Grwpiau trafod a gemau geiriau o fudd i bobl â dementia

Gall gweithgareddau mor syml â grwpiau trafod strwythuredig a gemau geiriau fod o les i gof a meddwl pobl sydd â chlefyd Alzheimer neu ddementia, yn ôl adolygiad systematig dan arweiniad yr Athro Bob Woods, Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru ym Mhrifysgol Bangor. Canfu’r adolygiad hefyd bod lles y bobl dan sylw yn cynyddu o ganlyniad.

Cyhoeddwyd yr ymchwil gan Cochrane Systematic Reviews. Mae'r adolygiadau hyn yn casglu ynghyd ymchwil ar effeithiau gofal iechyd a chânt eu hystyried fel y safon aur o ran cloriannu effeithiolrwydd gwahanol ymyriadau.

Credir yn gyffredinol bod gweithgareddau sy'n ysgogi'r meddwl yn fodd o arafu dirywiad ymysg pobl â dementia.  Ysgogi gwybyddol yw’r term am y gweithgareddau hyn. Mae ysgogi gwybyddol yn cynnwys darparu gweithgareddau sy’n ysgogi meddwl, cof ac ymwneud cymdeithasol pobl â dementia, er mwyn arafu symptomau dementia. Yn 2011,  cafwyd argymhelliad gan y World Alzheimer Report y dylid cynnig ysgogi gwybyddol fel mater o drefn i bobl â dementia cynnar. Ond mae diddordeb cynyddol yn ei ddefnydd ar gyfer dementia wedi ennyn pryder yn ddiweddar ynghylch ei effeithiolrwydd ac effaith negyddol posibl ar les.

Edrychodd yr adolygiad, a gyhoeddwyd yn The Cochrane Library, ar ganlyniadau 15 o dreialon rheoledig ar hap o bob cwr o'r byd a oedd yn cynnwys 718 o bobl â dementia ysgafn i gymedrol, yn bennaf ar ffurf clefyd Alzheimer neu ddementia fasgwlaidd. Rhoddwyd cyfranogwyr mewn grwpiau bach i gymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau, yn cynnwys trafodaethau, gemau geiriau, cerddoriaeth a phobi. Roedd pob gweithgaredd wedi ei llunio i ysgogi’r meddwl a’r cof. Mesurwyd y gwelliannau yn erbyn y rhai a welwyd nad oedd yn derbyn y driniaeth hon, ond yn derbyn "triniaethau safonol", a allai gynnwys meddyginiaeth, gofal dydd neu ymweliadau gan weithwyr iechyd meddwl cymunedol, neu mewn rhai achosion gweithgareddau amgen fel gwylio’r teledu a therapi corfforol.

"Y canfyddiadau mwyaf trawiadol yn yr adolygiad yw'r rhai sy'n ymwneud ag effeithiau cadarnhaol ysgogi gwybyddol ar berfformiad mewn profion gwybyddol," meddai’r prif awdur, Bob Woods. "Efallai mai’r canfyddiadau hyn yw'r rhai mwyaf cyson eto ar gyfer ymyriadau seicolegol ymysg pobl â dementia."

Sgoriodd y rhai a gymerodd ran yn yr ymarferion ysgogi gwybyddol yn sylweddol uwch mewn profion gweithrediad gwybyddol, sy'n mesur gwelliannau o ran y cof a’r meddwl.  Roedd y gwelliannau hyn yn parhau yn amlwg am gyfnod a barodd rhwng mis a thri mis wedi’r driniaeth. Yn ogystal â hyn, gwelwyd effeithiau cadarnhaol ar gymdeithasu, cyfathrebu a rhyngweithio ac ansawdd bywyd neu les mewn nifer llai o dreialon, yn ôl hunan-adroddiadau neu adroddiadau gan ofalwyr.

Mewn un treial, hyfforddwyd aelodau o'r teulu i ddarparu ysgogiad gwybyddol ar sail un-i-un, a hynny heb iddynt adrodd am unrhyw straen na baich ychwanegol.

"Mae cynnwys perthnasau wrth ddarparu ysgogiad gwybyddol yn ddatblygiad diddorol ac un sy’n haeddu sylw pellach," meddai Woods. "Byddwn yn dechrau treialu’r dull hwn ar raddfa fawr ar y cyd â Choleg Prifysgol Llundain yn ystod y misoedd nesaf a byddwn yn recriwtio pobl â dementia a'u gofalwyr ledled Gogledd Cymru".

Dyddiad cyhoeddi: 15 Chwefror 2012