Caban: Pobl sy'n byw gyda dementia a gofalwyr yn gwneud gwahaniaeth

Mae pobl sy'n byw gyda dementia a'u perthnasau sy’n gofalu amdanynt wedi bod yn cyfarfod â myfyrwyr ac ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor fel y “grŵp Caban” ers 2017.

Rhai o Aelodau Grŵp Caban

Mae grŵp Caban yn gweithio'n agos gyda'r staff academaidd a'r myfyrwyr yn Ysgol y Gwyddorau Iechyd, i helpu myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ac ymchwilwyr i ddeall beth sy'n bwysig i bobl sy'n byw gyda dementia, a'r ffordd orau i'w cefnogi.

Mae'r aelodau hefyd wedi addysgu staff iechyd a gofal cymdeithasol y presennol a’r dyfodol trwy sesiynau ymwybyddiaeth, ymgynghoriadau a chyflwyniadau mewn grwpiau bach, digwyddiadau hyfforddi a chynadleddau. Mae nhw hefyd wedi perfformio archwiliadau dementia ar gyfer lleoedd cyhoeddus fel yr Amgueddfa Llechi Genedlaethol, gan rannu eu profiadau o le i arwain at welliannau.

Rhai o'n haelodau yn perfformio archwiliad dementia yn yr Amgueddfa Llechi Genedlaethol Rhai o'n haelodau yn perfformio archwiliad dementia yn yr Amgueddfa Llechi Genedlaethol

Cliciwch YMA i weld rhai fideos gan grŵp Caban, gan gynnwys eu ‘awgrymiadau da’ ar gyfer unrhyw un sydd newydd gael diagnosis o ddementia, a gwerth cymorth gan gymheiriaid.

 

Mae ein haelodau’n dweud:


“Mae Prifysgol Bangor wedi bod yn achubiaeth i mi. Mae gwneud sesiynau hyfforddi i fyfyrwyr yn gwneud i mi deimlo fy mod yn gwneud gwahaniaeth. Mae teimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi a’ch bod yn cyfrannu mor
bwysig i iechyd meddwl a lles rhywun”.

                

“Er fy mod braidd yn amheus i ddechrau, mi wnes i fwynhau cymryd rhan mewn ymchwil ac mae'n rhywbeth rydw i’n medru ei wneud. Roeddwn i'n teimlo’n ddefnyddiol ac yn teimlo fy mod yn cyfrannu at gymdeithas eto”.

 

Beth allwn ei wneud?

  • Ymuno â sgyrsiau gyda myfyrwyr neu ymchwilwyr.
  • Helpu creu adnoddau i bobl eraill gyda dementia.
  • Gall y sesiynau fod ym Mangor neu ar-lein.
  • Chi fydd yn dewis faint rydych eisiau gyfrannu ac ym mha ffordd.
  • Rydym yn talu costau

 

Mae diagnosis a phrofiad pawb o fyw gyda dementia yn wahanol. Hoffai ein myfyrwyr a’n hymchwilwyr ddysgu o'ch profiadau er mwyn deall yn well sut i'ch cefnogi i allu byw cystal â phosib gyda dementia.

Cysylltwch â Catrin Hedd Jones am sgwrs anffurfiol: