Promoting Excellence in All Care Homes (PEACH)

Roedd astudiaeth PEACH yn canolbwyntio ar weithlu'r cartref gofal, sy'n chwarae rôl ganolog wrth hyrwyddo ansawdd y gofal a ddarperir i bobl hŷn, ac maent felly'n ddylanwad mawr ar safon byw trigolion. Mae'r gweithlu mawr hwn, o dros hanner miliwn o bobl mae'n debyg, yn gwneud gwaith sy'n aml yn cael ei weld yn anatyniadol, am dâl a ystyrir sy'n tanbrisio'r cyfraniad a wneir, heb fframwaith gyrfa eglur, mewn sector sy'n nodedig am ei newid cyson.

Mae'r sector ei hun yn aml yn denu cyhoeddusrwydd anffafriol mewn perthynas ag adroddiadau o gam-drin ac esgeulustod, er bod amcangyfrifo graddau'r cyfryw broblemau'n anodd.

 

PEACH - Promoting Excellence in All Care Homes

Mae'r pecyn hyfforddi a gefnogir gan dystiolaeth yn seiliedig ar waith adfyfyriol ac addysg i oedolion, gan ymateb i sylwadau gan lawer o bobl yn ymgynghori â nhw ar gyfer y project. Mae'r prif feysydd yr ymdrinnir â nhw'n cynnwys:

  • Pobl hŷn a heneiddio
  • Urddas
  • Cyfathrebu â Pharch
  • Deall a rheoli ymddygiad
  • Gweithio mewn tîm
  • Diogelu

I weld y ddogfen hon, cliciwch yma.