Prifysgol Bangor yn gweithio tuag at dod yn Brifysgol 'Cyfeillgar tuag Dementia'

 

O amgylch y byd, mae llawer o sefydliadau wrthi'n gweithio i ddatblygu cymunedau sy'n gyfeillgar i ddementia. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bawb rannu'r cyfrifoldeb am sicrhau bod pobl â dementia yn teimlo eu bod yn cael eu deall, eu gwerthfawrogi a'u gallu i gyfrannu at eu cymuned.

Gan adeiladu ar hanes sefydledig rhagoriaeth ymchwil ym Mangor, ym mis Tachwedd 2018 sefydlwyd Grŵp Llywio i drafod sut y byddai Prifysgol Bangor yn gweithio tuag at ddod yn brifysgol sy'n gyfeillgar i ddementia.

Dywedodd y Dirprwy Is-Ganghellor, yr Athro Jerry, sydd yn gefnogol o’r syniad, “mae’r datblygiad hwn yn hynod bwysig ac un sy’n cyd-fynd ag ethos a gweledigaeth Prifysgol Bangor. O gofio hanes y gwaith da ym maes gofal dementia sydd wedi digwydd yn y Brifysgol dros y blynyddoedd, ac o gofio holl waith Pontio ym maes dementia a’r celfyddydau, dyma gam naturiol i Fangor ac un i’w groesawu’n fawr.

Nid yw troi’r Brifysgol yn brifysgol sy’n gyfeillgar tuag at Ddementia am ddigwydd dros nos, ond mae yna rai prosiectau gwych sydd eisoes ar y gweill ledled y Brifysgol.

  • Mae ‘Pontio’, y ganolfan celfyddydau ac arloesi, wedi bod yn weithgar yn codi ymwybyddiaeth am ddementia trwy berfformiadau a phrosiectau cymunedol fel ‘Voices’, lle ymwelodd plant ysgol uwchradd â thrigolion mewn cartref gofal lleol. Cafodd y sgyrsiau wythnosol eu recordio a'u perfformio fel drama. Mae staff blaen tŷ ym Mhontio wedi mynychu sesiynau ymwybyddiaeth Ffrindiau Dementia i sicrhau eu bod yn barod i groesawu'r rhai sy'n byw gyda dementia i'r ganolfan. Maent hefyd yn darparu sedd am ddim i ofalwyr neu aelodau o'r teulu sy'n mynd gyda pherson sy'n byw gyda dementia i ffilmiau neu sioeau.
  • Mae Canolfan Ymchwil CDGD Cymru wedi cyflwyno sesiynau ymwybyddiaeth ffrindiau dementia i 398 o bobl (at 20/11/2019). Am rhagor o wybodaeth am sesiynau, cysylltwch â Catrin Hedd Jones (c.h.jones@bangor.ac.uk).

 

Grŵp Llywio Prifysgol Bangor sy'n Gyfeillgar i Ddementia

Aelod  
James Ibell Arbenigwr trwy Brofiad
Glenda Roberts Arbenigwr trwy Brofiad
Ifor Roberts Arbenigwr trwy Brofiad
Gill Windle Athro Ymchwil Heneiddio a Dementia

Catrin Hedd Jones

Cadeirydd / 2018-2020

Darlithydd

Jennifer Roberts

Is-Ysgrifennydd 2019-2020

Swyddog Ymchwil

Camau a ddewiswyd ar gyfer 2021 - 2022

Helpu pobl cael ei gerddi’n daclus
Codi ymwybyddiaeth o Ddementia ymhlith y gymuned Tsieineaidd
Pwyslais ar ddysgu sgiliau i bobl, e.e. cyfarfodydd rhithwir ac ati
Gofalwyr yn y gymuned (gan gynnwys Gofalwyr Ifanc)
Iechyd ac Addysg (cysylltu gyda Myfyrwyr Meddygol yn gynnar)

 

Amodau Gorchwyl

Gellwch weld yr amodau gorchwyl yma: Amodau Gorchwyl

 

Cynnwys y Myfyrwyr

Cynlluniau gwirfoddoli dan ofal Undeb y Myfyrwyr: Cynnwys y Myfyrwyr_Student Involvement

 

Cofnodion Cyfarfodydd y Grŵp Llywio

 

Galeri

 

Manylion cyswllt

Os oes gennych ddiddordeb yn ein gwaith - ymunwch â'r Facebook Group

Dilyn ni ar Twitter

Neu e-bost / ffônio / ysgrifennu at Catrin Hedd Jones (Cadeirydd) : c.h.jones@bangor.ac.uk / 01248 388872

 

Archif

Camau a ddewiswyd ar gyfer 2019 - 2020