Iechyd, lles a gwytnwch: Byw cystal â phosib

Mae ein gwaith o dan y thema hon yn archwilio sut y gallwn gynnal lles a gweithrediad cystal â phosibl wrth wynebu amgylchiadau heriol, megis cyflyrau iechyd cronig a dirywiol. Mae ein gwaith wedi bod ar flaen y gad o ran ymchwilio i wytnwch yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae deall a gwerthuso gwytnwch, a sut y gallwn feithrin gwytnwch wrth wynebu heriau iechyd mawr yn rhan ganolog o’n rhaglen ymchwil.


Enghraifft:
Gwnaethom ymchwilio i ddylanwad digwyddiadau mawr bywyd a phrofiadau dirdynnol ar draws cwrs bywyd, a sut roedd y rhain wedi helpu neu lesteirio datblygiad gwytnwch mewn pobl hŷn sy’n byw gyda phroblemau iechyd cyd-glefydol.

Gwnaeth ein hymchwil nodi grŵp o bobl sy'n ymddangos yn hynod o wydn yn yr ystyr nad ydynt yn nodi eu bod yn profi anawsterau iechyd meddwl er gwaethaf dementia neu nam gwybyddol. Mae'r unigolion hyn sydd â gwytnwch iechyd meddwl hefyd yn llai tebygol o brofi unigrwydd.

Mae ein hymchwil bresennol yn ymchwilio i sut, os o gwbl, y gallwn fod yn wydn pan fyddwn yn cael diagnosis o ddementia. Mae hefyd yn ymchwilio i sut y gallwn fesur ac asesu gwytnwch yn gywir gan nad oes unrhyw fesurau dilys yn bodoli ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia.

Mae ein hymchwil bresennol yn profi effeithiolrwydd 'iSupport' rhaglen addysg a hunanofal ar-lein a gynlluniwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd i leihau gofid a gwella sgiliau a gwybodaeth gofalwyr pobl sy'n byw gyda dementia.

 

Projectau ymchwil:

Hap-dreial rheoledig ac astudiaeth ddichonoldeb ar effeithiau ymyriad e-iechyd 'iSupport' i leihau gofid ymysg gofalwyr dementia, yn arbennig yn ystod pandemig parhaus COVID-19. Rhaglen NIHR-PHR (£1.48m). Dyddiad dechrau 1 Ionawr 2021 am 36 mis. Tîm: Gill Windle (ymchwilydd arweiniol); Cyd-ymchwilwyr: Rhiannon Tudor Edwards, Zoe Hoare, Paul Brocklehurst, Kat Algar-Skaife, Patricia Masterson Algar, Gwenllian Hughes (Bangor); Joshua Stott ac Aimee Spector (UCL); Kieren Eagan (Prifysgol Strathclyde). Partneriaid: Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, Alzheimer's Scotland, Vrije Universiteit Amsterdam; gyda chyfraniad gan Sefydliad Iechyd y Byd.

Canolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR). Gwobr seilwaith Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. (2.8m). 1 Ebrill 2020 am 5 mlynedd. Gill Windle yw arweinydd a Chyfarwyddwr Cysylltiol Bangor.

Effaith grwpiau cefnogi aml-elfen i’r rhai sy’n byw â mathau prin o ddementia. Menter Ymchwil Dementia ESRC-NIHR, £4,431,885.00. 1 Ionawr 2019 am 5 mlynedd. (Gill Windle, cyd-ymchwilydd gyda Seb Crutch (arweinydd), Rhiannon Tudor-Edwards, Zoe Hoare, Joshua Stott, Mary-Pat Sullivan, Paul Camic, Roberta MacKee Jackson). Am fwy o wybodaeth cliciwch yma

Gwerthusiad o Gymorth Seicogymdeithasol ar gyfer y cyfnod pontio at ymddeoliad (Gwerthusiad o TILL Cam 2). Canolfan Heneiddio'n Well, £92,402.67. 1 Rhagfyr 2017 - 31 Mai 2019. (GW Cyd-Ymchwilydd).

Cyd-greu fframwaith meithrin gwytnwch ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr. Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Efrydiaeth PhD mewn Gofal Cymdeithasol. £59,972. 1 Ionawr 2018. (Gill Windle, ymgeisydd arweiniol a goruchwyliwr; Siôn Williams, cyd-oruchwyliwr, Hannah Jelley, myfyriwr).

Beth yw effaith DementiaGo mewn cartrefi preswyl ar y preswylwyr, perthnasau a staff? 1 Medi 2018. Meistr trwy Ymchwil KESS, £15,000. (Gill Windle a Kat Algar-Skaife, goruchwylwyr; Lia H Roberts, myfyriwr).

Cynnal Gweithrediad a Lles: Astudiaeth Carfan Hydredol. Grant Mawr y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol/CCAUC, £3.2m. Gorffennaf 2010 - Mai 2016 (cyd-ymchwilydd).