Byw gyda dementia: Prosiectau

Rhwydwaith Dementia Gogledd Cymru

Sefydlwyd Rhwydwaith Dementia Gogledd Cymru gyda chefnogaeth gan Gyfrif Cyflymu Effaith (IAA) ESRC Prifysgol Bangor ym 2016. Nod y rhwydwaith oedd rhannu ymarfer da, gwella cyd-weithio, a chynyddu effaith ymchwil dementia dros Ogledd Cymru.

Daeth arbenigwyr ar ddementia at ei gilydd - gan gynnwys pobl wedi’i effeithio’n bersonol gan ddementia ac amryw o bobl sy’n gweithio i gefnogi rhai sydd gyda diagnosis. Profodd yn blatfform defnyddiol a chefnogol ar gyfer rhannu gwybodaeth ymysg rhai sydd yn frwdfrydig am wneud cyfraniad positif. Cafodd y gwaith ei amlygu yn Arolwg Blynyddol y Brifysgol 2015-2016.

Yn y flwyddyn gyntaf trefnwyd chwe chyfarfod traws-sirol gyda 140 yn mynychu ar draws Gogledd Cymru. Roedd y cyfarfodydd yn cynnwys rhannu syniadau, profiadau a gwybodaeth, gydag aelodau yn dewis  themâu i’w ddatblygu drwy bartneriaeth. Defnyddiwyd gweithdai artistig dan arweiniad yr artist Lisa Carter (https://vimeo.com/170660286), er mwyn hybu trafodaethau.

'Byw gyda dementia yng Ngogledd Cymru – mewn undod mae nerth' Cynhadledd, 27 Ionawr 2017, Neuadd Reichel, Bangor

Roedd y gynhadledd yn gyfle i ddathlu gwaith y rhwydwaith. Clywsom am brofiadau pobl sy’n byw gyda dementia, yn ogystal â nifer o sefydliadau sydd  yn gweithio i gefnogi pobl sydd yn byw gyda  dementia. Mynychodd 110 o bobl y gynhadledd a chafodd y sgyrsiau eu recordio.

Dilynwch y linc yma i weld y sleidiau PowerPoint a gwrando ar siaradwyr o'r diwrnod.

Linc i Storify o'r diwrnod.

Roedd uchafbwyntiau’r diwrnod yn cynnwys trafodaeth panel o bobl sy’n byw gyda dementia yn rhannu beth sy’n bwysig iddynt hwy ac enghreifftiau o fyw bywyd i'r eithaf yn dilyn diagnosis. Clywsom bwysigrwydd cyfrannu sylwadau tuag at Strategaeth Dementia gyntaf i Gymru. Disgrifiodd aelodau o Sir Y Fflint eu cynlluniau i gynnig cefnogaeth ‘wyneb cyfeillgar’ ar gyfer pobl sydd newydd dderbyn diagnosis i siarad gyda rhywun sy’n byw gyda dementia. Rhannodd Tommy a Gina o Lerpwl flas o waith yr oeddent wedi ei gwblhau ers sefydlu SURF ym 2014.

(Trafodaeth panel gyda phobl sy’n byw gyda dementia: ‘Beth sydd yn bwsig i chi?’)

Rhoddodd swyddogion ymarfer corff Cyngor Gwynedd blas ar ddosbarth ymarfer corff Dementia GO, gyda’r hwyl yn codi egni ac yn paratoi pawb ar gyfer trafodaethau'r prynhawn. Cyflwynodd y siaradwr gwadd, Yr Athro John Keady, grynodeb o ymchwil eang ar gymunedau ym Manceinion.  Esboniodd Yr Athro Bob Woods y pwysigrwydd o gynnwys ymyrraeth ar lefel ‘ecopsychosocial’. Roedd cyfranogiad gan y celfyddydau, gweledol a barddoniaeth, yn rhan o’r diwrnod. Rhannodd Dr Gill Windle ymchwil Dementia a’r Dychymyg, ac adlewyrchodd yr artist Carol Hanson bwysigrwydd hiwmor yn ein bywydau drwy'r cymeriadau ‘Doris ac Ivor’. Rhannwyd y pwysigrwydd o daclo stigma drwy ddysgu plant gyda chipolwg o’r rhaglen ‘Hen Blant Bach’.

Cafodd y rhai oedd yn mynychu'r diwrnod gyfle i weld dau osodiad artistig. Cafodd Dychmygu Dyfodol Dementia-Gyfeillgar ei greu ar y cyd gan aelodau’r rhwydwaith a disgyblion Ysgol Brynrefail, Llanrug, Ysgol Trefnant, Dinbych, ac Ysgol Nannerch yn agos at Y Wyddgrug (gan artist Lisa Carter). Crëwyd y gosodiad ‘3 Muddle Street’ a chymeriadau ‘Doris ac Ivor’ gan Carol Hanson.

(Dychmygu Dyfodol Dementia-Gyfeillgar, gan Lisa Carter)

(Doris and Ivor, 3 Muddle Street, gan Carol Hanson)

Creu Cymuned Ymarfer sy'n Gefnogol o Ddementia

             

                                                          

                                       

        

Cliciwch yma i ddychwelyd at ein prosiectau byw gyda dementia.