Cynhyrchion a grëwyd o’n hymchwil i chi

ADNODDAU SY’N SEILIEDIG AR DYSTIOLAETH AR GYFER POBL SY’N BYW GYDA DEMENTIA A’U GOFALWYR

Mae peth o’n hymchwil wedi arwain at gynhyrchion a allai fod yn ddefnyddiol i chi. Am nifer o flynyddoedd mae Canolfan Ymchwil CDGD Cymru ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn ymwneud â datblygu a gwerthuso ffyrdd y gellir cefnogi a chynnal lles ac ansawdd bywyd pobl sy’n byw gyda dementia.

Wedi’i ysbrydoli gan ein hymchwiliadau cyfredol sy’n archwilio gwytnwch, mae ein grŵp Caban ynghyd ag aelodau eraill o DEEP yng Nghymru, wedi cynhyrchu’r llyfrynnau yma ar eich cyfer chi: 

 

Mae fersiynau papur o’r llyfryn hefyd ar gael.

 

 

Os ydych eisiau bod yn rhan o’r gwaith yma mae aelodau grŵp Caban yn croesawu aelodau newydd sydd am rannu eu profiadau i wella dealltwriaeth a chefnogaeth yn y maes dementia.  I ddarganfod mwy, dilynwch y ddolen hon i ymweld â'u tudalen we: https://dsdc.bangor.ac.uk/caban-group.php.cy

 


Dod yn Fusnes a Chymuned sy’n Cefnogi Pobl â Dementia: Canllaw Ymarferol

Pa mor hygyrch yw eich busnes a’ch cymuned i rywun â dementia? Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddeall dementia a’r heriau y mae pobl yn eu hwynebu. Mae’n cynnwys awgrymiadau ymarferol a gwybodaeth ddefnyddiol i’ch galluogi i gefnogi pobl y mae dementia yn effeithio arnynt:

 

 

Fersiwn PDF

Cafodd y canllaw hwn ei greu ar y cyd ag arbenigwyr trwy brofiad sy’n byw gyda diagnosis o ddementia yn gweithio gydag academyddion mewn ymchwil dementia ym Mhrifysgol Bangor.

 


Dau ddull y cydnabyddir eu bod yn arbennig o ddefnyddiol yw Ysgogiad gwybyddol a Gwaith Hanes Bywyd.

Nod ysgogiad gwybyddol yw ymgysylltu ac ysgogi meddwl yr unigolyn â dementia trwy weithgareddau difyr, pleserus a hwyliog. Er iddo gael ei ddatblygu’n wreiddiol fel dull grŵp i’w ddefnyddio mewn canolfannau dydd a chartrefi gofal, mae ein hymchwil wedi dangos y gall gofalwyr teulu hefyd ei ddefnyddio’n effeithiol.

Rydym wedi datblygu llawlyfr i’w ddefnyddio gan ofalwyr teulu gyda llawer o syniadau ar gyfer gweithgareddau sydd wedi’u treialu.

Gellir prynu fersiwn Saesneg y llawlyfr gan: https://hawkerpublications.co.uk/product/making-a-difference-3 – gellwch archebu fersiwn argraffedig o’r llawlyfr i’w bostio atoch am £29.50 neu gellir ei lawrlwytho am £19.95.

Mae pawb yn wahanol, wrth gwrs, ac ni fydd yr holl weithgareddau a awgrymir o ddiddordeb nac yn briodol i bawb. Argymhellir dull ‘dewis a chymysgu’. Y peth pwysig yw dilyn egwyddorion allweddol y dull, a ddisgrifir yn fanylach yn y llawlyfr:

Egwyddorion allweddol Ysgogi Gwybyddol Unigol (iCST)

  1. Dewis gweithgareddau sy’n ysgogol yn feddyliol
  2. Annog datblygu syniadau, meddyliau a chysylltiadau newydd
  3. Defnyddio cyfeiriadedd mewn modd sensitif
  4. Canolbwyntio ar farn, yn hytrach na ffeithiau
  5. Defnyddio atgofion fel cymorth i drafod y funud hon
  6. Darparu sbardunau i gefnogi’r cof
  7. Ysgogi iaith a chyfathrebu
  8. Ysgogi’r gallu i gynllunio bob dydd
  9. Defnyddio dull parchus, unigol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  10. Cynnig dewis o weithgareddau
  11. Pwysleisio mwynhad a hwyl
  12. Gwneud y mwyaf o’r potensial
  13. Cryfhau perthynas trwy dreulio amser o ansawdd gyda’ch gilydd

