Hen Blant Bach yn ennill Gwobr Arian mewn Gŵyl Ffilm a Theledu Ryngwladol

Mae rhaglen y bu cyfraniad y Brifysgol yn rhan annatod ohoni wedi derbyn clod rhyngwladol wrth ennill Gwobr Arian yng Ngŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd, a gynhaliwyd yn ddiweddar.

Enilllodd Hen Blant Bach, sy’n gynhyrchiad gan gwmni Darlun, y Wobr Arian yng nghategori rhaglen ddogfen Portreadau Cymunedol. Roedd y gyfres yn fformat ffeithiol newydd gan S4C a oedd yn olrhain arbrawf cymdeithasol unigryw. Yn y rhaglen, ddaeth pobl mewn oed ynghyd â phlant meithrin i rannu eu gofal dydd, gan ddangos yr effeithiau trawsnewidiol sy'n bosib o’u dod at ei gilydd.

Wrth longyfarch yr ymchwilwyr a’r Cwmni cynhyrchu dywedodd Dr Penny Dowdney, Rheolwr Cymru KESS 2  fod y rhaglen boblogaidd wedi bod yn esiampl wych o sut yr oedd cydweithio gydag arbenigwyr yn  galluogi i gwmnïau ddatblygu cynnyrch newydd.

Meddai: “Drwy gydweithio gyda’n harbenigwyr drwy raglen KESS2, mae’r cwmni teledu wedi medru datblygu fformat rhaglen newydd, gyda’r sicrwydd bod ymchwil academaidd  dilys yn rhoi seiliau cadarn i’r rhaglen ddogfen addysgiadol.  Mae hyn yn esiampl wych o sut y gall cyfuniad newydd o bynciau, sydd yn ymddangos yn dra gwahanol, arwain at ddatblygu  syniadau a chynnyrch newydd.”

Rhai delweddau o'r gyfres.Rhai delweddau o'r gyfres.Yn rhannu eu harbenigeddau ar y rhaglen oedd dwy seicolegydd o Brifysgol Bangor, Dr Catrin Hedd Jones, o’r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd a Dr Nia Williams o’r Ysgol Addysg, a ymddangosodd yn y rhaglen, ynghyd â'r Athro Bob Woods.

Dan lygaid barcud y seicolegwyr, cafwyd sylwebaeth graff ar yr hyn oedd yn datblygu rhwng y plant â’r henoed wrth i’r bwlch oedran gael ei bontio – a'r effeithiau cadarnhaol a ddaeth yn ei sgil.

Meddai Dr Nia Williams o’r Ysgol Addysg:

“Roedd yr enwebiad yn gydnabyddiaeth anhygoel o’r gwaith ymchwil ac yn gyfle gwych i roi  Cymru a Phrifysgol Bangor ar y map. Mae ennill Gwobr Arian yn anghredadwy!”

Mae’r gyfres diweddaraf wedi elwa o gefnogaeth Ysgoloriaeth KESS 2 mewn partneriaeth â Darlun.

Esbonia Dr Catrin Hedd Jones: “Mae'r gefnogaeth yma wedi ein galluogi i gynnal ymchwil pwysig i effaith yr tri diwrnod ar y plant, yr oedolion a'r staff sydd ynghlwm â’r sefydliadau. Rydym wedi penodi myfyrwraig dan nawdd y cynllun, sydd yn dilyn cwrs gradd Meistr Ymchwil a gyllidwyd gan KESS 2 ac yn gweithio ar y cyd gyda'r cwmni teledu a’r Brifysgol i ddatblygu’r weithgaredd, gan gasglu gwybodaeth cyn i’r plant a pobl hyn gwrdd â'i gilydd a’u dilyn dros wythnos o weithgareddau.

Mae KESS 2 yn fenter sgiliau lefel uwch Cymru-gyfan a arweinir gan Brifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. Fe’i cyllidir yn rhannol gan raglen cydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF) ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.

Mae hen Blant Bach hefyd ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Adloniant ffeithiol yng Ngwobrau’r Celtic Media Festival, sydd yn cael ei chynnal eleni yn Llanelli rhwng 2-4 Mai.

Gweler hefyd:

https://www.bangor.ac.uk/news/prifysgol/dagrau-a-chwerthin-wrth-i-r-hen-a-r-ifanc-rannu-profiadau-34919

https://www.bangor.ac.uk/news/prifysgol/arbrawf-arloesol-mewn-gofal-sy-n-pontio-cenedlaethau-30131

Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2018