Ymchwil Heneiddio a Dementia
ym Mhrifysgol Bangor
Canolfan Ymchwil CDGD Cymru
Mae gennym enw da yn rhyngwladol am ymchwil heneiddio a dementia rhyngddisgyblaethol. Mae ein gwaith wedi'i leoli o fewn y duedd fyd-eang ar gyfer hirhoedledd ac uchelgeisiau polisi rhyngwladol ar gyfer heneiddio'n iach, gan fynd i'r afael â heriau cymdeithasol mawr sy'n ymwneud â byw cystal â phosibl gyda chyflyrau iechyd cronig a dirywiol, gan arbenigo mewn ymchwil dementia.
Rydym yn gweithio'n agos gyda phobl hŷn, pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr, ynghyd â gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau y bydd ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth, yn gwella ansawdd gofal ac yn llywio datblygiad polisi ac ymarfer.
Rydym yn cydweithredu â chydweithwyr yn Ewrop trwy ein haelodaeth o INTERDEM, rhwydwaith ymchwil Ewropeaidd.
O 1 Ebrill 2020, sicrhaodd Canolfan Ymchwil CDGD Cymru £938,000 gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i arwain cyfraniad Prifysgol Bangor i Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia Cymru (CADR), sef cydweithrediad gwerth £2.8m dan arweiniad Prifysgol Abertawe, ac yn rhan o’r seilwaith ymchwil ehangach yng Nghymru. Dros y 5 mlynedd, cefnogodd y cyllid ymchwilwyr i weithio ar y cyd â chydweithwyr, gan gynnwys pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr, i ganolbwyntio ar ddatblygu syniadau newydd, ysgrifennu cynigion ymchwil, cyhoeddi ymchwil a rhannu gwybodaeth.
Roedd Tîm Bangor a gefnogwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cynnwys:
- Yr Athro Gill Windle, Cyfarwyddwr CDGD Cymru, Ysgol Gwyddorau Iechyd (Cyfarwyddwr Cyswllt CADR)
- Dr Diane Seddon, Darllenydd mewn Gofal Cymdeithasol, Ysgol Gwyddorau Iechyd
- Dr Jennifer Roberts, Swyddog Ymchwil, Canolfan Ymchwil CDGD Cymru, Ysgol Gwyddorau Iechyd
- Dr Patricia Masterson Algar, Swyddog Ymchwil, Canolfan Ymchwil CDGD Cymru, Ysgol Gwyddorau Iechyd
Gellir categoreiddio'r prosiectau sy'n cael eu harwain gan ein tîm ymchwil amlddisgyblaethol a'r rhai yr ydym yn cyfrannu atynt o dan dair thema ganolog: