Gwelliannau iechyd a gofal cymdeithasol

Mae canlyniadau gwaith o dan y thema hon yn llywio datblygiad a darpariaeth gwasanaethau a darpariaeth gofal, a chynllunio polisi cyhoeddus yn y dyfodol. Rydym yn gweithio i sicrhau bod polisïau cyhoeddus a gwasanaethau gofal yn y dyfodol yn diwallu anghenion eu poblogaethau trwy ymchwil wedi'i seilio ar dystiolaeth sy'n seiliedig ar ddefnyddwyr sy'n hyrwyddo dulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o iechyd a gofal cymdeithasol. I'r perwyl hwn mae ein gwaith a) yn sicrhau bod lleisiau pobl sy'n defnyddio ac yn darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wedi'u hymgorffori yn ein harfer ymchwil; b) yn cyfrannu at ddealltwriaeth o ffactorau sy’n dylanwadu ar iechyd, a phenderfyniadau pobl i ymgysylltu â gwasanaethau iechyd a gofal; c) yn nodi meysydd ar gyfer gwella gwasanaethau; ch) yn grymuso rhoddwyr gofal proffesiynol a theuluol.

Enghraifft:

  • Roedd ein gwaith ar sut mae pobl hŷn yn gwerthuso eu hangen am gymorth yn sail i weithdy Heneiddio'n Dda yng Nghymru ynghylch sut mae pobl yn nodi gwasanaethau; beth sy'n annog pobl i ddefnyddio gwasanaethau; pa rwystrau sy'n atal pobl rhag defnyddio gwasanaethau; a sut allwn ni ddylunio gwasanaethau mwy effeithiol i bobl hŷn? Mynychodd cymysgedd o bobl y gweithdy, gan gynnwys sefydliadau'r trydydd sector, busnesau preifat, ymarferwyr proffesiynol, a'r cyhoedd.
  • Dewiswyd ein gwaith ar allgáu cymdeithasol ac iechyd yn ddiweddarach mewn bywyd i’w gynnwys yn adroddiad blynyddol Understanding Society 2018-2019 ‘Insights’ sy’n arddangos ymchwil gan ddefnyddio data Understanding Society.
  • Mae angen cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia sy’n Gymry Cymraeg iaith gyntaf i drafod eu symptomau a’u teimladau yn eu mamiaith. O’r diwedd rhoddodd Mesur y Gymraeg 2011 statws cyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru, ond prin yw’r ymchwil i brofiadau grwpiau brodorol lleiafrifol o ran Gofal Dementia. Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu ymchwil i ddilysu’r cyfieithiad Cymraeg o’r asesiadau gwybyddol ar gyfer ymarfer clinigol.
  • Mae pobl sy’n colli cof, yn profi dryswch neu anhawster yn canolbwyntio (nam gwybyddol) yn llawer llai tebygol nag eraill o ymweld â deintydd neu gael prawf golwg. Mae hyn er gwaethaf cydnabyddiaeth gynyddol o ddementia, gan gynnwys datblygu cynlluniau dementia cenedlaethol a chanllawiau penodol gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). Mae hyn yn awgrymu bod angen mwy o gymorth arnynt i gael mynediad at wasanaethau iechyd ataliol. Tystiolaeth y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) - Mae pobl â nam gwybyddol yn colli gwiriadau golwg a deintyddol - ymchwil iechyd a gofal defnyddiol a hygyrch.

 

Prosiectau ymchwil:

  • Dilysu offer Asesu Dementia cyfrwng Cymraeg. Iaith Cymru, Catrin Hedd Jones, £90,000. 01/01/2022 - 31/10/2023.

  • Short breaks for people living with dementia and their carers: exploring wellbeing outcomes and informing future practice development through a Social Return on Investment approach. Gill Toms, Diane Seddon, Carys Jones and Rhiannon Tudor Edwards, £206,880, 01/10/2020- 30/09/2022.

  • Social exclusion and use of care services in Wales: experiences of people with cognitive impairment and dementia. Catherine Macleod. Cymrodoriaeth Gofal Cymdeithasol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, £269,300.00. 01/10/2017 – 30/09/2020. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.

  • Short breaks for carers: a scoping review. Diane Seddon. Cyllidwr Shared Care Scotland, £6,000. 01/02/2019 – 30/04/2019.

  • The application of Systems Thinking Approaches to the development of integrated care services for adults with complex care needs: a systematic review. Diane Seddon, Gill Toms, Sarah Fry. Ysgoloriaeth Sgiliau Economi Gwybodaeth. Partner cwmni Awdurdod Lleol Gwynedd, £14,751. 01/12/2018 – 30/11/2019.

  • Everyday lives: exploring the experiences of people with a learning disability in the early stages of the new Social Services and Wellbeing Act (2014) Wales. Diane Seddon, Anne Krayer, Daron Owens. Ysgoloriaeth Sgiliau Economi Gwybodaeth. Partner cwmni Mencap Cymru, £53,476. 01/07/2016 – 30/06/2019.

  • Mind for You – analysis of routinely collected data to explore the impact of short breaks for carers supporting someone with dementia. Diane Seddon a Gill Toms. Parhaus.

  • Embedding Dementia Care Mapping in practice across Wales: A national approach. Ian Davies-Abbott gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. 01/06/2016 – 30/03/2019.

