Cymry’n cymryd rhan mewn ymchwil i ddementia

Yn ôl canlyniadau astudiaeth ymchwil ar raddfa fawr a adroddodd yn gynharach eleni, bu lleihad yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf yn nifer y rhai sydd â dementia. Yn ôl y ffigurau yng nghyswllt Lloegr a nodwyd yn adroddiad yr Astudiaeth ar Weithrediad Gwybyddol a Heneiddio, ceir awgrym, o’u cymhwyso at y DU yn ei chrynswth, fod 214,000 yn llai o achosion o ddementia nag a ddaroganwyd. Byddai hyn hefyd yn awgrymu mai rhyw 670,000 o bobl sydd ar hyn o bryd yn byw yn y DU gyda dementia, yn hytrach na’r amcangyfrif o 800,000-900,000.

I helpu i ddeall y sefyllfa yng Nghymru, mae Prifysgol Bangor yn arwain y fersiwn Cymreig o’r ymchwil hon. Mae’r ymchwilwyr yn bwriadu cyhoeddi ystadegau penodol yr haf nesaf ar y niferoedd sydd â dementia yng Nghymru. 

Mae’r gwaith yng Nghymru hefyd yn canolbwyntio ar y modd y gall agweddau ar fywyd modern effeithio ar ystadegau dementia. Cyllidir y project gwerth £3.3 miliwn gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, ac mae’n rhoi sylw i gwestiynau allweddol ynglŷn â hwyrddydd oes a heneiddio yn y 21ain ganrif nad oes modd eu hateb ar hyn o bryd trwy ffynonellau eraill. Bydd y canlyniadau hyn yn dylanwadu ar bolisi a chynllunio ar gyfer y boblogaeth sy’n heneiddio mewn oes lle, erbyn 2025, bydd un person mewn pump yn y DU dros 65 oed, a 5.5% dros eu 80. Prifysgol Bangor sy’n arwain y gwaith hwnnw, gyda chyfraniadau o ymchwil gan brifysgol Abertawe, Caergrawnt a Lerpwl.

Fel yr eglura’r Athro Bob Woods o’r Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia (CDGD/DSDC) ym Mhrifysgol Bangor,  “Dementia o hyd yw’r sialens sengl fwyaf i wynebu gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn y 21ain ganrif.

“Mae’r project ymchwil helaeth hwn yn efelychu project cyffelyb a gynhaliwyd bron i 20 mlynedd yn ôl ac yn ehangu arno. Bydd yr astudiaeth yng Nghymru yn ychwanegu at ein dealltwriaeth ynglŷn â ph’un a oes ffactorau seicolegol a chymdeithasol, yn ogystal â gwell iechyd ac addysg, yn cyfrannu at y lleihad arwyddocaol yn y risg o gael dementia.

“Er enghraifft, rydym yn edrych ar faterion megis p’un a yw dwyieithrwydd yn dwyn buddion o ran chwimder meddwl yn ddiweddarach mewn bywyd, ac a yw bywydau cymdeithasol a rhwydweithiau pobl yn chwarae rhan o ran cadw eu meddyliau’n iach. Rydym hefyd yn edrych ar y swyddogaeth y gallai gwelliannau o ran maeth a diet ei chyflawni o ran cadw gweithrediad yr ymennydd.”

Ychwanega Dr Gill Windle, o Brifysgol Bangor, sy’n arwain y rhan honno o’r gwaith, “Mae ffordd pobl o fyw wedi newid yn ddirfawr ers 20 mlynedd. Erbyn hyn, mae gan bobl hŷn ddisgwyliadau llawer uwch o fywyd a ffyrdd gwahanol o fyw wrth ochr y rhai a geid 20 mlynedd yn ôl a mwy. Mae pobl yn fwy gweithgar ac yn cymryd rhan mewn mwy o weithgareddau hamdden, yn ogystal â bwyta’n gymharol iach, ond mae eu disgwyliadau ynglŷn â gwasanaethau a anelir at eu grŵp oedran hefyd wedi newid. Bydd yr arolwg yn dilyn rhai o’r newidiadau hyn”.

Mae ymchwil ym Mhrifysgol Bangor eisoes wedi edrych ar wytnwch ymysg pobl hŷn - sut y mae rhai pobl yn fwy abl na’i gilydd i ymdopi â’r anawsterau sy’n codi yn ddiweddarach yn eu hoes. Bydd yr astudiaeth hon yn ymestyn yr ymchwil honno wrth edrych ar y berthynas rhwng gwytnwch â sialensiau i iechyd, megis amhariad gwybyddol, a’r graddau y gall pobl gynnal eu lles, gyda’r bwriad o ymdrin â’r cwestiwn ‘pam a sut y mae rhai pobl yn fwy gwydn na’i gilydd?’

Mae’r ymchwilwyr wrthi’n cynnal cyfweliadau â 3,500 o bobl 65+ oed a ddewiswyd ar hap yn ardaloedd Gwynedd, Môn, Castell Nedd a Phort Talbot.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Tachwedd 2013