Datblygu Rhaglen Ysgolheigion Addysgu Prifysgol Bangor (2020–21) mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cyflwyniad

Llwybr: Gwella Gofal i Bobl Hŷn

<fideo i ddilyn>

Llwybr Trosolwg: Gwella Gofal i Bobl Hŷn

Mae’r Llwybr Gwella Gofal i Bobl Hŷn gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynnwys model arwahanol ar gyfer darparu hyfforddiant a phecyn ar gyfer cyflwyno llwybr hyfforddi o fewn y Bwrdd Iechyd.

Mae datblygiad y Rhaglen ‘Ysgolheigion Addysgu’ yn darparu seilwaith cefnogol i feithrin gallu a chymhwysedd ym maes ymarfer gerontolegol ar gyfer gweithwyr proffesiynol amlddisgyblaethol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae’n darparu fframwaith ar gyfer creu carfan o Ysgolheigion Addysgu a all ddarparu hyfforddiant ynglŷn â gwaith clinigol cymhwysol i gefnogi pobl hŷn, yn rhan o’r strwythur cefnogaeth cymheiriaid a chynaliadwyedd, gyda’r bwriad o angori ‘Ysgolheigion Addysgu’ Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn rhan o raglen Heneiddio a Dementia @ Bangor.

Pwyslais y Rhaglen

Dull cyd-adeiladu a chyfranogol o baratoi a darparu hyfforddiant, gan gynnwys cam paratoi ffurfiol a datblygu ac yna dulliau cyflwyno ar-lein gyda chymorth

Ymgysylltu ag ymarferwyr timau amlddisgyblaethol yn rhan o’r ddarpariaeth ymarferol

Peter Huxley

Podiau Dysgu Sefydledig yn canolbwyntio ar ymarfer gerontolegol fel maes ymarfer a sgilio cadarnhaol

Rajgopal Rajendra

Mentora ac addysgu Ysgolheigion trwy ymwreiddio yn y Brifysgol