  • Discourse and dementia: influencing social change through the positive experiences of people with dementia. Ian Davies-Abbott, PhD: Prifysgol Bangor. Goruchwylwyr: Jaci Huws, Sion Williams a Carys Jones. 12/10/2015 – 31/12/2019.

 

Labordy Arloesedd Gofal Cymdeithasol (#SCIL):

Gan gydnabod pwysigrwydd cyfranogiad y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol i ymchwil gofal cymdeithasol, mae #SCIL yn fenter o dan ofal y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia a gynlluniwyd i gefnogi dulliau creadigol o ddatblygu ymchwil a chyfnewid gwybodaeth (http://www.cadr.cymru/en/social-care-innovation-lab.htm). Mae #SCIL wedi ei seilio ar dair egwyddor sy'n hanfodol i gynhyrchu tystiolaeth ymchwil gadarn sy'n sail wybodaeth i wireddu amcanion polisi ac ymarfer - cynnwys, arloesi a gwella.

Mae Labordai #SCIL yn cwrdd mewn gofod go iawn neu rithiol gydag, er enghraifft, labordai dros dro yn ymddangos mewn lleoliadau cymunedol i rannu syniadau, profiadau a dealltwriaeth. Maent yn darparu cyfleoedd na cheir yn aml:  

  • Prin yw'r cyfle i archwilio syniadau ymchwil gofal cymdeithasol gyda llawer o wahanol bobl sy'n gweld ac yn ymdrin â phwnc o wahanol safbwyntiau 
  • Prinnach fyth yw'r cyfle i'r holl bobl wahanol hyn wrando ar ei gilydd a dechrau meddwl gyda'i gilydd mewn amgylchedd cefnogol sy'n cydnabod gwerth ymchwil a gyd-gynhyrchir   

Gan weithredu fel canolfan cysylltu, mae #SCIL hefyd yn hwyluso cyfnewid gwybodaeth rhwng pobl, gan eu galluogi i rannu syniadau a thystiolaeth sy'n cyfrannu at gyflawni canlyniadau llesiant, datblygiad proffesiynol parhaus a gwella ansawdd gwasanaethau.  

 

Seibiannau byr ac ystyrlon i ofalwyr a phobl ag anghenion gofal a chefnogaeth cymhleth:

Gan adeiladu ar raglen ymchwil gofalwyr sydd wedi ei sefydlu ym Mangor, mae'r ffrwd ymchwil am seibiannau byr ystyrlon yn ymdrin â maes sydd o ddiddordeb rhyngwladol wrth i lunwyr polisïau ac ymarferwyr geisio datblygu dulliau hyblyg o ddarparu gwasanaethau sy'n cefnogi cysylltiadau gofalu cadarnhaol a chynaliadwy.   Ar ôl mapio'r sylfaen dystiolaeth am seibiannau byr i ofalwyr pobl hŷn (https://www.sharedcarescotland.org.uk/wp-content/uploads/2019/10/05615-Shared-Care-Scotland-research-report.pdf), mae projectau ymchwil cyfredol yn cynnwys Cyd-greu, Comisiynu a Darparu Seibiannau Byr Ystyrlon - gan integreiddio ymchwil, polisi ac ymarfer wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru.  Mae aelodau’r Ysgol (DS) wedi chwarae rhan allweddol yn sefydlu Grŵp Datblygu Ymchwil ac Ymarfer Seibiannau Byr ledled y DU sy’n llunio agenda ymchwil i'r dyfodol ac yn cefnogi meithrin gallu a rhagoriaeth ymchwil mewn maes lle nad oes llawer o ymchwil wedi ei wneud. Mae'r Grŵp yn gweithredu fel cyswllt y DU ar gyfer y Rhwydwaith Cyfnewid Seibiannau Rhyngwladol.

 

Projectau gofal cymdeithasol eraill sy'n ymdrin â sut i wella ansawdd gofal a gwasanaethau:

Mae projectau ymchwil gofal cymdeithasol yn ymdrin â rhai o’r egwyddorion allweddol sy’n sail i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gan gynnwys gwaith amlasiantaeth, llais a rheolaeth ac atal ac ymyrraeth gynnar:

  • Gwaith amlasiantaeth - Cymhwyso dulliau meddwl trwy systemau i gefnogi datblygiad gwasanaethau gofal integredig ar gyfer oedolion ag anghenion gofal cymhleth mae'n cynnwys adolygiad systematig o'r sylfaen dystiolaeth a chydweithio ag awdurdod lleol i ddatblygu argymhellion penodol ar gyfer eu sefydliad.
  • Atal ac ymyrraeth gynnar - Adar y Nos: mae ymchwilio i ofal heb ei drefnu yn y nos yn cynnwys adolygiad cwmpasu, mae'r dadansoddiad o ddata a gesglir yn rheolaidd ar wasanaeth arloesol (yn darparu cefnogaeth heb ei drefnu yn ystod y nos i leddfu pwysau ar y gwasanaeth 999) a chyfweliadau â phobl hŷn.  Mae'r cynnyrch yn cynnwys dulliau penodol o fesur boddhad a chanlyniadau.
  • Llais a rheolaeth - Bywydau bob dydd: ymchwilio i brofiadau pobl ag anabledd dysgu yng nghyfnod cynnar deddf newydd Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant  (2014) Cymru yn cynnwys adolygiad systematig a chyfweliadau naratif gyda phobl sy'n byw gydag anabledd dysgu a'u teuluoedd yn ogystal â gweithwyr proffesiynol allweddol yn y sectorau statudol ac annibynnol.