Project Meistr KESS II: Ansawdd bywyd pobl â dementia difrifol: Astudiaeth beilot

 

Mae’r dyddiad cau wedi mynd heibio, a’r swydd wedi cael ei llenwi.


Project Meistr KESS II: Ansawdd bywyd pobl â dementia difrifol: Astudiaeth beilot

Gwahoddir ceisiadau am efrydiaeth Meistr Ymchwil KESS II lawn-amser am gyfnod o flwyddyn yn y Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia ym Mhrifysgol Bangor. Rhaglen Cydgyfeiriant Ewropeaidd o bwys a arweinir gan Brifysgol Bangor yw Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Gwybodaeth (KESS) ac  mae'n cynnig projectau ymchwil cydweithredol (graddau Meistr Ymchwil a PhD) a gynhelir mewn cysylltiad â chwmni lleol.  Cynhelir y project hwn mewn partneriaeth â Fairways Care Ltd.

Amcanion y project

Er bod sylw cynyddol yn cael ei roi i ansawdd bywyd a lles pobl sydd â ffurf ysgafn ar ddementia a dementia cymedrol, rydym yn deall llawer llai ynglŷn â sut i adnabod a chefnogi lles pobl sydd â dementia difrifol. Mae'r Gymdeithas Alzheimer wedi nodi hyn fel bwlch mewn ymchwil cyfredol. Yn gynyddol, defnyddir dulliau sy'n seiliedig ar hawliau ym maes gofal dementia, ond ychydig a wyddys ynglŷn â sut gellir sicrhau hawliau pobl sy'n hollol ddibynnol ar eraill ac yn methu cyfathrebu ar lafar.

Nod yr efrydiaeth hon, fydd yn para am flwyddyn, yw edrych ar ansawdd bywyd a lles pobl sydd â dementia difrifol ac ymchwilio i sut gellir sicrhau hawliau, dewis a gofal personol pobl pan maent yn hollol ddibynnol ar eraill am eu gofal a phan na allent efallai gyfathrebu eu dymuniadau ar lafar.

Bydd y myfyriwr yn gweithio mewn dau gartref gofal, Tŷ Cariad a Glyn Menai. Bydd y myfyriwr yn cynnal cyfweliadau ansoddol gyda staff gofal ac aelodau o'r teulu i archwilio sut maent yn monitro ansawdd bywyd a lles, pa ragdybiaethau a wneir ynghylch gallu pobl sy'n byw gyda dementia difrifol a'r modd y maent yn barnu a yw'r penderfyniadau maent yn eu gwneud er lles gorau'r bobl sy'n byw gyda dementia difrifol. Yn ogystal â hyn, bydd y myfyriwr yn treulio cyfnodau hir o amser yn dod i adnabod preswylwyr gyda dementia difrifol ac yn arsylwi dangosyddion dieiriau ac ymddygiadol o ansawdd bywyd a lles.

Rhoddir sylw i’r cwestiynau canlynol:

1. Sut mae gweithwyr gofal ac aelodau'r teulu yn monitro ansawdd bywyd a lles pobl â dementia difrifol?

2. Pa ragdybiaethau a wneir ynghylch gallu pobl sy'n byw gyda dementia difrifol i wneud penderfyniadau am eu bywyd bob dydd a pham y gwneir y rhagdybiaethau hynny?

3. Sut gall aelodau'r teulu a staff gofal farnu a yw'r penderfyniadau maent yn eu gwneud er lles gorau'r bobl sy'n byw gyda dementia difrifol?

4. Sut mae pobl sy'n byw gyda dementia difrifol yn mynegi gwybodaeth am ansawdd eu bywyd a'u lles?

Bydd yr efrydiaeth KESS II yn cynnwys ffioedd cofrestru yn y DU/UE ynghyd â thâl cynnal o tua £11,000 y flwyddyn, ynghyd â chyllideb tuag at gwblhau'r project (offer, teithio, hyfforddiant, etc.).

Goruchwylwyr: Yr Athro Bob Woods, Dr Katherine Algar a Hannah Jelley.

Cymhwyster: Rhaid i ymgeiswyr fod yn preswylio yn ardal gydgyfeirio Cymru pan gânt eu penodi, a dylai fod ganddynt yr hawl i weithio yn y rhanbarth pan gânt y cymhwyster.

Am ragor o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â k.algar@bangor.ac.uk.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Awst 2016