Codi Arian a Rhoddion

 

Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia (CDGD) Cymru:

Canolfan Ymchwil   

Pwy ydyn ni?

Mae Canolfan Ymchwil CDGD Cymru yn rhan o'r Ysgol Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor.

Ein nod yw gwella ansawdd bywyd a lles pobl hŷn a phobl â dementia a'u cefnogwyr, trwy gynnal a chymhwyso ymchwil berthnasol.

Rydym yn adnabyddus yn rhyngwladol am:

  • Ein hymchwil o ansawdd uchel mewn meysydd yn cynnwys gwytnwch, allgáu cymdeithasol, heneiddio'n dda, lles gofalwyr, a gweithio rhwng cenedlaethau.
  • Datblygu a gwerthuso ymyriadau seicogymdeithasol creadigol ar gyfer pobl â dementia a gofalwyr.
  • Ein cyfraniad at ddatblygu a gweithredu polisi.
  • Cyflwyno hyfforddiant ar sail tystiolaeth a chyngor i bawb sy'n ceisio gwella ansawdd bywyd, gofal a chefnogaeth i bobl â dementia a'r rhai sy'n gofalu amdanynt.
  • Creu a chefnogi Rhwydweithiau Dementia yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru.

Ein cyrhaeddiad:

Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phawb sy'n ymdrechu i wella ansawdd gwasanaethau i bobl â dementia a'u cefnogwyr yng Nghymru.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd:

  • Yr iaith Gymraeg,
  • Treftadaeth ddiwylliannol Cymru,
  • Cydbwysedd ardaloedd trefol a gwledig,
  • Y gwahaniaethau mewn systemau iechyd a gofal cymdeithasol ledled y DU,

sydd yn gwneud Cymru yn lle unigryw i fyw, gweithio a thyfu'n hŷn.

Credwn ei bod yn bwysig cael Canolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia yng Ngogledd Cymru i sicrhau bod gwerthoedd y rhai sy'n byw yng Nghymru yn cael eu cydnabod a'u cynrychioli mewn ymchwil, polisi ac ymarfer heneiddio a dementia.

Yn greiddiol iddo, nod ein gwaith yw cefnogi'r rhai sy'n rhan o'n cymunedau lleol, a chymdeithas ehangach Cymru.

Er bod cymunedau lleol wrth wraidd yr hyn a wnawn, mae ein gwaith o safon a gydnabyddir yn rhyngwladol ac yn cyfrannu at gorff ehangach o ymchwil a gwybodaeth sy'n anelu at wella bywydau cymaint â phosibl, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Sut ydyn ni'n defnyddio rhoddion:

Derbynnir yn ddiolchgar unrhyw roddion tuag at Ganolfan Ymchwil CDGD Cymru.

Isod mae rhai enghreifftiau o sut y gallwn ddefnyddio rhoddion i rannu gwybodaeth, datblygu sgiliau, hybu ymchwil, a chefnogi gofal yn yr ardal leol:

  • Bwrsariaethau teithio i bobl â dementia a gofalwyr i ddod i'n digwyddiadau.
  • Cefnogi cyfranogiad y cyhoedd mewn datblygu ymchwil.
  • Cynnal seminarau cyhoeddus.
  • Cyflwyno gweithdai datblygiad proffesiynol.
  • Cyflwyno digwyddiadau hyfforddi.
  • Datblygu deunydd adnoddau gyda'r nod o wella gofal pobl â dementia.
  • Cefnogi gweithgareddau a mentrau'r Rhwydweithiau Dementia rhanbarthol.
  • Ariannu interniaethau myfyrwyr haf.
  • Ariannu efrydiaethau ymchwil.

Sut i gyfrannu:

Os ydych chi'n ystyried rhoi rhodd i Ganolfan Ymchwil CDGD Cymru , neu gynnal digwyddiad codi arian, cysylltwch â ni i drafod unrhyw ofynion sydd gennych chi.

Gellir rhoi rhoddion drwy siec, yn daladwy i ‘Prifysgol Bangor’. Bydd yr arian yn cael ei ddyrannu'n benodol i Ganolfan Ymchwil CDGD Cymru.

Anfonwch unrhyw sieciau rhodd at:

Ysgrifennydd Prosiectau CDGD,

CDGD Cymru, Prifysgol Bangor,

Ardudwy, Safle’r Normal,

Bangor, Gwynedd,

LL57 2PZ, DU

Ffôn: 01248 383050

Ebost: dsdc@bangor.ac.uk

 

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am Ganolfan Ymchwil CDGD Cymru a'n prosiectau cyfredol, edrychwch ar ein gwefan:

http://dsdc.bangor.ac.uk/index.php.cy

 

Cydnabyddir Prifysgol Bangor fel elusen (Elusen Gofrestredig Rhif 1141565).

 

Mae'r gwybodaeth yma hefyd ar gael fel fersiwn pdf:  Cymraeg /  Saesneg