Dyma rai awgrymiadau i ofalwyr wrth gynnig iCST sydd wedi bod yn ddefnyddiol i ni:

  • Dewiswch amser yn y dydd i gymryd rhan yn y gweithgareddau sy’n ‘teimlo’n iawn’
  • Dylai’r sesiynau ganolbwyntio ar farn yn hytrach na ffeithiau
  • Dylid osgoi cywiro a phwysleisio gwallau yn ystod y sesiynau
  • Peidiwch â gofyn cwestiynau sy’n uniongyrchol fel “Ydych chi’n cofio...?”
  • Addaswch y sesiynau er mwyn cynnwys diddordebau eich perthynas/ffrind
  • Peidiwch â gofyn cwestiynau sy’n cynnwys cof penodol, fel “Ble aethoch chi ar wyliau y llynedd...?”
  • Canolbwyntiwch ar gryfderau’r unigolyn
  • Cynigwch weithgaredd arall os nad yw’r gweithgaredd cyntaf yn gweithio

Yn anad dim, gall y gweithgareddau fod yn llawer o hwyl ac yn bleserus! Mae’n wych gallu ymlacio a chwerthin ochr yn ochr â’r person rydych chi’n gofalu amdano, gweld ochr ddoniol sefyllfa gyda’ch gilydd, gweld y tu hwnt i’r dementia a mwynhau amser o ansawdd go iawn gyda’ch gilydd.

 


Mae gwaith hanes bywyd yn ddull arall y mae ein hymchwil yn awgrymu y gall fod o gymorth mawr. Yma, mae’r person â dementia yn datblygu ‘llyfr hanes bywyd’ gyda chymorth teulu, ac yna gall hwn fod yn adnodd gwych ar gyfer atgofion a sgwrs. Y dyddiau hyn, mae’r ‘llyfr’ fel rheol yn ddigidol, gyda mynediad iddo ar lechen, ffôn clyfar neu gyfrifiadur, sy’n ei gwneud yn bosib cynnwys cerddoriaeth, ffotograffau a thestun. Mae nifer o lwyfannau hanesion bywyd ar gael – yn y DSDC rydym wedi gweithio gyda ‘Book of You’ sydd â rhai adnoddau digidol rhagorol, ac rydym yn cynnig helpu teuluoedd i gadw mewn cysylltiad â’u hanwyliaid ar yr adeg hon (yn rhad ac am ddim):

https://www.bookofyou.co.uk/

https://www.bookofyou.co.uk/book-coronavirus-message-support/

 


Gweithgareddau Creadigol

I’r rhai ohonoch sy’n ffansi gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol, beth am roi cynnig ar rywbeth creadigol? Nid oes angen profiad artistig! Dim ond cael ychydig o hwyl.

Datblygwyd y llyfryn hwn o’n hastudiaeth ymchwil Dementia a’r Dychymyg. Er iddo gael ei ddatblygu ar gyfer darparwyr celfyddydau a gofal, mae ganddo syniadau ac awgrymiadau defnyddiol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn rhoi cynnig ar rai gweithgareddau.


Mae’r llyfryn hwn yn rhannu profiadau ar ‘sut beth yw bod yn oedolyn ifanc mewn teulu y mae salwch niwrolegol yn effeithio arno?’:

 


 

10 Arwydd Dementia

Yn dilyn nawdd gan aelodau Merched y Wawr yn 2017 cafwyd caniatâd gan y Gymdeithas Alzheimer's Rhyngwladol i gyfieithu eu poster '10 warning signs of dementia', https://www.alz.co.uk/info/early-symptoms

Poster 10 Arwydd DementiaDosbarthwyd y poster i aelodau'r mudiad drwy eu cylchgrawn Y Wawr a chanolfannau cymunedol ar draws Cymru yn  2018.

 


Byw efo dementia - sgwrs awr yn Gymraeg

Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi ariannu'r gyfres podlediad Am Iechyd.

