Challenge Demcare- cwrs e-ddysgu a ddatblygwyd ar y cyd â DSDC Cymru
Am fanylion ar sut i gael mynediad i'r cwrs e-ddysgu hwn (yn rhad ac am ddim) cliciwch yma
Mae'r cwrs e-ddysgu hwn yn rhan o ‘Challenge Demcare’ rhaglen NIHR yr Adran Iechyd i 'Humber NHS Foundation Trust'. Mae'n addas ar gyfer amrywiaeth eang o staff sy'n gweithio ym maes gofal dementia, gan gynnwys cartrefi gofal.
Datblygwyd y cwrs gan dîm yn cynnwys Cyfarwyddwr DSDC Cymru, Bob Woods.
Y tîm llawn:
- O Hull: Yr Athro Esme Moniz-Cook - Seicolegydd Clinigol, Yr Athro Peter Campion – Meddyg Teulu, Dr Ivana Markova - Cyswllt/ Niwro-Seiciatrydd, Dr Andrea Hilton – Fferyllydd.
- O Fangor: Yr Athro Bob Woods a'r Athro Rob Jones - Seicolegwyr Clinigol.
- O BUPA: Yr Athro Graham Stokes - Seicolegydd Clinigol.
- O Newcastle: Yr Athro Ian James - Seicolegydd Clinigol.
Mae dementia'n gysylltiedig ag ymddygiad y mae teuluoedd a staff yn ei gael yn anodd ei ddeall ac ymdopi ag ef. Gellir disgrifio'r rhain fel 'ymddygiadau sy'n cyflwyno her'.
Gall y ffordd y mae eraill yn canfod a rheoli'r newidiadau mewn ymddygiad o ddydd i ddydd mewn dementia ddylanwadu ar yr unigolyn a'u teuluoedd, neu ansawdd byw'r staff gofal. Mae 'ymddygiadau sy'n cyflwyno her' yn aml yn fynegiant o ofid. Mae staff proffesiynol yn aml yn rheoli'r gofid hwn â chyffuriau, y gwyddom sydd â sgîl-effeithiau niweidiol iddynt, ac nad ydynt yn gweithio'n aml. Mae canllawiau'n awgrymu y dylid rhoi cynnig ar driniaethau seicolegol fel strategaeth yn gyntaf, ac y dylid defnyddio cyffuriau fel ategiad pan fo hynny'n briodol.
Bu i adolygiad Cochrane o ddadansoddiad gweithredol ar gyfer rheoli ymddygiad heriol mewn dementia, dynnu sylw at fwlch yn y wybodaeth am y dull gweithredu pwysig hwn o gefnogi pobl â dementia a'u gofalwyr.
Mae'r cwrs e-ddysgu hwn yn cynnig deunydd hyfforddi rhagorol wedi'i seilio ar dystiolaeth, ar gyfer staff a rheolwyr sy'n dymuno dysgu gwella'r gofal a ddarperir i bobl â dementia, y maent yn ei chael yn anodd eu deall a gofalu amdanynt.