Gwybodaeth am y prosiect

 

Hap-dreial rheoledig ac astudiaeth ddichonoldeb ar effeithiau ymyriad e-iechyd 'iSupport' i leihau gofid ymysg gofalwyr dementia, yn arbennig yn ystod pandemig

parhaus COVID-19.

1 Ionawr 2021 am 36 mis.

 

Pwy sy'n cymryd rhan?


Crynodeb

Mae canllawiau'r GIG yn argymell y dylid cynnig hyfforddiant i ofalwyr anffurfiol pobl sy'n byw gyda dementia, fel teulu a ffrindiau, i'w helpu i ddatblygu sgiliau gofal ac i reoli eu hiechyd corfforol a meddyliol eu hunain. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell cynnig mynediad at dechnolegau ar-lein fforddiadwy, sydd wedi'u profi ac sydd wedi'u dylunio'n dda, i addysgu a rhoi hyfforddiant sgiliau a chefnogaeth i ofalwyr dementia.

Mewn ymateb i'r argymhellion hyn, byddwn yn cynnal yr astudiaeth gyntaf yn y Deyrnas Unedig o fuddion rhaglen hyfforddi a chefnogaeth ar-lein. 'iSupport' yw ei enw a chafodd ei ddatblygu gan Sefydliad Iechyd y Byd. Cafodd ei gynllunio ar gyfer gofalwyr dementia i'w helpu i roi gofal da ac i ofalu am eu hunain. Gall gofalwyr ddefnyddio iSupport ar eu cyflymder eu hunain. Gallant ddefnyddio pa bynnag rannau o iSupport sy'n ymddangos yn fwyaf perthnasol iddynt a hynny o leoliad o'u dewis gan ddefnyddio cyfrifiadur, tabled neu ffôn clyfar.

 


 

Byddwn yn cynnal yr ymchwil hon gyda chymorth 350 o ofalwyr dementia yng Nghymru, Lloegr a'r Alban trwy'r dulliau canlynol:

  1. Archwilio effeithiolrwydd iSupport yn lleihau gofid drwy hap-dreial rheoledig. Bydd hanner y gofalwyr yn cwblhau iSupport a'r hanner arall yn derbyn taflenni gwybodaeth. Byddwn yn cyfieithu iSupport i'r Gymraeg i'w ddefnyddio yn yr agwedd hon o'n hymchwil. Bydd yr holl ofalwyr yn ateb holiaduron am straen, iechyd meddwl, gwytnwch a gwybodaeth am ddementia. Byddant yn gwneud hynny dair gwaith dros gyfnod o chwe mis. Trwy gymharu'r ddau grŵp, byddwn yn gallu dangos a yw iSupport yn gwneud mwy na rhoi gwybodaeth yn unig. Bydd y rhai sy'n derbyn y taflenni gwybodaeth yn cael mynediad llawn i iSupport ar ddiwedd ein hastudiaeth.
  2. Deall pa agweddau o iSupport mae gofalwyr yn eu hoffi fwyaf, a beth allai eu digalonni wrth ei ddefnyddio. Byddwn yn cynnal cyfweliadau â grŵp llai (50) o'r gofalwyr ac yn cael trafodaeth hirach gyda nhw am eu syniadau, eu teimladau ac effaith iSupport arnynt. Byddant yn gwneud hynny dair gwaith dros gyfnod o chwe mis.
  3. Archwilio costau a buddion posibl iSupport. Bydd hyn yn golygu bod gofalwyr yn ateb cwestiynau am ddefnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac ansawdd eu bywyd. Byddant yn gwneud hynny dair gwaith dros gyfnod o chwe mis.
  4. Addasu iSupport ar gyfer gofalwyr ifanc (11-17 oed). Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ymyriadau cefnogaeth ar sail tystiolaeth ar gyfer gofalwyr ifanc sy'n gofalu am bobl â dementia. Byddwn yn gweithio gyda grŵp o ofalwyr ifanc ac yn addasu iSupport ar eu cyfer, gan nodi pa ddeilliannau sydd bwysicaf iddynt, ac yn asesu'r fersiwn newydd hon o iSupport gyda 30 o ofalwyr ifanc.

Mae'n bwysig ein bod yn gwneud y gwaith hwn oherwydd mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n byw gyda dementia yn derbyn gofal gartref ac yn derbyn cefnogaeth aelod o'r teulu neu gyfaill sydd â gwybodaeth gyfyngedig am y cyflwr. Mae'r gwaith yn peri straen sylweddol, ac mae llawer o ofalwyr yn dioddef o fwy o salwch meddwl a chorfforol na phobl nad ydynt yn ofalwyr dementia. Mae Covid-19 wedi golygu bod llawer o bobl hŷn wedi gorfod hunan-ynysu, gan roi pwysau cynyddol ar ofalwyr.

Os byddwn yn dangos bod iSupport yn helpu gofalwyr, bydd darparwyr gwasanaeth yn elwa o wybod bod gwasanaeth sydd wedi'i brofi ar gael y gallant ei argymell i ofalwyr dementia. Bydd gofalwyr yn elwa o ostyngiad mewn gofid seicolegol a gwell sgiliau a gwytnwch. Bydd pobl sy'n byw gyda dementia yn elwa o ofalwyr sydd wedi’u paratoi’n well. Gall cymdeithas elwa o gostau gofal is, oherwydd gall gwella gofal yn y cartref ohirio derbyniadau i gartrefi gofal.

 

Cyrhaeddiad ac arwyddocâd

 

Ariennir y project hwn gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd-Rhaglen Ymchwil Iechyd Cyhoeddus (£1.48m).
Rhif y project NIHR130914