Ymchwil Heneiddio a Dementia

ym Mhrifysgol Bangor

 

Canolfan Ymchwil CDGD Cymru

Mae gennym enw da yn rhyngwladol am ymchwil heneiddio a dementia rhyngddisgyblaethol.  Mae ein gwaith wedi'i leoli o fewn y duedd fyd-eang ar gyfer hirhoedledd ac uchelgeisiau polisi rhyngwladol ar gyfer heneiddio'n iach, gan fynd i'r afael â heriau cymdeithasol mawr sy'n ymwneud â byw cystal â phosibl gyda chyflyrau iechyd cronig a dirywiol, gan arbenigo mewn ymchwil dementia.

Rydym yn gweithio'n agos gyda phobl hŷn, pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr, ynghyd â gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau y bydd ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth, yn gwella ansawdd gofal ac yn llywio datblygiad polisi ac ymarfer.

Rydym yn cydweithredu â chydweithwyr yn Ewrop trwy ein haelodaeth o INTERDEM, rhwydwaith ymchwil Ewropeaidd.

O 1 Ebrill 2020, sicrhaodd Canolfan Ymchwil CDGD Cymru £938,000 gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i arwain cyfraniad Prifysgol Bangor i Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia Cymru (CADR), cydweithrediad gwerth £2.8m dan arweiniad Prifysgol Abertawe, a rhan o ymchwil ehangach seilwaith yng Nghymru. Dros y 5 mlynedd nesaf, bydd yr arian hwn yn cefnogi ymchwilwyr i weithio ar y cyd â chydweithwyr, gan gynnwys pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr, i ganolbwyntio ar ddatblygu syniadau newydd, ysgrifennu cynigion ymchwil, cyhoeddi ymchwil a rhannu gwybodaeth.

Tîm Bangor gyda chefnogaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

  • Yr Athro Gill Windle, Cyfarwyddwr Cyswllt CADR; Cyfarwyddwr CDGD Cymru, Ysgol Gwyddorau Iechyd
  • Dr Diane Seddon, Darllenydd mewn Gofal Cymdeithasol, Ysgol Gwyddorau Iechyd
  • Dr Catrin Hedd Jones, Darlithydd mewn Astudiaethau Dementia, Ysgol Gwyddorau Iechyd
  • Dr Catherine MacLeod, Cymrawd Ymchwil, Canolfan Ymchwil CDGD Cymru, Ysgol Gwyddorau Iechyd
  • Dr Patricia Masterson-Algar, Swyddog Ymchwil, Canolfan Ymchwil CDGD Cymru, Ysgol Gwyddorau Iechyd
  • Kiara Jackson, Swyddog Cymorth Prosiect Ymchwil, Canolfan Ymchwil CDGD Cymru, Ysgol Gwyddorau Iechyd
  • Iona Strom, Ysgrifennydd Prosiectau, Canolfan Ymchwil CDGD Cymru, Ysgol Gwyddorau Iechyd

 

Gellir categoreiddio'r prosiectau sy'n cael eu harwain gan ein tîm ymchwil amlddisgyblaethol a'r rhai yr ydym yn cyfrannu atynt o dan dair thema ganolog: