Astudiaeth i archwilio opsiynau amgen i ganolfannau dydd ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia

Mae Dr Gill Toms, Dr Diane Seddon, yr Athro Rhiannon Tudor-Edwards a Dr Carys Jones o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor, a'u partneriaid Person Shaped Support (UK) Ltd. a Shared Lives Plus, wedi sicrhau cyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer astudiaeth ddwy flynedd i archwilio i opsiynau amgen i gefnogaeth canolfannau dydd ar gyfer pobl yng Ngogledd Cymru sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd. 

Bydd yr astudiaeth yn archwilio gwasanaeth yn y gymuned o'r enw TRIO a ddarperir gan Person Shaped Support (UK) Ltd. Trwy fabwysiadu model Shared Lives, mae pobl sy'n byw gyda dementia yn cael eu paru â phobl eraill sy'n rhannu diddordebau tebyg iddynt ac yna’n treulio amser yn rheolaidd gyda'i gilydd yng nghartref cynorthwywr TRIO sy'n eu cyflwyno i weithgareddau ystyrlon yn y gymuned leol. Mae'r model yn seiliedig ar feithrin perthynas gref rhwng pobl a chadw pobl mewn cysylltiad â'u cymuned leol.

Bydd yr astudiaeth hon yn cyfrannu at waith Grŵp Datblygu Ymchwil ac Ymarfer Seibiannau Byr sy’n gweithio ledled y Deyrnas Unedig. Nod y grŵp yw cynnal ymchwil ystyrlon i effeithiau seibiannau byr amgen. Bydd yr astudiaeth yn defnyddio dadansoddiad economaidd a elwir yn Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad a bydd yr astudiaeth yn helpu i weld pa mor ddefnyddiol yw'r dull hwn wrth werthuso modelau cefnogi yn y gymuned.
Cyswllt: Dr Diane Seddon (d.seddon@bangor.ac.uk) or Dr Gill Toms (g.toms@bangor.ac.uk)

Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2020