy’n byw gyda nhw.

Esboniodd Sandie Grieve (Gofal Cymdeithasol Cymru) sut mae'r Dementia Learning and Development Framework yn amcanu i helpu gweithwyr iechyd a cymdeithasol i ddarparu'r gofal gorau i'r rheini sy'n byw gyda Dementia.

Roedd nifer o weithdai ar gael drwy gydol y dydd a oedd yn cynnwys ymarferion a cherdded ar y promenâd, defnyddio'r celfyddydau mewn cartrefi gofal, trafodaethau ar ofal seibiant, rhaglenni pontio'r cenedlaethau a'r canfyddiadau ymchwil diweddaraf sy'n cefnogi pobl yr effeithir arnynt gan ddementia.

Bu panel oedd yn cynnwys aelodau o DEEP sy'n byw gyda Dementia yn meddwl yn ôl am yr hyn sydd wedi newid yn y 12 mis diwethaf ac roedd hyn yn ein hatgoffa mewn modd pwerus nad yw pethau'n gwella bob amser a’r materion pwysicaf y dylid eu cadw mewn cof. Dywedodd Chris Roberts (Darlithydd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor) "Mae popeth wedi newid ac eto nid oes dim wedi newid", sylw oedd i weld yn atseinio profiad rhai oedd yn bresennol.

Daeth y digwyddiad i ben gyda phanel o drefnwyr a noddwyr y Gynhadledd, gan gynnwys Dr Catrin Hedd Jones o Rwydwaith Dementia Gogledd Cymru, Dr Gill Windle (DSDC), Chris Roberts a Teresa Davies sy'n byw gyda Dementia, Sandie Grieve ac Ulla Webber- Jones ( swyddogion hyfforddi gweithwyr cymdeithasol).

Derbyniodd y Gynhadledd Dementia Cymru adolygiadau cadarnhaol ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar ffurflenni adborth y rhai oedd yn bresennol: Meddai Rupert Leslie, Therapydd Galwedigaethol “Cynhadledd hollol wych unwaith eto. Mae’n beth pwerus clywed lleisiau a hanesion pobl. "

Dywedodd Emma Quaeck, Dementia Go, Cyngor Sir Gwynedd "Gyda'r heriau sy'n gysylltiedig â gweithio ar raglen gweithgarwch corfforol ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr – dw i’n teimlo bod Rhwydwaith Dementia Gogledd Cymru a’r gynhadledd hon yn ein cefnogi - rydym yn ffitio 'mewn! Diolch i chi am hyn!"