Cymryd rhan yn ein hymchwil

 

Pwy sydd wedi cymryd rhan?

Cytunodd 352 o ofalwyr di-dâl sy’n byw yng Nghymru, Lloegr, neu’r Alban gymryd rhan.  I fod yn gymwys, roedd cyfranogwyr wedi bod yn helpu rhywun â dementia o leiaf unwaith yr wythnos am o leiaf 6 mis, ac nad oedd y person oeddent yn gofalu amdano yn byw mewn cyfleuster gofal amser llawn pan ymunwyd â'r astudiaeth.

Rydym hefyd wedi cyfweld â phobl ifanc (11-17 oed) a wnaeth helpu ni i ddatblygu “iSupport i Ofalwyr Ifanc”. Cafodd rhieni a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc hefyd eu cyfweld i ddysgu mwy am pam ei fod yn heriol cyrraedd pobl ifanc sy’n helpu i ofalu am rywun sy’n byw gyda dementia.

 

Beth fydd yn digwydd yn yr astudiaeth?

Gofynnodd ein hymchwilwyr i bob cyfranogwr gwblhau rhai holiaduron mewn cyfweliad rhyngrwyd (e.e. Zoom) neu dros y ffôn.  Mae’r cwestiynau’n gofyn am deimladau a’r rôl fel gofalwr, ymhlith pethau eraill. Wedi hynny, cafodd y cyfranogwyr ar hap naill ai iSupport neu lyfryn am fod yn ofalwr. Mae hyn er mwyn i ni allu cymharu sut mae pobl yn teimlo wrth dderbyn y naill neu'r llall o'r cynhyrchion hyn, ac a oes unrhyw fuddion. Gwahoddwyd y cyfranogwyr i ddau gyfweliad arall (3 mis a 6 mis ar ôl iddynt ymuno â'r astudiaeth gyntaf).

Gwahoddwyd hefyd nifer llai o bobl a gymerodd ran yn yr astudiaeth i gyfweliad manylach ag ymchwilydd arall, a gofynnwyd cwestiynau mwy agored am eu profiadau o ddefnyddio iSupport.

 

Pam ydyn ni’n gwneud yr ymchwil yma?


Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n byw gyda dementia’n derbyn gofal gartref, gyda chefnogaeth aelod o’r teulu neu ffrind sydd â gwybodaeth gyfyngedig o’r cyflwr. Mae’r gwaith yn gallu peri straen sylweddol, ac mae llawer o ofalwyr yn dioddef iechyd meddwl a chorfforol gwael, o’u cymharu â phobl nad ydynt yn ofalwyr dementia. Golyga COVID-19 fod llawer o bobl hŷn wedi gorfod hunanynysu, a bu hynny’n straen cynyddol i ofalwyr.

Gallai platfform digidol roi gwell cymorth i helpu gofalwyr gael mynediad at y gefnogaeth, y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt, yn enwedig a hwythau â mynediad cyfyngedig i fannau ffisegol lle mae cymorth i’w gael.

 

Sut gwnaiff yr ymchwil hwn helpu ofalwyr di-dâl?


Os gallwn ddangos bod iSupport yn helpu gofalwyr, gall y rhai sy’n darparu gwasanaethau dementia argymell iSupport fel offeryn cymorth effeithiol. Gallai cael gwasanaeth ar-lein effeithiol a hygyrch i ofalwyr fod o fudd i’r gofalwr a’r person sy’n byw gyda dementia. Gall gwella gofal yn y cartref ohirio derbyniadau cartref gofal, sy'n lleihau costau gofal a dwyn manteision ehangach i gymdeithas.

Yn yr un modd, os gwelwn nad yw iSupport yn ddefnyddiol, neu fod angen ei ddefnyddio gyda chyfuniad o ffynonellau cymorth a gwybodaeth eraill, yna gallwn argymell addasu’r platfform fel ei fod yn fwy defnyddiol i’r rhai sydd ei angen fwyaf.

 

Sut mae’r astudiaeth wedi ei hariannu a’i threfnu?

Noddir yr astudiaeth gan Brifysgol Bangor, sydd hefyd yn ganolfan gydlynu. Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, Coleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Ystrad Clud ac Alzheimer Scotland yw partneriaid y project.

Mae ein hastudiaeth wedi derbyn cymeradwyaeth foesegol gan Brifysgol Bangor (AEC 2021-16915) ac mae wedi’i chofrestru ar gronfa ddata astudio o’r enw cofrestrfa ISRCTN (ISRCTN17420703).

Ariennir y project hwn gan raglen Ymchwil Iechyd Cyhoeddus y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) (cyfeirnod y project NIHR130914). Barn yr awduron yw'r safbwyntiau a fynegir ac nid barn yr NIHR na'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol o reidrwydd.