Astudiaeth iSupport i Ofalwyr Dementia

Byddwn yn ymchwilio i fanteision posibl ‘iSupport’, rhaglen ddysgu a chymorth ar-lein i ofalwyr dementia.

Bydd astudiaeth iSupport i Ofalwyr Dementia yn ymchwilio i weld a yw gwefan addysg a hunanofal ar-lein o’r enw ‘iSupport’ yn well am eich helpu i ofalu amdanoch eich hun a dysgu am ddementia o’i gymharu â llyfryn a ddyluniwyd ar gyfer gofalwyr dementia.

Rydym wedi cael ein cefnogi gan 352 o ofalwyr di-dâl sy’n byw yng Nghymru, Lloegr, neu’r Alban. Disgwyliwn ddarfod yr holl gyfweliadau erbyn mis Hydref 2023, a byddwn yn dechrau dadansoddi'r data ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Darganfod mwy am yr astudiaeth iSupport

 

Rydym hefyd wedi addasu iSupport yn ddiwylliannol i'w wneud yn berthnasol i bobl ifanc ddysgu am ddementia a sut y gallent helpu i gefnogi rhywun sy'n byw gyda dementia.  Mae hyn y bwysig oherwydd anaml iawn mae gofalwyr ifanc yn derbyn hyfforddiant addas neu cymorth i’w helpu.  Mae iSupport hefyd wedi'i addasu i'w wneud yn fwy perthnasol i ofalwyr pobl sy'n byw gyda mathau prinnach o ddementia, megis dementia cynnar, a all fod ag ystyriaethau eraill i ofalwyr na fanylwyd arnynt yn y rhaglen wreiddiol.

Yn y misoedd nesaf, byddwn yn diweddaru'r wefan hon gyda fersiynau rhad ac am ddim o'r rhaglen iSupport, yn ogystal â chyhoeddiadau a chrynodebau i helpu i ddeall ein gwaith.

Mae ein cydweithwyr hefyd yn gweithio ar brosiectau cysylltiedig: Mae cydweithwyr yn UCL wedi addasu iSupport yn ddiwylliannol i 3 iaith De Asia ac yn profi dichonoldeb fersiwn Bengali o iSupport.  Mae hyn yn ymateb i'r angen hollbwysig i ymgysylltu â chymunedau lleiafrifoedd ethnig i ddatblygu ymyriadau diwylliannol sensitif a gwneud adnoddau presennol yn hygyrch.  Ym Mhrifysgol Strathclyde, mae ap symudol gweithgaredd corfforol yn cael ei brofi i weld a ellid ei ddefnyddio i helpu gofalwyr di-dâl i wneud ymarfer corff.  Mae hwn yn faes sydd heb ei ddatblygu’n ddigonol yn y gwyddoniaeth presennol, er yr aml mae gan ofalwyr di-dâl iechyd corfforol a meddyliol gwaeth na phobl sydd ddim yn ofalwyr.