Y celfyddydau mewn iechyd a gofal cymdeithasol

Mae dementia yn flaenoriaeth fyd-eang o ran iechyd y cyhoedd. Ar hyn o bryd does dim iachâd iddo ac mae'r driniaeth feddygol sydd ar gael yn gyfyngedig. Rydym yn arwain ymchwil ryngddisgyblaethol sy’n canolbwyntio ar y celfyddydau mewn gofal dementia. Mae llawer o bobl â dementia a'u gofalwyr wedi elwa o gyfuniad o hyfforddiant, digwyddiadau cyhoeddus a llwyddiant ein canllaw ar-lein i ymarferwyr, 'Dementia a’r Dychymyg' yn cyflwyno'r celfyddydau ynghyd â gwasanaeth iechyd. Dangosodd ein hymchwil sut y gwnaeth ymyriadau celfyddydol wella ansawdd bywyd pobl yr effeithir arnynt gan ddementia, gyda £5 o werth cymdeithasol yn cael ei gynhyrchu am bob £1 a fuddsoddwyd. Mae gennym dystiolaeth o welliannau i ofal a darpariaeth gwasanaethau, canfyddiadau’r cyhoedd a dylanwad ar bolisi cyhoeddus.

Mae effaith ein hymchwil yn cael ei chydnabod mewn astudiaeth achos a gyflwynwyd i Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, lle mae ymchwil o’r ansawdd gorau yn cael ei harchwilio’n annibynnol gan banel o arbenigwyr. https://www.bangor.ac.uk/research/themes/human-sciences/dementia-care

Enghraifft: Mae'r ymchwil yn cyrraedd pobl sy'n byw gyda dementia ac ymarferwyr/darparwyr. Rydym yn gwybod hyn oherwydd:

 

Projectau ymchwil:

  • ‘Sgyrsiau Creadigol: Astudiaeth archwiliadol o ddull o gyflwyno’r celfyddydau mewn gofal iechyd trwy ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a gwella cyfathrebu rhwng staff gofal a phobl sy'n byw gyda dementia.' Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Dyfarniad Gofal Cymdeithasol, £203,286. 1 Hydref 2016 hyd at 31 Mai 2018 (Kat Algar-Skaife, ymchwilydd arweiniol, gyda Gill Windle, John Killick (Dementia Positif), a Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint).


    Ymchwiliai’r project hwn i p’un ai y gellir defnyddio’r celfyddydau fel arf i helpu staff gofal dementia i ddeall mwy am ddementia a gwella eu rhyngweithio â’r bobl y maent yn gofalu amdanynt. Am wybodaeth cliciwch yma.

    Crynodeb Lleyg Sgyrsiau Creadigol: Cymraeg / Saesneg

  • Dementia a’r Dychymyg: Cysylltu cymunedau a datblygu lles trwy ymarfer celfyddydau gweledol sy’n ennyn diddordeb cymdeithasol. Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, £1.2m. Gorffennaf 2013 hyd at Chwefror 2017 (Gill Windle, ymchwilydd arweiniol, gyda Clive Parkinson, Andrew Neman, Vanessa Burholt, Bob Woods, Victoria Tischler, Dave O'Brien, Michael Baber). Gwefan Dementia a'r Dychymyg.

Crynodebau Ymchwil:
Sail ddamcaniaethol rhaglenni celf

Effeithiolrwydd rhaglenni celf

Dadansoddiad economaidd o raglenni celf

Dementia a'r Dychymyg: protocol dulliau cymysg ar gyfer ymchwil i’r celfyddydau a’r gwyddorau

  • Gwerthusiad o 'Zest for Life', rhaglen gelfyddydol arbenigol ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia cynnar. Age Connects Torfaen, £24,952. Ionawr 2019 hyd at Orffennaf 2021 (Prif Ymchwilydd Kat-Algar-Skaife).
  • The Imagination Café. Cronfa Ddilynol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau ar gyfer Effaith ac Ennyn Diddordeb. £100,000. 1 Ionawr 2018 hyd at 31 Rhagfyr 2018 (GW, Cyd-ymchwilydd, gyda Clive Parkinson, Andrew Newman a Victoria Tischler, arweinydd).
  • 'Created out of Mind’: Shaping perceptions of dementia through art and science. The Wellcome Trust Residency Hub, £1,087,059.00. Hydref 2016 am 22 mis (Gill Windle, Cyd-gyfarwyddwr, gyda Seb Crutch (arweinydd), Charlie Murphy, Julian West, Philip Ball, Fergus Walsh).
  • Gwerthusiad annibynnol o cARTrefu: Rhaglen gyfranogol a mentora genedlaethol i’r celfyddydau mewn cartrefi gofal. Age Cymru, £24,874. Ionawr 2015 hyd at Hydref 2017 (Kat Algar-Skaife, ymgeisydd arweiniol). Lansiwyd yr adroddiad gwerthuso yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Hydref 2017. Cyswllt i adroddiadau (Cymraeg) (Saesneg)