Mae'r podlediad am ddementia yn cael ei hwyluso gan Dr Catrin Hedd Jones o Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor, ac yn cynnwys tair yn rhannu profiadau o fywyd tu hwnt i ddiagnosis o ddementia. Cewch ddysgu am wahanol symptomau a phwysigrwydd parhau i fwynhau gweithgareddau wrth ddilyn y linc i'r sgwrs: https://linktr.ee/amiechyd

Mae Glenda Roberts yn trafod sut gall symptomau fod tu hwnt i drafferth gofio digwyddiadau, a'r pwysigrwydd o addysgu myfyrwyr am ddementia. Yna mae Rhian Green yn egluro sut mae'r teulu cyfan yn gweithio efo gofalwyr proffesiynol i sicrhau hapusrwydd ei mam, ac Emma Quaeck yn disgrifio'r ddarpariaeth o fewn Cyngor lleol ar gyfer darparu gweithgareddau iach a chymdeithasol. Ein gobaith yw bod y sgwrs yn annog mwy o drafodaeth agored yn Gymraeg am ddementia fel bod pawb yn derbyn mynediad i'r gefnogaeth gall wella ansawdd bywydau yr unigolion sydd yn bwy efo dementia a'u  teuluoedd. Os ydych yn teimlo fod y sgwrs yn fuddiol, rhannwch y linc drwy eich cyfryngau cymdeithasol - diolch.

 


Dementia a heriau i’r synhwyrau - Gall dementia effeithio mwy na'r cof:

 


Adolygiad o ddylanwad iaith a diwilliant ar lesiant pobl sydd yn byw mewn cartrefi gofal

"Mi wnes i ymafael a'r gwaith yma ar ol cael cynnig y cyfle i gwblhau gwaith ymchwil fel rhan o gwrs olraddedig ar y cyd gyda'm hyfforddiant fel meddyg Gofal yr Henoed ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cefais yr ysbrydoliaeth i wneud gwaith ansoddol ar ol gwylio y ffilm fer, 'Can i Emrys', sy'n dangos pwysigrwydd cerddoriaeth traddodiadol Cymraeg i unigolyn gyda dementia.

Mae fy niddordeb mewn iaith a diwylliant yn bwydo mewn i'r pwnc trafod yma, sef darparieth gofal i rheiny mewn cartrefi preswyl ledled y byd, sydd yn cael eu gofal drwy gyfrwng eu hail, neu hyd yn oed trydydd, diwylliant a iaith. Mae'n cyd-fynd gyda fy ngwaith clinigol gan fy mod yn gweld, ar achlysur dyddiol, sut mae cael trafod eu gofal meddygol yn Gymraeg yn lleddfu pryderon cleifion Cymreig yn Ysbytai Gwynedd ac Eryri.

Mae cwblhau'r ymchwil wedi bod yn feunydd aruthrol i mi yn fy mywyd dydd i ddydd fel meddyg, canys fy mod wedi dysgu i edrych ar y cleifion o ongl ansoddol, gan ystyried y canfyddiadau mae cymaint o ymchwilwyr wedi gweithio mor galed dros, i allu gwella lles cyffredinol yr unigolyn, ac nid yn unig eu lles meddygol." Dr Conor Martin.

Gwyliwch y rhaglen ddogfen fer 3 munud am bŵer cerddoriaeth gan ddefnyddio'r ddolen hon: Can i Emrys

 

Darganfyddwch fwy am bwysigrwydd iaith gan Dr Catrin Hedd Jones yn y canllaw diweddaraf gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr (t 55-56):



Cân y Gân

Pam fod adnodd fel Cân y Gân yn bwysig?

Gyda cherddoriaeth yn rym mor gryf yn ein bywydau, mae gan bob un ohonom gân sydd yn codi gwên. Gallai gerddoriaeth leihau symptomau o iselder ac apathi mewn pobl â dementia gan gyfrannu at well ansawdd bywyd (van der Steen et al, 2018). Gyda cherddoriaeth mor agos at galon ein hunaniaeth, synhwyrwyd fod bwlch yn y ddarpariaeth o gerddoriaeth Gymraeg a Chymreig i’r rhai  sydd yn byw â dementia yng Nghymru. Albwm o berlau cerddorol Cymraeg i’w rannu â theulu, ffrindiau neu breswylwyr mewn gofal ydi Cân y Gân, gyda’r diben o gynnig cyfle i ail fwynhau caneuon eu hieuenctid.

Pam dewis y teitl ‘Cân y Gân’?

Cân a gyfansoddwyd gan Sbardun ydi ‘Cân yn Gân’ a pherfformiwyd yn gyson gan Linda Griffiths. Ysbrydolwyd y gân yn dilyn ymweliad Sbardun i gartref gofal gan brofi ei hun yr effaith a gafodd cerddoriaeth ar y preswylwyr. Ymddangosodd y gân yn wreiddiol ar yr albwm ‘Llais - 6 llais unigryw o Gymru’, gan iddo nodi ar gefn y gryno ddisg: ‘Dangosodd rhaglen deledu pŵer chwarae cân o’u hieuenctid ar fywyd cleifion a’r effaith gâi hynny arnynt’. Yn sicr gellir synhwyro hyn yn ngeiriau’r gân, gan ganiatáu i ni gyd uniaethu â’r ffaith fod ‘y gân sydd yn ei galon’ hefyd yn ein ‘calonnau ni bob un.’

Cyfraniad trigolion sydd yn byw gyda dementia.

Dyluniwyd y clawr gan Phil Townson, cerddor dawnus sydd yn byw â dementia, tra roedd yn rhan o’r ymchwil Dementia a’r Dychymyg. Mae’r dyluniad ei hun yn plethu’n sensitif â themâu prosiect, gyda cherddoriaeth yn elfen amlwg a naturiol ohoni. Rydym hefyd wedi derbyn adborth gan aelodau grŵp y Gymdeithas Alzheimer’s sydd yn cynnwys siaradwyr Cymraeg.
Dyma rhai o’u sylwadau am y cynllun:

“Dwi’n meddwl ei fod yn bwysig fod pobl yn cael gwrando ar y math o gerddoriaeth maent yn hoffi. Nid oes llawer o amrywiaeth o gerddoriaeth yn lle dwi’n byw ac mae’n gallu bod yn anodd gwrando ar yr un peth bob tro.”

“Bysai cerddoriaeth o fy 20au yn gwneud i mi gofio amseroedd da yn fy mywyd; cerddoriaeth Dafydd Iwan.”

“Dwi’n meddwl ei fod yn bwysig fod pob staff yn y cartrefi gofal yn cael gwybod am y CD yma pan maent yn cael eu dosbarthu allan; y staff, Rheolwyr ac yn enwedig staff sydd efallai ddim yn siarad Cymraeg.”

Noddwyr a Chyfranogwyr

Mae ffrwyth llafur Cân y Gân yn ddiolch i’n noddwyr a’n cyfranogwyr. Mae diolch arbennig yn mynd i Ferched y Wawr, am eu nodd a chefnogaeth ddi-ffael,  Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR), Dydd Miwsig Cymru, a Sain am eu cymorth diflino.

Diolch hefyd i Alister O’Mahoney, myfyriwr Cerddoriaeth fu ar gynllun interniaeth er mwyn casglu enwediadau a gwireddu y casgliad Cân y Gân. Ond, heb os ein cyfranogwyr sydd wedi sicrhau’r llwyddiant mwyaf. Diolch i bobl Cymru am rannu hoff ganeuon eu hieuenctid. Hebddyn nhw fyddai’r adnodd hwn o ddim yn bosib.

Newyddion

Lansiwyd camau cychwynnol Cân y Gân yn nghwmni trigolion Cartref Gofal Hafan y Waun, Aberystwyth (Chwefror 2019) gyda cryn sylw yn y newyddion. Yn sicr, fe welwyd effaith roedd cerddoriaeth Cymreig yn ei gael ar drigolion y Cartref gan amlygu’r angen ar gyfer y fath adnodd.

Ychydig ddyddiau wedi’r lansiad agorwyd y safle enwebu ar lein. Gyda rowndiau cynderfynol Côr Cymru yn Aberystwyth cynhigiodd hyn y cyfle perffaith i gasglu bron i 600 o enwebiadau gan Gymry Cymraeg â chariad tuag at gerddoriaeth Gymraeg.

Dosbarthwyd y CD i ofalwyr a chartrefi gofal ledled Cymru mewn partneriaeth â Merched y Wawr. Gallwch hefyd gael mynediad at y caneuon a'r geiriau o'r ddolen hon:

Lawrlwythwch Geiriau'r Caneuon Lawrlwythwch y Caneuon

Cafodd y CD ei lansio gan Eluned Morgan AS Gwenidog y Llywodraeth dros y Iaith Gymraeg, ac yna digwyddiad cyhoeddus ar stondin Prifysgol Bangor yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol, Llanrwst.

Adnoddau Ychwanegol

Os hoffech fynd ati i greu ‘playlist’ sy’n bersonol i unigolion sydd yn byw â dementia gellir gwneud drwy ddilyn y ddolen isod.

Playlist for Life www.playlistforlife.org.uk

Facebook https://www.facebook.com/groups/308509843135214/
Trydar https://twitter.com/canygan

Dilynwch y ddolen hon i'r erthygl newyddion.

Os hoffech fwy o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu â Dr Catrin Hedd Jones (c.h.jones@bangor.ac.uk/ 01248 388872).

 


Cyd-greu seibiannau byr ystyrlon i ofalwyr di-dâl a phobl sy’n byw gyda dementia